Cynulliad Cenedlaethol Cymru Addysg Ymateb gan: Chwarae Cymru ___________________________________
|
National Assembly for Wales Inquiry into Children’s rights in Wales CRW 10 Response from: Play Wales ___________________________________ |
Am Chwarae Cymru
Chwarae Cymru yw’r elusen genedlaethol dros chwarae plant. Rydym yn gweithio i gynnyddu ymwybyddiaeth ynghylch angen a hawl plant a phobl ifanc i chwarae ac i hyrwyddo arfer dda ar bob lefel o’r broses gwneud penderfyniadau ac ym mhobman y gallai plant chwarae. Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb am ddarparu ar gyfer chwarae plant, fel y bydd Cymru un diwrnod yn wlad ble y byddwn yn cydnabod ac yn darparu’n ddigonol ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn. Mae ein tîm o chwech yn gweithio ledled Cymru - mae ein gwaith yn cynnwys:
· Polisi
· Gwasanaeth gwybodaeth
· Cyngor a chefnogaeth
· Datblygu’r gweithlu.
Ein hymateb
Mae Chwarae Cymru’n aelod o Grŵp Monitro CCUHP Cymru, cynghrair genedlaethol o asiantaethau anllywodraethol ac academaidd sy’n gyfrifol am fonitro a hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru. Mae Chwarae Cymru’n cymeradwyo ac ategu’r ymateb a gyflwynwyd gan y grŵp a bydd yr ymateb hwn yn delio’n benodol â materion sy’n ymwneud â’r hawl i chwarae, fel y mae wedi ei gorffori yn erthygl 31 o’r Confensiwn.
A yw’r mesur wedi dylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru?
Mae polisi a deddfwriaeth sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru’n seiliedig ar GCUHP. Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i gyd yn cadarnhau bod dyletswyddau ar awdurdodau cyhoeddus sy’n cyfrannu tuag at gyflawni hawliau plant.[1]
Rydym yn cytuno gyda chasgliadau Hoffman ac O’Neill[2] bod ‘y Mesur wedi sicrhau bod hawliau plant yn fwy gweladwy mewn prosesau polisi y bydd Gweinidogion yn ymdrin â hwy… (ac) er bod heriau’n dal i fodoli wrth weithredu’r Confensiwn yng Nghymru trwy bolisi a chamau gweithredu’r llywodraeth, ar y cyfan, mae’r Mesur wedi cael effaith cadarnhaol ar y modd yr eir ati i ymdrin â pholisi’ (td. 9)
Mae’r Dyletswyddau Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae wedi eu gosod (yn Adran 11) o dan ffocws ehangach trechu tlodi Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, ynghyd â’r honiad y gallai cyfleoedd chwarae liniaru effeithiau negyddol tlodi, cynyddu gwytnwch a lleihau ‘tlodi profiadau’ ymhlith teuluoedd incwm isel.[3] Yng Nghymru, mae digonolrwydd cyfleoedd chwarae’n seiliedig ar hawliau, yn unol â holl bolisïau Llywodraeth Cymru sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc. Cychwynnwyd y dyletswyddau digonolrwydd cyfleoedd chwarae mewn dwy ran (Tachwedd 2012 a Gorffennaf 2014). Mae’r cyfarwyddyd statudol[4] ar asesu ar gyfer a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardaloedd, a gyhoeddwyd i awdurdodau lleol gan Weinidogion Cymru, yn cyfeirio at Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae hefyd yn nodi hawliau eraill y mae’r ddyletswydd yn eu cefnogi yn ychwanegol i’r hawliau a geir yn erthygl 31 (yn enwedig erthyglau 12 a 15).
A yw’r mesur wedi arwain at ganlyniadau gwell i blant?
Yn ddiweddar, comisiynodd Chwarae Cymru brosiect ymchwil graddfa fechan i archwilio canfyddiadau ynghylch yr hyn sydd wedi newid ers cychwyn Dyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru yn 2012. Mae’r astudiaeth hon yn dilyn ymlaen o ddau brosiect ymchwil graddfa fechan blaenorol, un ar yr Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae cyntaf[5] a’r ail fel ymchwiliad dilynol ar agweddau tuag at sicrhau Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae[6]. Mae hefyd yn tynnu ar brofiadau aelodau tîm sy’n gweithio yn a gydag awdurdodau lleol Cymru ar y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a gyda’r arfau cysyniadol a ddatblygwyd yn ystod y cyfnod hwn.
