Memorandwm Esboniadol i Reoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2019

 

Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ac fe’i gosodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â’r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2019. Rwy’n fodlon bod y manteision yn cyfiawnhau’r costau tebygol.

 

Kirsty Williams AC

Y Gweinidog Addysg

17 Gorffennaf 2019

 

 


RHAN 1

 

1.    Disgrifiad

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn caniatáu i ysgolion a gynhelir ddefnyddio un diwrnod (dwy sesiwn ysgol) ym mhob un o flynyddoedd ysgol 2019/2020, 2020/2021 a 2021/2022 fel diwrnod HMS gyda’r nod penodol o baratoi gweithwyr addysgu proffesiynol ar gyfer y cwricwlwm i’w addysgu yn yr ysgol o ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig i gwricwlwm Cymru.

 

Mae’r Rheoliadau’n nodi hefyd fod yn rhaid i’r diwrnodau HMS Dysgu Proffesiynol ychwanegol ddigwydd bob blwyddyn, yn ystod y trydydd tymor (h.y. tymor yr haf) ym mhob un o flynyddoedd ysgol 2019/2020, 2020/2021 a 2021/2022.

 

2. Materion o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Dim

 

3. Cefndir deddfwriaethol

 

Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003[1] ("Rheoliadau 2003") sy’n nodi isafswm nifer y sesiynau ysgol y mae’n rhaid eu cynnal ymhob blwyddyn ysgol mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

 

Bydd Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael eu gwneud o dan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996. Trosglwyddwyd yr adrannau hynny gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac maent bellach wedi’u breinio yng Ngweinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan y weithdrefn penderfyniad negyddol.

 

4. Diben y ddeddfwriaeth a’r effaith y bwriedir iddi ei chael

 

Mae Rheoliadau 2003 yn nodi isafswm nifer y sesiynau hanner diwrnod y mae’n rhaid i ysgolion a gynhelir eu bodloni o fewn blwyddyn ysgol. Yr isafswm yw 380 sesiwn (190 diwrnod). Yn ogystal â’r 190 diwrnod hyn, mae athrawon yn gweithio 5 diwrnod ychwanegol pan nad yw disgyblion yn mynychu’r ysgol (y cyfeirir atynt fel arfer fel diwrnodau HMS). Mae’r 5 diwrnod HMS presennol hyn yn rhan o gyflog ac amodau athrawon ac maent wedi’u cynnwys o fewn yr adran Oriau Gwaith yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol statudol ac fe’u defnyddir ar gyfer hyfforddiant athrawon fel arfer.

 

Fel yr amlinellir yn Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl[2], mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddatblygu trefniadau cwricwlwm ac asesu trawsnewidiol yng Nghymru i alluogi pobl ifanc i gael safonau llythrennedd a rhifedd uwch, i ddod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog ac esblygu i fod yn feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol. Mae cydraddoldeb a rhagoriaeth wrth wraidd y trefniadau newydd, ac maent yn helpu i ddatblygu dinasyddion hyderus, galluog a gofalgar.

 

Mae Llywodraeth Cymru am roi cymorth penodol i weithwyr addysgu proffesiynol baratoi ar gyfer y newidiadau arfaethedig i gwricwlwm Cymru sy'n deillio o’r Adolygiad Annibynnol o'r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru[3]. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu argymhelliad o adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Ddysgu Proffesiynol, Rhagfyr 2017, "i sicrhau y paratoir y gweithlu cyfan ar gyfer y newidiadau sydd i ddod i’r cwricwlwm”. Yn ogystal, mae hwn wedi bod yn fater a godwyd gan yr undebau athrawon, ac arweinwyr ac ymarferwyr ar draws y system drwy gydol y daith ddiwygio hyd yn hyn.

 

Bydd canolbwyntio ar Ddysgu Proffesiynol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pob ymarferwr yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd ac yn ymgysylltu ag ef. Bwriedir i’r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol (NAPL) a’r buddsoddiad cysylltiedig o £24 miliwn greu amser mewn ysgolion i weithwyr proffesiynol ddatblygu a gwella eu sgiliau eu hunain a chydweithio o fewn ac ar draws ysgolion. Mae’r NAPL yn sbardun allweddol i’r amcanion sydd yn Addysg yng Nghymru - Cenhadaeth ein Cenedl. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol gydol gyrfa sydd wedi’i wreiddio mewn ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chydweithio effeithiol.

