GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

154 - Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac Anifeiliaid (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 7 Hydref 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Nac ydynt

Y weithdrefn:

Gweithdrefn "gwneud cadarnhaol"

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Amherthnasol

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 18

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Amherthnasol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol

Y weithdrefn

Gweithdrefn "gwneud cadarnhaol"

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

22 Hydref 2019

Sylwadau

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Mae'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (PPC) yn gosod dull cyffredin o reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy ar draws yr Undeb Ewropeaidd (UE) a'i ddyfroedd. Bydd deddfwriaeth bresennol PPC yn cael ei throsi'n gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl ymadael â'r UE. Mae'n ofynnol i'r Rheoliadau hyn sicrhau bod rheoli pysgodfeydd yn y DU yn gallu parhau i weithredu'n effeithlon ar ôl ymadael. O ystyried y dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan, ymddengys eu bod yn creu fframwaith cyffredin bach yn y maes hwn. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud tri chategori o welliannau:

 

  1. gwelliannau sy'n ofynnol o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd PPC yr UE sydd wedi dod i rym ers 29 Mawrth 2019, gan gynnwys gwelliannau i ddeddfwriaeth yr UE ei hun i sicrhau y bydd yn gweithredu'n effeithiol pan ddaw'n gyfraith yr UE a ddargedwir ar y diwrnod ymadael, a gwelliannau i offerynnau statudol presennol a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Deddf 2018);
  2. gwelliannau i ddeddfwriaeth a gafodd eu dadflaenoriaethu gynt oherwydd nad yw'n hanfodol ac y gellir ei diwygio yn ystod y cyfnod ymestyn cyn y diwrnod ymadael newydd;
  3. mân gywiriadau megis gwallau teipograffyddol i'r offerynnau statudol presennol y cyfeirir atynt ym mharagraff 1.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 10 Hydref 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

  1. Mae'r Rheoliadau yn creu swyddogaethau y gall Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU eu harfer ar yr un pryd. O dan Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006), ni chaiff y Cynulliad ddileu nac addasu swyddogaethau cydredol o'r fath (i'r graddau y maent yn cael eu harfer gan Weinidogion y DU) heb gydsyniad Llywodraeth y DU.
  2. Er bod hyn yn cael effaith negyddol ar bwerau deddfwriaethol y Cynulliad, dywed datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru fod swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Llywodraeth y DU wrthi’n trafod, gyda’r bwriad o gyfyngu’r effaith negyddol honno drwy ddiwygio Atodlen 7B i Ddeddf 2006 (drwy orchymyn o dan adran 109 o Ddeddf 2006).
  3. Cododd y Pwyllgor y pwynt hwn mewn perthynas â datganiad ysgrifenedig arall (yn ymwneud â Rheoliadau Mewnforio a Masnachu Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019) ac mae'n dal i aros am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru o ran sut y gellir diwygio Atodlen 7B i Ddeddf 2006.
  4. Gwnaed y Rheoliadau hyn ar 7 Hydref 2019 ac maent yn ddarostyngedig i'r weithdrefn 'gwneud cadarnhaol' frys. Mae Llywodraeth y DU o'r farn ei bod yn bwysig bod y Rheoliadau hyn ar waith ar frys cyn y diwrnod ymadael er mwyn rhoi hyder a sicrwydd i'r cyhoedd a’r byd busnes a sicrhau bod y llyfr statud yn gweithredu’n effeithiol ar ôl ymadael â'r UE.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.