GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
148 - Rheoliadau Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Trefniadau Trosiannol etc.) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 Wedi’u gosod yn Senedd y DU: 24 Gorffennaf 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Na |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol drafft |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi |
Amherthnasol |
Dyddiad y daw’r cyfnod sifftio yn Senedd y DU i ben |
Amherthnasol |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 50 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Amherthnasol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol drafft |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
4 Medi 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ’r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi |
5 Medi 2019 |
Sylwadau
Cynigir bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i’r Ddeddf hon. Cynigir iddynt gael eu gwneud o dan y weithdrefn gadarnhaol.
Y trefniant cyffredin ar gyfer marchnadoedd yw’r fframwaith ar gyfer y mesurau sy’n gysylltiedig â’r farchnad y darperir ar eu cyfer o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC), gan ddarparu’r fframwaith ar gyfer y cynlluniau cymorth i’r farchnad a sefydlwyd yn y gwahanol sectorau amaethyddol. Cafodd y trefniant cyffredin ei sefydlu fel ffordd o gyflawni amcanion y PAC ac yn benodol i sefydlogi marchnadoedd, sicrhau safon byw deg i gynhyrchwyr amaethyddol a chynyddu cynhyrchiant amaethyddol. Dros amser, mae’r trefniant wedi ehangu i ddarparu pecyn cymorth sy’n galluogi’r Undeb Ewropeaidd i reoli ansefydlogrwydd y farchnad, cymell cydweithredu rhwng cynhyrchwyr amaethyddol, cynyddu gallu cynhyrchwyr i gystadlu a hwyluso masnach. Roedd Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin a Chyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (“y prif Reoliadau”) (OS 2019/828) yn mynd i’r afael â’r materion o ran gweithredadwyedd a grëwyd gan benderfyniad y Deyrnas Unedig i ymadael â’r UE sy’n ymwneud â meysydd polisi’r trefniant cyffredin ar gyfer marchnadoedd i sicrhau y gall y trefniant hwn barhau i weithredu’n effeithiol ar ôl ymadael.
Hefyd, roedd y prif Reoliadau yn diwygio deddfwriaeth bresennol yr UE sy’n rhan o gyfraith y DU sy’n gysylltiedig â’r trefniant cyffredin, ac yn darparu datrysiadau o ran gweithredadwyedd i’r meysydd polisi a ganlyn:
· cydnabod sefydliadau cynhyrchwyr; · contractau ysgrifenedig yn y sector llaeth; · rheolau apelio ynghylch amddiffyn dangosyddion daearyddol; · hwyluso a rheoleiddio mewnforio rhai cigoedd; · gwinoedd a bwydydd eraill; a · chaniatáu ad-daliadau allforio ar gyfer nwyddau amaethyddol wedi’u prosesu.
Mae’r Rheoliadau presennol yn diwygio’r prif Reoliadau yn y modd a ddisgrifir yn natganiad Llywodraeth Cymru sydd wedi’i atodi i’r Adroddiad hwn.
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru, dyddiedig 7 Awst 2019, ynghylch effaith y Rheoliadau presennol.
1. Mae datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y Rheoliadau presennol fel ‘Rheoliadau 2019’ er y cafodd y Rheoliadau sy’n cael eu diwygio (2019/828) eu gwneud yn 2019 hefyd.
2. Mae copi o’r datganiad wedi’i atodi i’r adroddiad hwn. Mae’n nodi diben y diwygiadau, yr effaith ar gymhwysedd datganoledig a’r rheswm pam na roddwyd cydsyniad.
3. Newidiodd y prif Reoliadau gyfeiriadau at Aelod-wladwriaethau yn Rheoliad (UE) Rhif 1308/2013 gan Senedd Ewrop a’r Cyngor gan sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol. Yn y rhan fwyaf o achosion, newidiwyd hynny i gyfeirio at yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae Pennod III o Deitl II o Ran II o Reoliad 1308/2013 yn ymdrin â sefydliadau a chymdeithasau cynhyrchwyr a sefydliadau rhyng-ganghennol. Roedd y prif Reoliadau yn rhoi ‘yr Ysgrifennydd Gwladol’ yn lle ‘Aelod-wladwriaethau’ drwy gydol y Bennod honno ac eithrio ym mharagraff 3 o Erthygl 163, lle rhoddwyd yr ‘awdurdod priodol’ yn lle ‘Aelod-wladwriaethau’, sef Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru. Serch hynny, mae’n ymddangos, yng nghyd-destun yr holl newidiadau eraill a wnaed gan y prif Reoliadau i Reoliad 1308/2013, mai gwall drafftio oedd hwn sydd bellach yn cael ei gywiro.
4. Nid yw’n ymddangos ei fod yn gyfystyr â newid polisi. Yn hytrach, mae’n adlewyrchiad cywir o’r polisi cynharach, na chydsyniodd Gweinidogion Cymru ag ef, am resymau a eglurwyd yn y datganiad ysgrifenedig ar 1 Mawrth 2019 mewn perthynas â’r prif Reoliadau.
5. Mae Llywodraeth Cymru yn datgan bod y ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy’n cael ei diwygio yn ymwneud ag amaethyddiaeth, sy’n amlwg wedi’i datganoli. Mae Llywodraeth y DU, yn ei Memorandwm Esboniadol ar y Rheoliadau presennol, yn nodi: “This instrument relates to the reserved policy areas of regulation of international trade, import and export controls, and regulation of anti-competitive practices and agreements.” Mae Pennod III yn awgrymu, at ddibenion y setliad datganoli, fod cydnabod sefydliadau cynhyrchwyr, yn wir, yn ymwneud ag amaethyddiaeth fel pwnc datganoledig, a bod unrhyw gysylltiad â’r materion a gedwir yn ôl a nodwyd gan Lywodraeth y DU yn llac neu’n ganlyniadol. Ni fyddai’n gysylltiedig, felly, â’r materion hynny a gedwir yn ôl.
6. Felly, mae’r prif Reoliadau, fel y’u diwygiwyd gan y Rheoliadau presennol, i bob pwrpas yn gosod fframwaith cyffredin yn groes i’r Cytundeb Rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae Gweinidogion Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i fynegi eu pryderon, a byddai’n briodol i’r Cynulliad gymryd diddordeb brwd yn yr ymateb sy’n dod i law.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys datganiad Llywodraeth Cymru yn cadarnhau effaith y Rheoliadau. |