Ymgynghoriad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Evidence submitted to the Children, Young People and Education Committee for Stage 1 scrutiny of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill

CADRP-473

CADRP-473

Cyflwynwyd yr ymateb hwn yn Gymraeg.

Amdanoch Chi

Unigolyn

1      Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1     A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)?

-       Nac ydw

1.2     Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

Maer ddeddfwriaeth sydd mewn lle ar hyn o bryd yn ddigonol. Does dim angen newid y ddeddfwriaeth hon. Maer heddlu a gweithwyr cymdeithasol dan straen fel y mae ag fydd hyn yn codi lefelau eu gwaith nhw y straen ar gost hefyd. O fewn rheswm dyle  rhieni gael penderfynnu sut i ddisgyblu eu plant. Sut mae llywodraeth Cymru yn meddwl bod y nhw yn gwybod yn well na rhieni. Dydir boblogaeth ddim o blaid hwn ychwaith. Dwin rhiant ar dri o blant a dwin gweld o ddydd i ddydd sut mae teuluoedd ysgolion a cymdeithas yn methu disgyblu ein plant an pobl ifanc a dyma llywodraeth Cymru nawr am wneud pethaun annoddach fyth wrth erlyn rhieni syn disgyblu eu plant yn rhesymol ag mewn cariad ag mewn gobaith sicr y bydd y plant ynan dod i fod yn ddinasyddion da i Gymru. Plis ewch ir afael a tlodi plant trais plant a safonau addysg plant - rhowch mwy o gymorth i deuluoedd Cymru ond plis peidiwch a ymyrryd yn sut y byddwn yn disgyblu ein plant o fewn y gyfraith syn hollol briodol yn barod.

1.3     A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

Na dim o gwbl. Maer ddeddfwriaeth sy mewn lle yn hollol gymwys. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn codi straen ar heddlu ar gweithwyr cymdeithasol. Bydd costau yn codi. Byddwch yn ddewr a cydnabyddwch bod dimangen y ddeddfwriaeth hon.

2      Gweithredu’r Bil

2.1     A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

Bydd rhieni yn cael ei erlynnu ar gam. Bydd y gost o blismonna hwn yn uchel ar gost heb angen. Dydi pobl Cymru ddim eisiau y ddeddfwriaeth hwn.

2.2     A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

Nag ydw. Lle mae rhieni sydd am ddisgyblu ei plant o fewn rheswm ag yn unol ai hegwyddorion neu ei crefydd neu ei hawliau dynol yn cael ei hamddiffyn yma? Y mae gen bob person hawl i barch at ei deulu ag bydd erlynnu rhiant syn disgyblu ei blentyn yn rhesymol yn groes i hawliau dynol y rhiant.

 

3      Canlyniadau anfwriadol

3.1     A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

Oes erlynnu rhieni syn hollol rhesymol ag syn ceisio disgyblu ei plant yn rhesymol. Bydd hyn yn arwain at gostau heddlu gweithwyr cymdeithasol a llysoedd a costau cyfreithiol ag os yn euog bydd plant sydd yn cael ei dwyn i fynu mewn teulu sefydlog disgybliedig yn cael yn yr eithaf ei gwahanu oddi wrth ei teuluoedd. Da iawn chi!!!

Bydd angen ir llywodraeth gynnig hyfforddiant i rhieni ar sut i ddisgyblu.Cost arall.

Byddwch yn ddewr a penderfynnu peidio bwrw mlaen gydar ddeddfwriaeth yma. Dyw pobl Cymru ddim o blaid hwn. A hwn yn ddemocratiaeth?

4      Goblygiadau ariannol

4.1     A oes gennych farn ar oblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os na, ewch i gwestiwn 5.1

Bydd angen hyfforddiant i bob rhiant yn y dull newydd o ddisgyblu.

 

5      Ystyriaethau eraill

5.1     A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

Plis peidiwch a gwneud rhieni rhesymol syn disgyblu ei plant yn gywir ag mewn cariad yn droseddwyr.