GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
150 - Rheoliadau Mewnforio a Masnachu Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 5 Awst 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Y weithdrefn: |
Negyddol Arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
9 Medi 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
5 Medi 2019 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
19 Medi 2019 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 52 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Amherthnasol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Argymhellir eu huwchraddio |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol drafft |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Nod y Rheoliadau hyn yw sicrhau bod gweithrediad presennol arolygfeydd ffin yn y Deyrnas Unedig yn cael ei gynnal er mwyn sicrhau bod masnach rydd yn parhau i lifo'n rhydd ar ôl y diwrnod ymadael.
Mae deddfwriaeth uniongyrchol gymwysadwy yr UE yn cynnwys cyfeiriadau at Gyfarwyddebau'r Cyngor. Mae angen addasu'r cyfeiriadau hyn er mwyn darparu eglurder ar gyfer parhad y fframwaith cyfreithiol presennol, pan na fydd Cyfarwyddebau'r Cyngor bellach yn gymwys i'r DU. Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu cyfeiriadau at Gyfarwyddebau'r Cyngor fel nad yw'r cyfeiriadau bellach yn ddibynnol ar Gyfarwyddebau'r Cyngor yn bod yn gymwys yn y DU.
Yn ogystal, mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau penodol mewn perthynas ag arolygfeydd ffin yng Nghymru. Bydd y swyddogaethau hyn yn cael eu harfer ar yr un pryd â Gweinidogion y DU.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 15 Awst 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
· Mae'r Rheoliadau'n creu swyddogaethau y gall Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU eu harfer ar yr un pryd â'i gilydd. O dan Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006), ni all y Cynulliad ddileu nac addasu swyddogaethau cydredol o'r fath (i'r graddau y maent yn cael eu harfer gan Weinidogion y DU) heb gydsyniad Llywodraeth y DU. · Er bod hyn yn cael effaith negyddol ar bwerau deddfwriaethol y Cynulliad (er mewn maes cymharol fach), dywed datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru fod swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Llywodraeth y DU yn cynnal trafodaethau, gyda'r bwriad o gyfyngu'r effaith negyddol honno drwy ddiwygio Atodlen 7B i Ddeddf 2006 (drwy orchymyn o dan adran 109 o Ddeddf 2006). · Efallai y bydd y Pwyllgor am ofyn am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gellir diwygio Atodlen 7B i Ddeddf 2006.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. |