 

Fodd bynnag, hyd yn oed ar ôl cyflwyno’r NAPL a darparu’r cyllid ychwanegol hwn, mae angen atgyfnerthu ymgysylltiad cyffredinol drwy’r system gyfan gyda’r gwaith paratoi a meithrin ymwybyddiaeth o oblygiadau’r cwricwlwm newydd. Felly mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi’r amser ychwanegol hwn i ymarferwyr ar ffurf diwrnodau HMS Dysgu Proffesiynol.

 

I gynyddu nifer y diwrnodau HMS mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2003. Byddai’r newid hwn yn caniatáu i ysgolion a gynhelir ddefnyddio un diwrnod (h.y. dwy sesiwn ysgol) ym mhob un o flynyddoedd ysgol 2019/2020, 2020/2021 a 2021/2022 at ddiben HMS, gyda’r nod penodol o baratoi gweithwyr addysgu proffesiynol ar gyfer y cwricwlwm i’w addysgu yn yr ysgol o ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig i gwricwlwm Cymru. Byddai hyn yn golygu y byddai ysgolion yn cynnal chwe diwrnod HMS y flwyddyn, gyda’r ysgol ar gau i ddisgyblion ar y diwrnod HMS ychwanegol.

 

Ynghyd â hyn, bydd y ddeddfwriaeth yn nodi hefyd y bydd y diwrnod HMS yn cael ei gynnal yn ystod tymor yr haf bob blwyddyn am dair blynedd. Bydd cynnal y diwrnodau HMS tua’r un pryd, er gyda rhywfaint o hyblygrwydd, yn helpu i greu sgwrs genedlaethol a sicrhau bod pob athro/athrawes yn derbyn yr un negeseuon, ac nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.

 

Mae’r Rheoliadau hyn dileu darpariaethau diangen o Reoliadau 2003 hefyd.

 

 

5. Ymgynghori

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus wyth wythnos ar y dull polisi rhwng 5 Mawrth ac 1 Mai 2019 a chafwyd 899 o ymatebion. Tynnwyd sylw cynulleidfa eang o randdeiliaid allweddol at yr ymgynghoriad, gan gynnwys penaethiaid, ysgolion, consortia rhanbarthol, undebau athrawon, awdurdodau lleol ac Estyn. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r ymgynghoriad ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac mae ar gael yma: https://llyw.cymru/diwrnodau-hms-ychwanegol-dysgu-proffesiynol-cenedlaethol-2019-2022

 

 

Mae’r dadansoddiad o’r ymatebion yn dangos bod cytundeb clir ymhlith dros 90% o’r ymatebwyr gyda’n cynnig i gynyddu nifer y diwrnodau HMS ar gyfer dysgu proffesiynol i gefnogi cyflwyno’r cwricwlwm newydd. Mae ymarferwyr a sefydliadau haen ganol yn ystyried bod y diwrnod HMS ychwanegol yn angenrheidiol gan fod y newidiadau arfaethedig i gwricwlwm Cymru yn ddiwygiad cymhleth ar raddfa fawr, ac mae angen meithrin gallu er mwyn i ymarferwyr allu cyflwyno’r cwricwlwm.

 

Ymgynghorwyd hefyd ynglŷn â’r cynnig y dylai’r amser HMS ychwanegol fod ar ffurf diwrnodau cenedlaethol, a fydd yn digwydd ar ddyddiad penodol, a hefyd a ddylai Llywodraeth Cymru ddarparu cynnwys gorfodol. O ganlyniad i’r ymatebion rydym wedi diwygio’r polisi i nodi y dylai’r diwrnodau HMS ddigwydd mewn tymor penodol, sef tymor yr haf, yn hytrach nag ar un diwrnod penodol, gan adlewyrchu adborth ymarferol a hefyd y bydd banc o adnoddau digidol, dwyieithog ar gael, yn hytrach na bod gofyn am gynnwys hyfforddiant gorfodol.

 

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad i’w weld yn yr asesiad effaith rheoleiddiol isod.

