GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
149 - Rheoliadau Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol a'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019 Wedi’u gosod yn Senedd y DU: 25 Gorffennaf 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Na |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol drafft |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi |
Amherthnasol |
Dyddiad y daw’r cyfnod sifftio yn Senedd y DU i ben |
Amherthnasol |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 54 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Amherthnasol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol drafft |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
04/09/19 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ’r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi |
05/09/19 |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r offeryn hwn yn diwygio deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (“UE”) a ddargedwir sy'n ymwneud â chyd-drefniadaeth ar gyfer marchnadoedd amaethyddol (“Cyd-drefniadaeth ar gyfer Marchnadoedd” neu “CMO”).
Y CMO yw'r fframwaith ar gyfer y mesurau marchnad y darperir ar eu cyfer o dan y Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin (“PAC”) ers ei sefydlu. Mae'n darparu'r fframwaith ar gyfer cynlluniau i gefnogi'r farchnad a sefydlwyd yn y gwahanol sectorau amaethyddol.
Os ymadewir â'r UE heb i ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir gael ei diwygio, bydd y ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaethau anweithredol a fyddai'n atal Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig rhag gallu cyflwyno'r cynlluniau i gefnogi'r farchnad yn y sector amaethyddol nac yn sector pysgodfeydd. Bydd yr offeryn hwn yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â gweithredadwyedd sy'n codi oherwydd bod y DU yn ymadael â'r UE, a hynny i sicrhau y bydd y CMO yn gallu parhau i weithredu’n effeithiol ar ôl ymadael â’r UE
Bydd y cyfundrefnau yn parhau i weithredu ar ôl i'r DU ymadael â'r UE yn debyg i'r ffordd y gweithient o'r blaen. Mae'r offeryn hwn yn newid hunaniaeth y cyrff sy'n cyflawni'r swyddogaethau penodedig ac yn trosi gweithdrefnau'r UE yn weithdrefnau'r DU, fel sy'n briodol.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 7 Awst 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Nodir yn y datganiad ysgrifenedig:
"Gall swyddogaethau sydd wedi eu trosglwyddo'n gydredol fel eu bod yn arferadwy nid yn unig gan Weinidogion Cymru, ond hefyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru fod yn swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'n bosibl, felly, fod hynny'n ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol.”
Mewn datganiad ysgrifenedig arall (yn ymwneud â Rheoliadau Mewnforio a Masnachu Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019), nododd Llywodraeth Cymru yr eid i'r afael â mater swyddogaethau cydredol sy'n effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad trwy ddiwygio Atodlen 7B I Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (trwy Orchymyn Adran 109).
Fodd bynnag, nid oes awgrym tebyg yn y datganiad ysgrifenedig hwn. Efallai y byddai'n ddefnyddiol gofyn i Lywodraeth Cymru egluro pam.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig. |