GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
143 - Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 18 Rhagfyr 2018 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Y weithdrefn: |
Negyddol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Amherthnasol |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amherthnasol |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 40 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Y weithdrefn |
Negyddol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
23 Ionawr 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
14 Ionawr 2019 |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i un ar ddeg o ddarnau o is-ddeddfwriaeth ac un Rheoliad yr UE sy'n gweithredu'n uniongyrchol, pan ddaw’n rhan o gyfraith y DU ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Mae'r diwygiadau'n ymwneud â materion y nodwyd eu bod yn fethiannau yn y ddeddfwriaeth sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r UE, gan sicrhau y bydd mesurau diogelu iechyd a diogelwch yr UE yn parhau i fod ar gael mewn cyfraith ddomestig ar ôl y diwrnod ymadael.
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gwneud unrhyw newidiadau polisi y tu hwnt i'r bwriad o sicrhau gweithredadwyedd parhaus y ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae Rheol Sefydlog 30C.3(ii) yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru “nodi unrhyw effaith y caiff yr offeryn statudol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a / neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru”. Nid yw datganiad Llywodraeth Cymru, dyddiedig 29 Gorffennaf 2019, yn nodi pa bwerau deddfwriaethol y Cynulliad na pha bwerau gweithredol Gweinidogion Cymru y mae'r offeryn hwn yn effeithio arnynt. Felly, mae’r cynghorwyr cyfreithiol yn argymell y dylid ceisio eglurhad ynghylch pa bwerau datganoledig yr effeithir arnynt.
Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, dyddiedig 26 Gorffennaf 2019, rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru o raglen Llywodraeth y DU o OSau Ymadael â’r UE mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru. Mewn perthynas â'r offeryn hwn, nododd y Cwnsler Cyffredinol y canlynol:
“Cafodd yr OS [Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018] ei osod yn Senedd y DU ar gyfer sifftio cyn y cytunwyd ar y newidiadau i’r Rheolau Sefydlog, gan arwain at 30C. Er hynny, cafodd cydsyniad i'r OS hwn ei geisio a'i roi a byddwn yn hysbysu'r Cynulliad am hyn hefyd."
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Gan ei bod yn aneglur o ddatganiad Llywodraeth Cymru, dyddiedig 29 Gorffennaf, beth fydd effaith bosibl y Rheoliadau ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru, nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi gallu asesu a oes unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. |