 

 

RHAN 2 – ASESIAD EFFAITH RHEOLEIDDIOL

 

 

6. Opsiynau

 

Er mwyn cyflawni amcan y polisi o gynorthwyo ymarferwyr i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd drwy roi amser ychwanegol iddynt, nodwyd yr opsiynau canlynol:

 

1.    Busnes fel arfer – byddai hyn yn golygu bod dyddiau HMS yn parhau i fod yn bump ac ymarferwyr yn parhau i baratoi yn ystod yr amser sydd ar gael ar hyn o bryd

2.    Cymryd camau deddfwriaethol drwy greu un diwrnod HMS ychwanegol y flwyddyn am dair blynedd, i’w gymryd o’r 190 diwrnod a ddyrennir i ddisgyblion, at ddibenion dysgu proffesiynol i gefnogi’r cwricwlwm newydd

3.    Cymryd camau deddfwriaethol drwy greu un neu fwy o ddiwrnodau HMS dysgu proffesiynol cenedlaethol ychwanegol fesul blwyddyn, i’w cynnal ar ddyddiad penodol ac am fwy na thair blynedd.

Fel yr esbonnir uchod, mae’r ddarpariaeth ar gyfer y 5 diwrnod HMS presennol yn rhan o gyflog ac amodau athrawon a chânt eu cynnwys o fewn yr adran oriau gwaith yn Nogfen statudol Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (STPCD). Mae hyn yn golygu bod angen cyflogi athrawon llawn amser am 195 diwrnod y flwyddyn - ac ni ddylai mwy na 190 o’r rhain fod yn ddiwrnodau addysgu disgyblion. Yn draddodiadol, mae’r 5 arall wedi bod yn ddiwrnodau HMS. Mae’n ofynnol hefyd i athrawon weithio’r oriau ychwanegol rhesymol hynny sy’n angenrheidiol i sicrhau bod dyletswyddau proffesiynol yr athro yn cael eu cyflawni’n effeithiol, er mai’r athro/athrawes ei hun sy’n pennu’r oriau hyn.

Mae pwerau dros yr STPCD wedi’u datganoli’n ddiweddar ac mae proses flynyddol newydd wedi’i sefydlu i ystyried cyflogau ac amodau athrawon wrth symud ymlaen. Mae hyn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda’r STPCD cyntaf i gael ei ddynodi gan Weinidogion Cymru a disgwylir iddynt ddod i rym ar 1 Medi 2019. Mae hyn yn canolbwyntio ar dâl yn hytrach nag amodau, megis HMS, ac felly ni chafodd ei ystyried yn gyfrwng i greu amser HMS ychwanegol. Yn ogystal, mae’r newidiadau hyn yn ymwneud yn benodol â chyflawni ein hamcanion polisi o baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Maent yn adlewyrchu ymateb polisi penodol ar wahân i’r angen i baratoi, yn hytrach nag ystyried telerau ac amodau ehangach. Rydym hefyd am sicrhau eglurder ynghylch y newid hwn ac unrhyw newidiadau eraill a gyflwynir o dan nawdd Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB)

7. Costau a manteision

 

Opsiwn 1 – Busnes fel arfer- byddai hyn yn golygu bod dyddiau HMS yn parhau i fod yn bump ac ymarferwyr yn parhau i baratoi yn ystod yr amser sydd ar gael ar hyn o bryd

Costau

 

Dyma’r opsiwn llinell sylfaen ac felly nid oes unrhyw gostau ariannol ychwanegol yn gysylltiedig â’r opsiwn hwn. Bydd ysgolion yn parhau’n agored i ddisgyblion, a bydd angen i ymarferwyr nodi dulliau eraill o gydweithio fel ysgol gyfan ac ar y cyd â phartneriaid.

 

Fodd bynnag, mae llawer iawn o risg yn gysylltiedig â’r opsiwn hwn, a chost o ran cyfle, oherwydd pe na bai’r amser ychwanegol yn cael ei roi – amser y mae ymarferwyr a phenaethiaid wedi dweud yn glir sydd ei angen arnynt – yna  rydym yn wynebu’r risg na fydd ysgolion wedi paratoi i weithredu’r cwricwlwm newydd o 2022 ymlaen. Byddai hyn yn effeithio ar ddarparu’r cwricwlwm newydd ac o ganlyniad ar y deilliannau i blant a phobl ifanc na fyddant yn elwa’n llawn ar y cwricwlwm newydd.

 

 

Manteision

 

Manteision y dull hwn fyddai na fyddai cost ychwanegol i rieni gan y byddai ysgolion yn cadw eu pum diwrnod HMS presennol ac na fyddai plant a phobl ifanc yn colli diwrnod o ddysgu. Fodd bynnag, mae’r manteision hyn yn rhai tymor byr iawn, a chredwn fod y cynnydd yn y risg o ran cyflwyno’r cwricwlwm yn gwrthbwyso’r manteision hyn.

