Ymgynghoriad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Evidence submitted to the Children, Young People and Education Committee for Stage 1 scrutiny of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill

CADRP-227

CADRP-227

Cyflwynwyd yr ymateb hwn yn Gymraeg.

Amdanoch Chi

Unigolyn

1      Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1     A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)?

-       Nac ydw

1.2     Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

Mae'n amlwg i mi na fyddai'r Bil hwn yn ychwanegu dim at ddiogelu plant yng Nghymru, gan fod deddfwriaeth cadarn eisoes yn ei le yn gwneud hi'n anghyfreithlon i achosi briw i blentyn.

Mae'n ymddangos felly mai'r nod ydy rhywbeth amgen na hynny; ar y gorau, caboli enw y Llywodraeth Cymreig ymysg y rhai sy'n cymeradwyo cywirdeb gwleidyddol - ar y gwaethaf, ffeindio rhesymau i'r Llywodraeth ymyrryd mewn pethau a dylid bod yn perthyn i rieni a theuluoedd yn unig.

 

1.3     A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

Nac ydw, am y rheswm a roddwyd uchod, sef bod deddfwriaeth hollol ddiogonol eisoes yn ei le.

2      Gweithredu’r Bil

2.1     A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

Fel arfer, mae disgyblaeth corfforol yn cymryd lle yn y ty, mewn preifat. Yn cymryd nad ydy'r disgyblaeth yn achosi briw i blentyn (gan fod deddfwriaeth eisoes yn delio gyda'r achos lle bod hynny'n wir), does dim modd i'r Llywodraeth wybod am unrhyw drosedd yn erbyn y ddeddf a fwriadwyd heblaw ei fod yn spio yn fanwl i mewn i faterion preifat teuluoedd, neu calonogi plant i wneud cwynau yn erbyn eu rhieni.

Hyd yn oed os ydy'r fath ddisgyblaeth yn cymryd lle yn gyhoeddus, mi fasai'r ddeddfwriaeth yn dibynnu ar bobl sydd yn ei gweld i alw're heddlu ne gwasanaethau cymdeithasol, ac felly ymyrryd ym materion teuluol pob eraill heb unrhyw dealltwriaeth o'r cyd-testun.

2.2     A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

Nac ydw, oherwydd petasai'r Llywodraeth yn cymryd y pethau hyn o ddifrif tasen nhw ddim yn gwasgu ymlaen gyda darpar-ddeddfwriaeth mor ffol.

3      Canlyniadau anfwriadol

3.1     A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

Y peth sydd fwyaf debygol o ddigwydd, a fyddai'n wael iawn, ydy cael yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol mor brysur yn delio gydag achosion bach fel bod y camdrinwyr gwirioneddol ddrwg yn dianc oherwydd diffyg adnoddau i gadw golwg arnyn nhw.

4      Goblygiadau ariannol

4.1     A oes gennych farn ar oblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os na, ewch i gwestiwn 5.1

Gweler uchod; os na fyddai'r heddlu a gwasnaethau cymdeithasol yn derbyn llawr mwy o adnoddau i ddelio gyda llawer mwy o achosion, fyddan nhw ddim yn gallu gwneud eu swyddi o gwbl. Ond basai rhoi adnoddau digonol iddyn nhw yn tynny'r adnoddau hynny i ffwrdd o rannau llawer mwy pwysig o'r economi, fel addysg a iechyd.

5      Ystyriaethau eraill

5.1     A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

Mae'n bwysig fod plant yn cael eu disgyblu mewn cyd-testun diogel, cariadlon a chyson. Mae rhyw faith o ddisgyblaeth corfforol wedi bod yn rhan bwysig o hyn dros genedlaethau lawer, ac wedi'w ddangos i fod yn ddiogel ac yn effeithiol.

Byddai ceisio atal hyn, a chriminaleiddio rhieni sy'n gwneud eu gorau i fagu eu plant yn y ffordd eu bod yn gweld yn dda, yn gwneud niwed aruthrol i gymdeithas Cymreig, ac mae'n hollol anghyfrifol i'r Llywodraeth Cymreig i fod yn ystyried y peth.