Ymgynghoriad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)
Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) |
Evidence submitted to the Children, Young People and Education Committee for Stage 1 scrutiny of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill |
CADRP-248 |
CADRP-248 |
Cyflwynwyd yr ymateb hwn yn Gymraeg.
Amdanoch Chi
Unigolyn
- Nac ydw
Fel athrawes rydw i'n ymwybodol na all y gwasanaethau cymdeithasol ddelio yn effeithiol gyda'r llwyth gwaith sydd ganddyn nhw eisioes heb ddelio a rhieni cariadus sydd yn ceisio dysgu eu plant i fod yn ddinasyddion cyfrifol drwy eu ddysgu beth sydd yn iawn a beth sydd yn anghywir.
Cydrifoldeb rhieni yw penderfynu sut i fagu eu plant - nid rol llywodraeth yw magu plant.
Rydw i'n chwyrn yr erbyn camdrin plant o unrhyw fath , ac mae cymaint o ffyrdd mae plant yn cael eu camdrin gan rieni pan nad oes trefn a disgyblaeth yn y cartref e.e. dulliau seicolegol creulon i geisio cael trefn, diffyg cwsg, diet afiach, oriau maith yn chwarae gemau ar sgrin, a.y.b. nid yw smac sy'n cael ei rhoi er lles y plentyn yn gamdrin.
heb ddisgyblaeth yn y cartref mae plant, teuluoedd a chymdeithas yn mynd i ddioddef.
Mae trais gan blant yn erbyn plant yn Sweden wedi codi ers i ddeddf debyg gael ei chyflwyno yno.
Cefais i fagwriaeth llawn cariad, ond roeddwn yn cael smac pan yn ddrwg. NID OEDD fy rhieni yn gamdrinwyr plant!
Mae'r gyfraith fel ac y mae hi yn diogelu plant.
Ni ellir trin plant yn yr un un ffordd ac oedolion, mae angen cadw'r gwahaniaeth yn y ddeddf achos nid oedolion yw plant.
Arolwg 2017 ComRes yn dangos mai dim ond 11% o'r boblogaeth sydd o blaid gwneud smacio'n drosedd.
Diffyg arian cyhoeddus - mae rhai plant mewn cartrefi di-drefn (chaotic) eisioes yn cael cam oherwydd diffyg adnoddau gan y gwasanaethau cymdeithasol (siarad o brofiad fel athrawes).
Diffyg adnoddau gan yr heddlu i ymchwilio i adroddiadau dibwys.
Diffyg adnoddau gwasanaethau cymdeithasol achosion o wir drais yn cael eu methu - plant sydd wir angen eu hamddiffyn yn cael cam.
Nac ydw
Rhieni da a chydwybodol yn cael eu gwneud yn droseddwyr.
Plant yn cael cam ofnadwy drwy beidio cael disgyblaeth.
Disgyblaeth yn ein hysgolion yn gostwng - safon addysg yn disgyn.
Cost eithriadol i'r pwrs cyhoeddus.
Cymdeithas yn mynd yn fwy anhrefnus ac anarchiaeth yn codi ei ben
Carchardai yn llenwi
-
Fel rhiant sydd yn caru fy mhlant yn angerddol, ac sydd wedi magu pedwar o blant sydd wedi tyfu i fod yn oedolion cyfrifol ac mewn swyddi sydd o fydd i gymdeithas apeliaf arnoch i beidio pasio'r ddeddf yma. Roedd fy ngwr a minnau yn rhoi smac pan fyddai y plant yn herio ein hawdurdod fel rieni, ac erbyn hyn meant yn diolch i ni am fod yn gadarn efo nhw a'u dysgu i barchu awdurdod ac i ddangos iddyn nhw beth sy'n iawn a beth sydd ddim.