Ymgynghoriad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)
Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) |
Evidence submitted to the Children, Young People and Education Committee for Stage 1 scrutiny of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill |
CADRP-150 |
CADRP-150 |
Cyflwynwyd yr ymateb hwn yn Gymraeg.
Amdanoch Chi
Unigolyn
- Nac ydw
Mae'r drefn bresennol wedi gweithio'n effeithiol iawn dros y canrifoedd, gan roi'r lle canolog i rieni wrth fagu eu plant. Mae'n rhyfedd meddwl fod y wladwriaeth yn awr yn mynnu busnesa ym mywyd y teulu, gan fygwth troi rhieni'n droseddwyr petai'r rhieni'n teimlo fod yn rhaid rhoi smacen i'w plant yn achlysurol am reswm hollol ddilys. Y rhieni, nid y wladwriaeth, sy'n gwybod orau sut i fagu eu plant.
Nac ydwyf.
Mae'r heddlu, y llysoedd, a'r gweithwyr cymdeithasol dan ddigon o bwysau ar hyn o bryd gyda throseddwyr go iawn. Mae'n anhygoel meddwl y bydd yn rhaid iddynt hefyd drafod achosion rhieni sy'n caru eu plant ac yn dangos y cariad hwnnw trwy roi smacen achlysurol i'w plant mewn amgylchiadau arbennig.
Nac ydwyf. Nid yw'r Bil yn cydnabod y gwahaniaeth syml rhwng bwrw rhywun am resymau cas a rhoi smacen i blentyn er mwyn ei helpu i ddysgu'r gwahaniaeth rhwng da a drwg. Mater o synnwyr cyffredin yw hwn.
Fel y nodwyd, y perygl mawr yw troi rhieni cariadus yn 'droseddwyr' yng ngolwg y gyfraith. Ond mae canlyniadau amlwg eraill:
1. Eto fel y nodwyd, mae'r Bil yn gosod llawer mwy o bwysau ar yr heddlu, y llysoedd, gweithwyr cymdeithasol, ac athrawon.
2. Mae'r wladwriaeth yn tybio ei bod yn gwybod yn well na rhieni. Ni all hyn fod yn beth da, ond mewn amgylchiadau eithafol.
Mae'n amlwg y bydd goblygiadau ariannol, wrth i adnoddau prin yr heddlu, y llysoedd, a'r gweithwyr cymdeithasol gael eu dargyfeirio i erlyn rhieni'n ddiachos.
Gadewch i'r wladwriaeth fod yn wladwriaeth - a gadewch i rieni fod yn rhieni.