Ymgynghoriad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Evidence submitted to the Children, Young People and Education Committee for Stage 1 scrutiny of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill

CADRP-563

CADRP-563

Cyflwynwyd yr ymateb hwn yn Gymraeg.

Amdanoch Chi

Unigolyn

1      Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1     A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)?

-       Ydw

1.2     Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

Rwyf yn dad i bedwar o blant sydd nawr yn oedolion. Heb os mae'r profiad o fagu plant yn haws ac yn fwy dymunol heb daro. Mae'n well i blant ac yn well i'r rhieni hefyd, ac mae'n cydnabod bod gan bawb, beth bynnag eu hoed, hawliau dynol. Os nad yw'r gyfraith yn glir mi fydd rhai yn parhau i ddefnyddio cosb gorfforol yn ddibwrpas.  Mi fydd rhai yn ei gam-ddefnyddio a bydd plant yn dioddef.  Mae'n hen bryd bod Cymru'n gwneud y newid gwaraidd hwn a croesawaf y newid yn y gyfraith yn y pendraw.

1.3     A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

Ydw.

2      Gweithredu’r Bil

2.1     A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

Nac oes.

2.2     A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

Ydw.

3      Canlyniadau anfwriadol

3.1     A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

Nac ydw.

4      Goblygiadau ariannol

4.1     A oes gennych farn ar oblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os na, ewch i gwestiwn 5.1

Dim sylwad. Mater o hawliau dynol yw hyn beth bynnag.

5      Ystyriaethau eraill

5.1     A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

Nac oes.