GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

140 - Rheoliadau Rhyddid i Ymsefydlu a Symud Gwasanaethau yn Rhydd (Ymadael â’r UE) 2019

Gosodwyd yn Senedd y DU: 11 Gorffennaf 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Amherthnasol

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 36

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol 

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

4 Medi 2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

23 Gorffennaf 2019

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae Rheoliadau Rhyddid i Ymsefydlu a Symud Gwasanaethau yn Rhydd (Ymadael â’r UE) 2019 ('yr Offeryn hwn') yn datgymhwyso darpariaethau ar gyfer rhyddid i ymsefydlu a symud gwasanaethau yn rhydd sy'n parhau fel hawliau sy'n effeithiol yn uniongyrchol mewn cyfraith ddomestig, yn rhinwedd adran 4 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.  'Hawliau sy'n effeithiol yn uniongyrchol' yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at ddarpariaethau yng nghyfraith yr UE sy'n ddigon clir, manwl a diamod o ran rhoi hawliau i unigolion yn uniongyrchol, a gellir dibynnu ar y rhain yn y gyfraith genedlaethol heb fod angen mesurau gweithredu.

 

O ganlyniad i'w haelodaeth o'r UE, fe rwymir y DU i gytundebau dwyochrog ac amlochrog yr UE, gan gynnwys: y Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (Cytundeb yr AEE); y Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau a Chydffederasiwn y Swistir ar ryddid pobl i symud (FMOPA); a'r Cytundeb sy'n sefydlu Cymdeithas rhwng y Gymuned Economaidd Ewropeaidd a Thwrci a lofnodwyd yn Ankara ('Cytundeb Ankara') a Phrotocolau dilynol. Yn 2009, cadarnhaodd y DU y Cytundeb ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (TFEU).

 

Mae'r Offeryn hwn yn ymwneud â hawliau sy'n effeithiol yn uniongyrchol sy'n deillio o Erthygl 49 TFEU (rhyddid i ymsefydlu), Erthygl 56 TFEU (symud gwasanaethau yn rhydd) ac Erthygl 57 TFEU (diffiniad o 'gwasanaethau'). Gyda'i gilydd, mae'r hawliau i ymsefydlu a symud gwasanaethau yn rhydd yn sicrhau y caiff gwladolion o diriogaethau Aelod-wladwriaethau'r UE fod yn hunangyflogedig, perchen ar gwmni a'i reoli, a darparu gwasanaethau dros dro o dan yr un amodau â gwladolion y Wladwriaeth ei hun, a'u bod yn cael gwasanaethau heb wynebu rhai cyfyngiadau ym Marchnad Sengl yr UE. Mae'r rhyddid i ymsefydlu a symud gwasanaethau yn rhydd yn rhan o Farchnad Sengl yr UE, sy'n cynnwys symudiad rhydd o ran nwyddau, pobl, gwasanaethau a chyfalaf.

 

Mae'r Offeryn hwn hefyd yn ymwneud â hawliau rhyddid i ymsefydlu a symud gwasanaethau yn rhydd sy'n deillio o Gytundeb yr AEE, FMOPA, a Chytundeb Ankara a'r Protocol Ychwanegol.

 

Mae adran 4 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn darparu y bydd yr hawliau sy’n llifo i gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 yn parhau i gael eu cydnabod ac i fod ar gael mewn cyfraith ddomestig. Mae hyn yn cynnwys sylwedd hawliau sy'n effeithiol yn uniongyrchol mewn perthynas â symud gwasanaethau yn rhydd a'r rhyddid i ymsefydlu. Os na fydd y DU yn gadael yr UE o dan delerau Cytundeb Ymadael (h.y. senario 'dim cytundeb'), bydd yr elfennau dwyochredd sy'n rhan o'r hawliau sy'n effeithiol yn uniongyrchol o ran symud gwasanaethau yn rhydd, fel sy'n deillio o Erthyglau yn y TFEU, Cytundeb yr AEE, FMOPA, Cytundeb Ankara a'r Protocol Ychwanegol, yn peidio â gweithredu'n effeithiol yn y DU.

 

Er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw anweithredoldeb ac i sicrhau bod cyfraith y DU yn parhau i weithredu’n effeithiol, gydag eglurder cyfreithiol, ac i sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â’i rhwymedigaethau Sefydliad Masnach y Byd (WTO), gan gynnwys y Cytundeb Cyffredinol ar Fasnach mewn Gwasanaethau, mae angen anghymwyso’r hawliau hyn.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 15 Gorffennaf 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.