Mike Hedges AC

Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

 

 

14 Hydref 2019

 

Annwyl Mike,

Goblygiadau ariannol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Trafododd y Pwyllgor Cyllid oblygiadau ariannol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) (y Bil) ar 3 Hydref 2019 a chymerodd dystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (y Gweinidog).

O ystyried bod goblygiadau ariannol y Bil yn gymharol fach, roedd y Pwyllgor Cyllid yn teimlo y byddai'n fwy priodol ysgrifennu atoch, fel Cadeirydd y prif bwyllgor sy'n gyfrifol am graffu ar y Bil, i rannu ein hystyriaethau a'n hargymhellion.

Tystiolaeth a barn y Pwyllgor

Nodir costau ariannol amcangyfrifedig a manteision y Bil yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol fel rhan o'r Memorandwm Esboniadol.[1]

Er nad oes syrcasau teithiol gydag anifeiliaid gwyllt yng Nghymru, maent yn ymweld â Chymru, felly, mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi y “bydd cost gweithredu fach i Lywodraeth Cymru” yr amcangyfrifir y bydd yn £6,000. Mae hyn yn cynnwys paratoi canllawiau dwyieithog, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyfathrebu â busnesau yr effeithir arnynt.

O ganlyniad i’r Bil, mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn disgwyl i ymatebion gan Lywodraeth Cymru i ohebiaeth ynghylch defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau “leihau’n sylweddol” gan arbed £9,500 mewn costau amcangyfrifedig dros bum mlynedd. Felly, mae’n bosibl y byddai £3,500 yn cael ei arbed yn gyffredinol erbyn 2025 mewn costau net.

Dywedodd y Gweinidog, ar ôl ymgynghori ag ystod o randdeiliaid a thrafod y data cyhoeddedig o’r Alban (lle y cyflwynwyd y gwaharddiad ym mis Mai 2018) a Lloegr (lle y bydd y gwaharddiad yn dod i rym ym mis Ionawr 2020), fod Llywodraeth Cymru yn hyderus bod y costau amcangyfrifedig a'r manteision yn gywir hyd eithaf ein gallu.[2]

O ran yr effaith bosibl ar awdurdodau lleol a syrcasau, dywedodd y Gweinidog fod ansicrwydd mawr a bod y costau ariannol yn anhysbys.[3]

Yn ystod sesiwn dystiolaeth eich Pwyllgor ar 2 Hydref 2019, roedd tystion o'r gymuned syrcas deithiol yn cydnabod bod y Bil yn debygol o gael goblygiadau ariannol iddynt, ond nad oeddent yn gallu meintioli’r hyn y gallai'r costau fod. Dywedodd Thomas Chipperfield, hyfforddwr anifeiliaid y canlynol:

“the opportunity for economic growth, in terms of my business, would be reduced drastically, because of the consistent nature of circus work, as opposed to the contractual basis that other activities operate on. That, I think, is the fundamental difference, so that the lack of opportunity to engage in regular work in that way would have a significantly negative impact on my business in that fashion.”[4]

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi na fyddai “gorfodi’r Bil yn golygu costau ychwanegol i Awdurdodau Lleol gan y gellid ei gynnal ar y cyd â gweithgareddau gorfodi presennol”.

Ar y mater hwn, dywedodd y Gweinidog y byddai cyn lleied o effaith â phosibl ar awdurdodau lleol o ystyried na fyddai disgwyl iddynt gynnal archwiliadau ychwanegol o ganlyniad i’r Bil.

Casgliad

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn fodlon bod y costau ariannol a'r manteision fel y'u nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn rhesymol ac yn briodol. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor yn ymwybodol o'r costau heb eu meintioli i awdurdodau lleol a syrcasau nad ydynt wedi’u nodi. Byddai'r Pwyllgor wedi disgwyl i'r amcangyfrif gorau gael ei gynnwys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gynnwys barn y Pwyllgor Cyllid fel rhan o'ch adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil.

 

Yn gywir,

Llyr Gruffydd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid



[1] Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), Memorandwm Esboniadol yn ymgorffori’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a’r Nodiadau Esboniadol, Gorffennaf 2019.

[2] Y Pwyllgor Cyllid, Cofnod y Trafodion, 3 Hydref 2019, paragraff 13

[3] Y Pwyllgor Cyllid, Cofnod y Trafodion, 3 Hydref 2019, paragraff 13

[4] Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, Cofnod y Trafodion, 2 Hydref 2019, paragraff 348