GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

52 - Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 5 Rhagfyr 2018

Sifftio

A fydd angen sifftio yn Senedd y DU?

Nac oedd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Dd/B

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Dd/B

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Dd/B

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 12

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Papur 13

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Dd/B

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i'r Ddeddf.

 

Mae'r Rheoliadau yn diwygio deddfwriaeth ddomestig sy'n gweithredu deddfwriaeth yr UE ym maes diogelu a gwella dŵr.  Bydd y Rheoliadau yn sicrhau bod y maes cyfraith hwn yn parhau’n weithredol yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 10 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd datganoledig. Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.