 

 

Opsiwn 2 - Cymryd camau deddfwriaethol drwy greu un diwrnod HMS ychwanegol y flwyddyn am dair blynedd, i’w gymryd o’r 190 diwrnod o amser ysgol a ddyrennir i ddisgyblion

Costau

 

Ni fyddai’r opsiwn hwn yn creu costau ychwanegol i’r system addysg o ran costau ysgol, tâl athrawon a chynorthwywyr addysgu, gan y byddai’n digwydd ar ddiwrnod pan fyddai’r ysgolion wedi bod ar agor i’r disgyblion.

 

Credwn y bydd y brif effaith ar blant a theuluoedd, yn enwedig y rhai ar incwm is. Mae ein penderfyniad i gyfyngu’r diwrnodau HMS ychwanegol i un yn rhannol o ganlyniad i gynnal yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, oherwydd yn y modd hwn gallwn liniaru rhywfaint ar yr effaith. Bydd yr effaith ar blant fel grŵp yn un tymor byr gan y bydd diwrnod coll o ysgol ar y cyd i blant a phobl ifanc, fodd bynnag, yn y tymor hir bydd hyn yn galluogi i’r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno’n llwyddiannus, gan wella safon ac ehangder yr addysg a dderbyniant.

 

Bydd yna gost, er yn anodd ei mesur, o ran amser ac arian i deuluoedd sy’n gweithio, lle y defnyddir gofal plant neu wyliau blynyddol i ymdopi â’r amser ar gyfer diwrnod HMS ychwanegol. Er y bydd rhai pobl yn gallu manteisio ar gymorth aelodau’r teulu ar gyfer gofal plant, gwyddom y bydd angen i rieni eraill dalu am y gofal plant ychwanegol hwn. Bydd hyn am un diwrnod ychwanegol am dair blynedd, tan 2022.

 

Ni allwn amcangyfrif cost diwrnod HMS ychwanegol i rieni sydd angen defnyddio gofal plant ar gyfer y diwrnod y mae’r ysgolion ar gau. Y rheswm am hyn yw nad oes gennym dystiolaeth ddibynadwy ynghylch nifer y rhieni a fyddai’n gofyn am ofal plant wedi’i ariannu yn yr achos hwn, nac ychwaith faint y mae hyn yn debygol o’i gostio.

 

Mae’r data ar gost gofal plant cofrestredig ac anghofrestredig, yn ystod y tymor ysgol a chyfnodau gwyliau, yn gyfyngedig. Mae adolygiad Llywodraeth Cymru o’r sector gofal plant yng Nghymru (2018) yn rhoi disgrifiad o rai o’r cyfyngiadau hyn gyda ffynonellau data gwahanol https://llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2018-12/180110-review-childcare-sector-cy.pdf). At hynny, mae’r wybodaeth sydd gennym am gostau yn amrywio’n aruthrol.

 

Mae adran 11 o Ddeddf Gofal Plant 2006 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (CSA). Nid yw’n ofynnol i ddarparwyr rannu eu cyfraddau ag awdurdodau lleol, ond mae’r Asesiadau Digonolrwydd yn dangos amrywiad sylweddol mewn costau rhwng y rhai sydd wedi gwneud hynny. Dengys asesiad o ymatebion awdurdodau lleol ar gostau darpariaeth yn ystod gwyliau fod prisiau gofal plant yng Nghymru yn amrywio o 65% i 139% o’r cyfartaledd cenedlaethol (t.21 https://www.familyandchildcaretrust.org/sites/default/files/Holiday%20Childcare%20Survey%202018_Family%20and%20Childcare%20Trust.pdf).

 

Cymhlethir y darlun hwn ymhellach o gofio bod tystiolaeth yn dangos bod y galw am ofal plant y telir amdano’n amrywio’n sylweddol yn ddaearyddol, yn ôl oedran plant, a statws cyflogaeth rhieni (gweler er enghraifft, data Arolwg Cenedlaethol Llywodraeth Cymru sy’n dangos amrywiadau). Ar ben hynny, gall gofal plant ffurfiol ad hoc fod yn anodd dod o hyd iddo a manteisio arno. Mae diwrnodau HMS, yn eu hanfod, yn digwydd yn ystod y tymor ac er y gallant ragflaenu neu ddilyn gwyliau ysgol mae’n debygol na fydd y clybiau gwyliau ar agor. Yn ogystal â defnyddio clybiau gwyliau, gall rhieni ddefnyddio clybiau gweithgareddau fel gofal plant de facto hefyd, sy’n ystumio data ar y galw am ofal plant ffurfiol ymhellach.