Mae canfyddiadau’r ymchwil yma[7] yn nodi ‘er gwaetha’r heriau a wynebwyd, mae brwdfrydedd mawr yn dal i fodoli ynghylch y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Soniodd pobl am gysylltiadau newydd a llwyddiannau, am chwarae’n cael ei gymryd o ddifrif gan yr awdurdod, ac am fentrau arloesol. Roedd ymdeimlad o werthfawrogiad cyffredinol o natur chwarae plant a’r amodau sydd eu hangen i’w gefnogi, gan gwmpasu darpariaeth benodol yn ogystal â chyfleoedd i blant chwarae a chymdeithasu yn eu cymdogaethau .’
Mae Asesiadau Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn galw am ymgynghori â phlant a gwneir hyn, o leiaf, trwy holiaduron. Mae’r awdurdodau hynny sydd â chapasiti datblygu chwarae wedi datblygu ffyrdd mwy ystyrlon a chyfeillgar at blant o goladu cyd-ddoethineb ynghylch perthynas plant â’u cymdogaethau. Mae hyn wedi profi bod llawer o blant yn dal i chwarae’r tu allan.
Mae ceisio barn y plant ar eu hawl i chwarae’n elfen bwysig o fesur sut y mae’r hawl i chwarae’n cael ei pharchu, ei hamddiffyn a’i chyflawni. Mae Chwarae Cymru’n gweithio gyda’r Dr David Dallimore o Brifysgol Bangor i ddadansoddi holiaduron a gwblhawyd gan bron i 6,000 o blant ar draws ardaloedd tri ar ddeg o awdurdodau lleol yng Nghymru fel rhan o’u Hasesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn 2019. Trwy’r holiadur, mae’r plant yn dweud wrthym beth sy’n dda am y cyfleoedd chwarae yn eu hardal leol a pha mor fodlon ydyn nhw ynghylch pryd, sut a ble y gallan nhw chwarae.
Mae dadansoddiadau cychwynnol[8] yn awgrymu, ar y cyfan, mai’r darlun a gyflwynwyd gan blant ledled Cymru yw pan roddir caniatâd iddynt fynd allan, a phan allant chwarae yn y mannau yr hoffent, bod y mwyafrif o blant yn hapus gyda’r dewis o fannau o safon dda a’u bod, ar y cyfan, yn fodlon gyda’u cyfleoedd chwarae. Fodd bynnag, mae nifer o blant sydd ddim yn gallu chwarae’r tu allan oherwydd cyfyngiadau a osodir gan eu rhieni - sy’n aml â phryderon da eu bwriad am ddiogelwch - ac, o ganlyniad, sydd ddim yn gallu ennill y buddiannau iechyd, cymdeithasol ac emosiynol mwyaf sydd ar gael.
A yw’r Mesur wedi ei sefydlu’n effeithiol ar draws portffolios cabinet Llywodraeth Cymru?
Mae’r holiadur i blant yn gofyn cwestiynau sy’n anelu i ddarogan bodlonrwydd plant gyda’u cyfleoedd chwarae, a thrwy hynny ddynodi’r rhwystrau pwysicaf y mae’r plant yn eu wynebu. Mae’r ymatebion yn cadarnhau bod chwarae’n ‘digwydd pryd bynnag a ble bynnag y bo cyfle’n codi’[9] ac mae’rDdyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae’n cydnabod bod gallu plant i ganfod amser a lle i chwarae’n cael ei effeithio gan holl weithgarwch awdurdodau lleol ac, felly, bod angen i awdurdodau weithio mewn modd traws-adrannol. Mae hyn yn wir hefyd ar lefel llywodraeth genedlaethol. Mae’r Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae wedi arwain at weithio partneriaeth cadarnhaol ar draws awdurdodau lleol[10], ond gellir gwneud mwy ar lefel genedlaethol.
’Does dim dwywaith bod nifer o feysydd polisi a darnau o ddeddfwriaeth sy’n cael eu datblygu fydd yn gwella cyfleoedd ar gyfer chwarae plant. Mae rhai sy’n werth cyfeirio atynt yn cynnwys:
· Y cyfyngiad cyflymder cenedlaethol arfaethedig o 20 m.y.a.
· Cynnwys ariannu ar gyfer darpariaeth chwarae wedi ei staffio fel rhan o Gynllun Peilot Gwaith Chwarae - Newyn Gwyliau a hwyluswyd dros fisoedd yr haf 2019
Fodd bynnag, mae’n anodd asesu os cafodd y penderfyniadau hyn eu dylanwadu un ai gan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 neu Adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. At hynny, ni achubwyd ar y cyfle i gyfeirio at a defnyddio’r ddyletswydd sylw dyledus yn ystod dadleuon, cyfarfodydd llawn a gwaith craffu a wneir gan bwyllgorau gymaint ag y gellid bob amser.
