GWEINIDOGION Y DU SY’N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

152 - Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gosodwyd yn Senedd y DU: 5 Medi 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Nac ydw

Gweithdrefn:

Wedi'i wneud yn gadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Amherthnasol

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 8

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Amherthnasol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol

Gweithdrefn

Wedi'i wneud yn gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

15 Hydref 2019

Sylwadau

 

Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gan gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 2, 3 a 4 o'r offeryn hwn yn sicrhau bod y gyfraith ar Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid yn gweithredu'n gywir ar ôl i'r DU adael yr UE trwy gynnwys y diwygiadau diweddar canlynol i gyfraith yr UE a setlwyd yn yr UE ond a oedd yn rhy hwyr i gael eu gynnwys mewn deddfwriaeth ymadael â’r UE gynharach, sef:

 

·         Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) 2019/1084 dyddiedig 25 Mehefin 2019, sy'n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 142/2011 o ran cysoni'r rhestr o sefydliadau, planhigion a gweithredwyr cymeradwy neu gofrestredig a'r gallu i olrhain rhai sgilgynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid.

·         Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) 2019/1090 dyddiedig 26 Mehefin 2019, sy'n diwygio Atodiad IV i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â'r gofynion ar gyfer allforio cynhyrchion sy'n cynnwys protein anifeiliaid wedi’i brosesu sy'n dod o anifeiliaid cnoi cil ac anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil.

 

·         Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) 2019/1177 dyddiedig 10 Gorffennaf 2019, sy'n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 142/2011 o ran mewnforio gelatin, perfeddion sy'n creu cyflasynnau a brasterau wedi'u rendro.

 

Mae rheoliad 5 yn cynnwys diwygiadau cymharol fân sy'n delio â gweithrediad effeithiol parhaus deddfwriaeth wrth gefn yr UE, a rhai cywiriadau i anghysondebau yn yr iaith a ddefnyddir.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 12 Medi 2019, ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.