GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

84 - Rheoliadau Ystadegau'r DU (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 24 Ionawr 2019 

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Oedd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

5 Chwefror 2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

yr wythnos yn dechrau

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

12 Chwefror 2019

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 11

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Papur 12

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Ddim yn hysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro diffygion mewn deddfwriaeth sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â darparu gwybodaeth ystadegol. Yn benodol, mae'r offeryn hwn:

·         Yn diwygio Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 er mwyn sicrhau bod cyfeiriadau at gyfraith yr UE yn cael eu newid i gyfeirio at gyfraith gyfatebol briodol yr UE a ddargedwir;

·         Yn diwygio un Ddeddf a phedwar offeryn statudol fel bod y cyfeiriadau at rai safonau Ewropeaidd yn parhau i gyfeirio at yr UE, yn hytrach na'r fersiwn o'r safonau hynny a ddargedwir gan yr UE; a

·         Yn dirymu'r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy'n:
(a) pennu trefniadau'r UE o ran y modd y dylai Aelod-wladwriaethau lunio data ystadegol, a'r modd y dylai Eurostat drosglwyddo data ystadegol; a
(b) pennu safonau a dosbarthiadau technegol mewn perthynas â rhai data ystadegol, ynghyd â chyfraith gyfatebol berthnasol yng nghytundeb yr AEE a ddargedwir.  

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 29 Ionawr 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.