 

Mae’n anoddach lliniaru’r effaith ar deuluoedd incwm is lle mae’r ddau riant/gofalwr yn gweithio, ond mae yna rai camau y gallwn eu cymryd i geisio lleihau’r effaith. Cynghorir ysgolion i ystyried amseriad y diwrnod yn ofalus er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar rieni, er enghraifft drwy ychwanegu at hanner tymor fel bod modd defnyddio gwyliau blynyddol mewn ffordd ddefnyddiol.

 

O ran yr effaith ar blant, bwriedir i’r cynnig effeithio ar fywydau plant yn gadarnhaol; sicrhau bod eu hathrawon a’r rhai sy’n arwain eu hysgolion yn barod i gyflwyno’r cwricwlwm newydd ac yn hyderus i wneud hynny. Drwy ddarparu amser HMS penodol y gall athrawon ac ysgolion ei ddefnyddio i baratoi, dylai plant gael gwell profiad pan gaiff y cwricwlwm newydd ei gyflwyno yn 2022. Caiff y defnydd o HMS a’r dull o’i ddefnyddio yn y dyfodol eu hystyried yn ystod y broses o werthuso’r polisi hefyd, ac felly yn yr hirdymor dylai plant gael budd o’r cyfle i’w hathrawon fanteisio ar ddysgu proffesiynol wedi’i gynllunio a’i deilwra’n dda.

 

Yn y tymor byr, os aiff y cynnig yn ei flaen, bydd plant yn colli tridiau o addysg ysgol dros dair blynedd. Gall hyn gael effaith negyddol fach ar rai plant gan eu bod yn colli diwrnod o addysgu, ond gan y bydd yn ddiwrnod a gollir ar y cyd, ni fydd yr elfen arferol o ‘ddal i fyny’ sy’n dilyn absenoldeb yn berthnasol. Gallai ymddangos y byddai hyn yn effeithio ar bob plentyn yr un fath ar yr wyneb, gan na fydd neb yn gallu mynychu’r ysgol ar gyfer y sesiynau hynny. Fodd bynnag, efallai y bydd plant sy’n byw mewn tlodi neu sy’n dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gartref yn teimlo mwy o effaith, er enghraifft, colli strwythur y diwrnod ysgol neu brydau ysgol am ddim.

 

Mae’r ymgyrch i wella presenoldeb dros y blynyddoedd diwethaf yn golygu na fydd effaith colli diwrnod o ysgol ar blant ar lefel y boblogaeth yn gyffredinol mor ddifrifol ag y byddai wedi bod pe bai lefelau presenoldeb wedi bod yn is. Gallai mwy nag un diwrnod y flwyddyn olygu nad yw’r mesurau lliniaru hyn o ran amser dysgu yn gweithio. Mae ystadegau’n dangos mai canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd oedd 6.7% a 9.0% ar gyfer cynradd ac uwchradd yn 2006/7, a bod y rhain wedi gwella i 5.5% a 6.2% https://statscymru.llyw.cymru/v/F6w4)

 

Bydd cost weinyddol hefyd, i’w hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru, sy’n ymwneud â datblygu’r banc o adnoddau dwyieithog digidol. Felly, byddai unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â datblygu deunyddiau penodol ar gyfer y diwrnodau HMS yn cael eu talu o gyllidebau presennol Llywodraeth Cymru.

 

Fel yr amlygwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad, mae continwwm eang o anghenion mewn ysgolion, o’r rhai sydd ar fin dechrau ystyried diwygio’r cwricwlwm i’r ysgolion hynny sy’n rhan o broses o gynllunio’r cwricwlwm. Mae angen i’r adnoddau HMS y byddwn yn eu datblygu ddarparu ar gyfer yr amrywiaeth hon ac felly rydym yn rhagweld amrywiaeth o adnoddau’n cael eu datblygu. Maent yn debygol o fod yn gyfuniad o adnoddau ar-lein, cynnwys ar-lein rhyngweithiol, a phecynnau o sleidiau neu fideos byr wedi’u datblygu ar y cyd â Chonsortia Rhanbarthol ac ysgolion.

