GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

 

142 - Rheoliadau Amaethyddiaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 25 Gorffennaf 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Nac ydy

Gweithdrefn:

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Amherthnasol

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 38

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol 

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

4 Medi 2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

5 Medi 2019

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r offeryn hwn yn diwygio darpariaethau deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ("UE") sy'n ymwneud â Pholisi Amaethyddol Cyffredin yr UE a’r Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd Amaethyddol, gan gynnwys nifer o swyddogaethau deddfwriaethol penodol sydd ar hyn o bryd yn cael eu harfer gan y Comisiwn Ewropeaidd. O dan y diwygiadau, bydd y swyddogaethau hyn yn lle hynny yn cael eu harfer gan awdurdodau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig ("DU"). Bydd hynny’n caniatáu i’r swyddogaethau deddfwriaethol hyn i barhau i gael eu defnyddio ar lefel genedlaethol ar ôl i'r DU adael yr UE.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 29 Gorffennaf 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

 

1.        Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y canlynol yn ei datganiad: ysgrifenedig:

·         “Mae'r offeryn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau gweinyddol a deddfwriaethol eu natur, a fydd yn arferadwy ganddo ef yn unig, i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol yn swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU. [pwyslais wedi’i ychwanegu]

 

·         (Swyddogaethau a drosglwyddir i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd) Mae'n bosibl bod rhoi swyddogaeth weinyddol i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn golygu bod paragraff 10 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gymwys. Mae'r paragraff hwn yn darparu na chaiff darpariaeth mewn Deddf gan y Cynulliad ddileu nac addasu, na rhoi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i ddileu neu i addasu, unrhyw un o swyddogaethau awdurdod cyhoeddus ac eithrio awdurdod datganoledig Cymreig, oni fydd Gweinidog (priodol) y DU yn cydsynio i’r ddarpariaeth. Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, byddai gofyn cael cydsyniad Gweinidog priodol y Goron. [pwyslais wedi’i ychwanegu]”

 

2.      Mae Rheol Sefydlog 30C.3(ii) yn datgan bod yn rhaid i'r datganiad ysgrifenedig “nodi unrhyw effaith y caiff yr offeryn statudol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru”. Barn y Cynghorwyr Cyfreithiol yw bod y brawddegau yn natganiad Llywodraeth Cymru y tynnir sylw atynt uchod yn 'awgrymu' yn hytrach na 'nodi'.

 

3.      Mae Llywodraeth Cymru, yn ei datganiad ysgrifenedig, wedi nodi y bu anghytuno â Llywodraeth y DU ynghylch a yw cynlluniau yn ymwneud â'r Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd a'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn faterion datganoledig neu'n faterion a gedwir yn ôl.

 

 

4.      Gan fod Llywodraeth y DU o'r farn mai materion a gedwir yn ôl yw'r rhain, nid yw'n credu eu bod yn ddarostyngedig i delerau'r Cytundeb Rhynglywodraethol, ac felly nid yw wedi ceisio cydsyniad gan Weinidogion Cymru. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai materion datganoledig yw'r rhain.

 

5.      Er gwaethaf yr anghytuno ynghylch a yw'r materion dan sylw wedi'u datganoli neu'n faterion a gedwir yn ôl, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn fodlon bod effaith y Rheoliadau hyn yn cyflawni amcanion polisi cyffredinol Gweinidogion Cymru o ran diogelu a chynnal gweithrediad effeithiol marchnadoedd amaethyddol yn y DU.

 

 

6.     Mae rhai o'r diwygiadau a wneir gan yr offeryn hwn yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau gan ddefnyddio offeryn negyddol. Mae’r pwerau hyn yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed. Er bod Llywodraeth y DU o'r farn bod unrhyw welliannau o'r fath yn debygol o fod yn fân welliannau, mae'n bosibl y gallai darpariaethau o'r fath ddeddfu darpariaethau sydd â phwysau neu effaith sylweddol, sef darpariaethau y byddai’r weithdrefn gadarnhaol yn fwy addas ar eu cyfer.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn tynnu sylw at baragraffau 3 a 4 yn y sylwadau uchod ynghylch datganiad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pharagraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.