GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
144 - Rheoliadau Storio Carbon Deuocsid (Diwygio a Phŵer i Ddiwygio) (Ymadael â'r UE) 2018. Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 17 Rhagfyr 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol drafft |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Amherthnasol |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amherthnasol |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 42 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Amherthnasol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Gweithdrefn |
Cadarnhaol drafft |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
9 Ionawr 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
15 Ionawr 2019 |
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adran 8(1), a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae Cyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 23 Ebrill 2009 ar storio daearegol carbon deuocsid (“Cyfarwyddeb CCS”) yn sefydlu fframwaith cyfreithiol ar gyfer storio daearegol carbon deuocsid yn amgylcheddol ddiogel. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth sy'n rhan o weithrediad y Deyrnas Unedig o Gyfarwyddeb CCS. Maent yn ceisio mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol a diffygion eraill sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd. Maent hefyd yn gwneud dau fân welliant nad ydynt yn gysylltiedig ag ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd gan gywiro croesgyfeiriadau hynafol ac anghywir. Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 29 Gorffennaf 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae'r llythyr ar 26 Gorffennaf 2019 gan y Cwnsler Cyffredinol yn esbonio pam y gwnaed y datganiad ysgrifenedig yn 2019.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. |