 

Efallai y bydd yna rywfaint o arbedion ar gyfer y system addysg gan nad yw’n ofynnol i staff cymorth fynychu sesiynau HMS (nac yn cael eu talu fel arfer) yn yr un modd ag athrawon. Os nad yw ysgolion yn ymestyn y diwrnodau HMS ychwanegol hyn i staff cymorth mae, i bob pwrpas, yn caniatáu i ALlau leihau nifer y dyddiau y cyflogir eu staff cymorth, a thrwy hynny eu costau. Fodd bynnag, yn unol â’r egwyddor bod y NAPL ar gyfer pob aelod o staff mewn ysgolion, byddem yn annog cynnwys staff cymorth yn y diwrnodau HMS ychwanegol hyn. Gall hefyd fod gostyngiadau mewn costau teithio o’r cartref i’r ysgol, ond dim ond os yw ALlau yn gwybod am ac yn cynllunio ar gyfer y diwrnod HMS.

 

Bydd y Gweinidog yn argymell i ysgolion hefyd y dylid defnyddio 1 o’r 5 diwrnod HMS sydd eisoes wedi’u dyrannu i ysgolion o dan y ddogfen cyflog ac amodau statudol athrawon ysgol i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, i’w gynnal ar adeg sy’n gyfleus i’r ysgol.

 

Fel y nodir yn adran 4, byddai hyn yn ychwanegol at y diwrnod dysgu proffesiynol ychwanegol y darperir ar ei gyfer gan y rheoliadau. Mae’r dull hwn yn adlewyrchu’r adborth yn yr ymatebion, bod 78% o’r ymatebwyr yn teimlo na fyddai un diwrnod ychwanegol yn ddigonol. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y bydd angen mwy o amser ond y gallai hyn ddeillio o un o’r diwrnodau HMS sy’n bodoli eisoes, gan adlewyrchu’r ffaith bod y rhai a deimlai fod eu hysgolion yn defnyddio’r diwrnodau HMS yn ddoeth yn eu defnyddio eisoes i weithio ar weithredu’r cwricwlwm newydd, ac i leihau’r gost i deuluoedd a dyddiau ysgol coll i ddisgyblion.

 

Manteision

 

Mae Llywodraeth Cymru am roi cymorth i weithwyr addysgu proffesiynol baratoi ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn benodol. Cred Llywodraeth Cymru y bydd canolbwyntio ar Ddysgu Proffesiynol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pob ymarferwr wedi paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd ac yn ymgysylltu ag ef. Bwriedir i’r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol (NAPL) a’r buddsoddiad cysylltiedig o £24miliwn greu amser mewn ysgolion i weithwyr proffesiynol ddatblygu a gwella eu sgiliau eu hunain a chydweithio o fewn ac ar draws ysgolion.

 

Mae’r NAPL yn sbardun allweddol i’r amcanion yn Addysg yng Nghymru – Cenhadaeth ein Cenedl. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol gydol gyrfa sydd wedi’i wreiddio mewn ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chydweithio effeithiol.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y bydd, mewn cydweithrediad â’r NAPL, un diwrnod ychwanegol y flwyddyn, am y tair blynedd uchod, i ganolbwyntio’n benodol ar ddysgu proffesiynol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm newydd yn darparu cydbwysedd o gymorth ac amser ychwanegol, â faint o amser sydd gan ddisgyblion yn yr ysgol. Fodd bynnag, hyd yn oed ar ôl cyflwyno’r NAPL a darparu’r cyllid ychwanegol hwn, mae angen atgyfnerthu ymgysylltiad cyffredinol drwy’r system gyfan trwy wneud gwaith paratoi a meithrin ymwybyddiaeth o oblygiadau’r cwricwlwm newydd.

 

Mae’r tair blynedd hyn yn cynrychioli’r cyfnod allweddol ar gyfer ymgysylltu a pharatoi cyn i’r cwricwlwm newydd gael ei gyflawni mewn ysgolion gyda chyhoeddi’r cwricwlwm drafft yn 2019, y cwricwlwm terfynol yn 2020 a’i gyflwyno’n statudol o 2022 ymlaen.

 

Opsiwn 3 - cymryd ymagwedd ddeddfwriaethol drwy greu un neu fwy o ddiwrnodau HMS dysgu proffesiynol cenedlaethol ychwanegol fesul blwyddyn, i’w cynnal ar ddyddiad penodol ac am fwy na thair blynedd.

