GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
147 - Rheoliadau Bwyd a Diod (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 10 Gorffennaf 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Ydynt |
Y weithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
16 Gorffennaf 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
23 Gorffennaf 2019 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
3 Medi 2019 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 48 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Heb ei argymell i'w uwchraddio |
Y weithdrefn |
Negyddol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.
Yn bennaf, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth gwin, ond hefyd maent yn gwneud mân ddiwygiadau i reolau gwybodaeth am fwyd. Nod allweddol y Rheoliadau yw sicrhau bod rheolau priodol ar waith sy’n gymwys i symud a rheoli cynhyrchion gwin o safbwynt cyfundrefn a thollau. Mae'r rheolaethau hyn yn ymwneud â dogfennau sydd i gyd-fynd â symudiadau cynnyrch gwin ac unrhyw ofynion ardystio. Cyflwynir newidiadau tebyg hefyd i reolau ar y cofnodion a'r datganiadau y mae'n rhaid eu cadw mewn perthynas â chynhyrchu a masnachu gwinoedd ac sy'n nodi'r cyrff sy'n gyfrifol am gynnal y rheolaethau a'r gwiriadau hynny.
Mae'r Rheoliadau'n golygu mai'r Ysgrifennydd Gwladol yw'r corff cyswllt sy'n gyfrifol am gyswllt swyddogol â thrydydd gwledydd sy'n ymwneud â materion sy’n gymwys i’r Rheoliadau ar gyfer cynhyrchion gwin a fewnforir i'r Deyrnas Unedig, neu a allforir o'r Deyrnas Unedig. Ni chaiff yr Ysgrifennydd Gwladol weithredu fel corff cyswllt o'r fath heb gydsyniad Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chynhyrchion gwin a fewnforir i Gymru neu a allforir o Gymru.
Mae'r Rheoliadau'n gorfodi’r Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi gwybodaeth a rhestrau penodol mewn perthynas â'r awdurdodau sy'n cynnal prosesau penodol o ran mewnforio ac allforio gwin. Ni chaiff yr Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi gwybodaeth a rhestrau o'r fath lle y maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.
Gwneir mân newidiadau hefyd i gyfreithiau gwybodaeth am fwyd i'w gwneud yn gydnaws â deddfwriaeth a gyflwynwyd gan Cyllid a Thollau EM i ddisodli cyfreithiau penodol eraill a fydd yn peidio â gweithredu ar ôl i'r DU adael yr UE.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 7 Awst 2019, ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. |