Mae Chwarae Cymru’n croesawu adolygiad chwarae
arfaethedig Llywodraeth Cymru sydd i gychwyn yn hydref 2019.
Bydd hwn yn cynnig cyfle i adolygu gweithio traws-adrannol yn
genedlaethol er mwyn sicrhau bod hawl plant i chwarae’n cael
ei gydnabod a’i wreiddio mewn ffrydiau ariannu, arferion a
pholisïau cenedlaethol.
Pa mor effeithiol yw’r Asesiadau o’r
Effaith ar Hawliau Plant a’r Adroddiad Cydymffurfio?
Er mwyn cefnogi gweithio traws-bortffolio ymhellach, rydym yn argymell y dylai Asesiadau o Effaith ar Hawliau Plant (CRIAs) o safon gael eu cynnal yn gyson ar bob darn o ddeddfwriaeth, penderfyniadau cyllidebol a pholisïau arfaethedig sy’n debygol o effeithio ar blant a phobl ifanc, ac y dylai’r rhain gael eu rhyddhau fel mater o drefn mewn modd amserol i randdeiliaid allanol, ac er mwyn i blant a phobl ifanc, ddylai hefyd fod ynghlwm â’u paratoi, gael craffu arnynt hefyd.
Dynododd Adroddiad Cydymffurfio diweddaraf Llywodraeth Cymru ‘gomisiynu, cydlynu a chefnogi hyfforddiant’ fel un swyddogaeth, y cytunwn sy’n allweddol wrth alluogi swyddogion, yn enwedig y rheini sy’n arwain ar ddatblygu’r CRIA, i feddu ar ddealltwriaeth ddigonol o’r Confensiwn a’r gofynion sylw dyledus a benodir gan y Mesur. Mae’r adroddiad yn datgan bod 648 aelod o staff ar draws 4 adran wedi cwblhau’r hyfforddiant ar-lein yn ystod y cyfnod gaiff ei gwmpasu gan yr adroddiad, nifer sylweddol is nac yn y cyfnod blaenorol. Rydym yn cael ar ddeall bod yr hyfforddiant yn cael ei adfywio a’i ddiweddaru ar hyn o bryd er mwyn gwella ei hygyrchedd. Dylid pwysleisio hefyd, gan nad oes modd dirprwyo’r ddyletswydd sylw dyledus, y dylai Gweinidogion Cymru hefyd gwblhau hyfforddiant yn rheolaidd.
[1] Comisiynydd Plant Cymru (2017) Y Ffordd Gywir: Dull gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru, td. 4
[2] Hoffman ac O’Neill (2019) The Impact of Legal Integration of the UN Convention on the Rights of the Child in Wales, Manceinion: Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, td. 9
[3] Llywodraeth Cymru (2012) Creu Cyfle i Chwarae, y Canllawiau Statudol i Awdurdodau Lleol ar asesu bod digon o gyfleoedd chwarae, Caerdydd: Llywodraeth Cymru
[4] Ibid
[5] Lester, S. a Russell, W. (2013) Welingtons Croen Llewpard, Het Silc a Phiben Sugnwr Llwch: Dadansoddiad o ddyletswydd Asesiad Digonolrwydd Chwarae Cymru, Caerdydd: Chwarae Cymru
[6] Lester, S. a Russell, W. (2014) Mae Tuag at Sicrhau Cyfleoedd Chwarae Digonol: Astudiaeth fer i’r paratoadau a wnaethpwyd ar gyfer cychwyn ail ran Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae Llywodraeth Cymru i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol, Caerdydd: Chwarae Cymru
[7]Russell, Barclay, Derry, Tawil (yn y wasg) Children’s Right to Play in Wales:
Six years of stories and change since the commencement of the Welsh Play Sufficiency Duty, Caerdydd: Chwarae Cymru
[8] Chwarae Cymru (2019) Cylchgrawn Chwarae dros Gymru Rhifyn 53, Haf 2019, Caerdydd: Chwarae Cymru, td. 6 https://www.chwaraecymru.org.uk/login/uploaded/documents/MAGAZINE/Chwarae%20dros%20Gymru%20rhifyn%2053%20Haf%202019.pdf
[9] UNCRC (2013) General Comment 17 on the right of the child to rest, leisure, play, recreational activities, cultural life and the arts (article 31).
[10] Chwarae Cymru (2019) Play Wales reviews of Play Sufficiency documents