 

Costau

 

Yn debyg i opsiwn 2, ni fyddai’r opsiwn hwn yn creu costau ychwanegol i’r system addysg o ran costau ysgol, cyflog athrawon a chynorthwywyr addysgu, gan y byddai’n digwydd ar ddiwrnod pan fyddai ysgolion wedi bod ar agor i’r disgyblion.

 

Mae llawer o’r un ystyriaethau â’r rhai a nodir uchod yn berthnasol i’r opsiwn hwn, ond i raddau helaethach. Er enghraifft, er y byddai’n rhoi mwy o amser i ymarferwyr, a’i fod felly wedi’i ystyried yn fuddiol yn yr ymgynghoriad, byddai’r gost i rieni yn lluosogi pe bai mwy nag un diwrnod yn cael ei ddarparu. Dangoswyd hyn yn yr asesiadau effaith ac yng ngoleuni hyn, a hefyd effaith bosibl lefel uwch o addysg wedi’i cholli ar y cyd, teimlwyd na ellid cyfiawnhau’r opsiwn hwn.

 

Fodd bynnag, fel y nodir uchod, bydd y Gweinidog yn awgrymu wrth ysgolion eu bod yn defnyddio, fel lleiafswm, un o’u pum niwrnod presennol at ddiben paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, os nad ydynt yn gwneud hynny eisoes.

 

Manteision

 

Yn debyg i’r uchod, byddai hyn yn cynorthwyo gweithwyr addysgu proffesiynol i baratoi ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd. Bydd y ffocws hwn ar Ddysgu Proffesiynol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pob ymarferydd wedi paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd ac yn barod i ymgysylltu ag ef.

 

 

Canlyniad

 

Ar ôl pwyso a mesur y costau a’r manteision, ac ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn ofalus, yr opsiwn a ddewiswyd oedd opsiwn 2; defnyddio is-ddeddfwriaeth i ddarparu un diwrnod HMS ychwanegol y flwyddyn am dair blynedd.

 

8. Ymgynghori

 

 

Ymgynghorwyd rhwng 5 Mawrth ac 1 Mai ar gynigion ar gyfer diwrnod HMS dysgu proffesiynol cenedlaethol ychwanegol. Cawsom 899 o ymatebion, yn cynnwys ymatebion gan sefydliadau yn yr haen ganol megis y consortia rhanbarthol, Awdurdodau Lleol, Estyn, CGA a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yng Nghymru, yn ogystal ag undebau, athrawon a rhieni.

 

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig diwrnod HMS ychwanegol ar gyfer y tair blynedd academaidd nesaf (2019/20, 2020/21 a 2021/22) wrth i ysgolion ymgysylltu â’r cwricwlwm newydd cyn ei gyflwyno’n ffurfiol mewn ysgolion (blwyddyn academaidd 2022/23). Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn saith cwestiwn polisi (a dau gwestiwn gorfodol ynghylch y Gymraeg) ac yn cynnwys lle i roi rhagor o sylwadau.

 

Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynglŷn â’r nifer delfrydol o ddiwrnodau HMS ychwanegol, am ba hyd y dylent fod ar gael, a ddylid darparu cynnwys ac a ddylem bennu diwrnod penodol ar gyfer cynnal yr HMS.

 

Mae’r ddogfen ymatebion i’r ymgynghoriad yn cynnwys dadansoddiad manwl o’r ymatebion a gafwyd a gellir https://llyw.cymru/diwrnodau-hms-ychwanegol-dysgu-proffesiynol-cenedlaethol-2019-2022

 

 

Crynodeb o’r prif themâu

 

Y tueddiad cyffredinol ymhlith yr ymatebion oedd cytuno bod angen diwrnod HMS ychwanegol, ac yn ddelfrydol mwy nag un mewn llawer o achosion. Ynghyd â hyn, awgrymwyd amrywiaeth o fodelau darparu amgen gan gynnwys mwy nag un diwrnod HMS ychwanegol bob blwyddyn, gan gynnig y dyddiau hyn am dair blynedd o leiaf (os nad mwy i ganiatáu ar gyfer gweithredu a gwerthuso), a gwahanol opsiynau o ran amseru addas ar gyfer y diwrnodau HMS ychwanegol.

 

Roedd tueddiad i’r ymatebwyr bwysleisio y dylid ystyried diwrnodau HMS ychwanegol fel rhan o daith Ddysgu Broffesiynol ehangach. Roedd ymateb i’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu newydd – yn ogystal â’r diwygiadau ehangach i addysg – yn cael eu gweld yn glir fel tasg y tu hwnt i gwmpas un diwrnod HMS ychwanegol. Bydd angen rhaglen gynhwysfawr o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol a chynllunio ar ymarferwyr, a fydd yn golygu newidiadau i’r diwrnodau HMS presennol, amser CPA, gweithio mewn clystyrau a chymorth rhanbarthol.

 

Roedd ymatebwyr yn mynegi ymwybyddiaeth yn gyson o raddfa’r gwaith sydd ei angen i addasu i gwricwlwm newydd cymhleth a gallu ymarferwyr i ymgymryd â gwaith o’r fath. Pwysleisiodd ymatebwyr fod llwythi gwaith ymarferwyr yn drwm eisoes a bod diwygio’r cwricwlwm (a diwygiadau eraill ym maes addysg) yn faich ychwanegol. O’r herwydd, pwysleisiodd ymatebwyr y dylai’r ffaith hon fod yn flaenoriaeth o ran penderfyniadau’n ymwneud â Dysgu Proffesiynol.

 

Gan fod y cwricwlwm newydd yn rhoi pwyslais ar gydweithredu, roedd ymatebwyr yn tueddu i ddweud y bydd angen diwrnodau HMS ychwanegol i alluogi ymarferwyr i ddod at ei gilydd i gyd-gynllunio elfennau’r cwricwlwm a rhannu arferion da. Cydnabyddir bod gweithio ar draws pynciau ac ar draws cyfnodau allweddol yn egwyddor graidd y tu ôl i’r cwricwlwm newydd. Er y gellir ymgymryd â rhywfaint o Ddysgu Proffesiynol a chynllunio yn ystod cyfnodau CPA neu debyg, bydd angen amser penodol ar ymarferwyr gyda’i gilydd i ddatblygu eu gweledigaeth a’u cwricwlwm, gan sicrhau dull cydlynus o ran addysgeg a chynnwys y cwricwlwm ar draws yr ysgol. Yn yr un modd, mae angen diwrnodau penodol ar ysgolion i gydweithio ac i rannu arferion da gydag ysgolion eraill yn eu clystyrau.

 

Nododd ymatebwyr bwysigrwydd ystyried cwmpas diwygio addysg yn ei gyfanrwydd wrth wneud penderfyniadau yn ymwneud â chyfleoedd Dysgu Proffesiynol. Mynegodd ymatebwyr ymwybyddiaeth y dylid ystyried diwrnodau HMS ychwanegol yng nghyd-destun casgliad o ddiwygiadau addysgol a fydd yn digwydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae newidiadau allweddol i’w hystyried yn cynnwys newidiadau i strwythurau Dysgu Proffesiynol, tâl ac amodau athrawon, dulliau hunanwerthuso, dulliau newydd o asesu ac arolygu a diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

Roedd ymatebwyr yn tueddu i bwysleisio y bydd gweithredu’r cwricwlwm newydd mewn ffordd ystyriol, gyson ac effeithiol, yn gofyn am amser penodol megis diwrnodau HMS. Mae ysgolion yn dechrau eu diwygiadau i’r cwricwlwm o amgylchiadau gwahanol iawn ac mae amser Dysgu Proffesiynol digonol, amser cynllunio a chymorth neu arweiniad gan sefydliadau haen ganol ac undebau’n hanfodol i wneud cyfiawnder â’r weledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru.

 

Fodd bynnag, mae rhywfaint o ymwybyddiaeth ymhlith ymatebwyr bod yn rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng darparu diwrnodau HMS ychwanegol ac osgoi effaith negyddol ar rieni sy’n gweithio a/neu ddeilliannau dysgwyr. Tueddai ymatebwyr i ddweud bod rhaid lliniaru effaith diwrnodau HMS ychwanegol ar rieni ac y dylid cyfyngu ar nifer y diwrnodau y mae dysgwyr y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

 

Canlyniad yr ymgynghoriad

 

Ar ôl dadansoddi’r ymgynghoriad, a chwblhau asesiad effaith integredig, cymeradwyodd y Gweinidog Addysg y canlynol:

 

1.         Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 i ddarparu un diwrnod HMS ychwanegol y flwyddyn am dair blynedd, hyd at 2022, i ganolbwyntio’n benodol ar Ddysgu Proffesiynol i gefnogi’r cwricwlwm newydd.

 

Mae’r dadansoddiad o’r ymatebion yn dangos bod cytundeb clir, ymhlith dros 90% o’r ymatebwyr, gyda’n cynnig i gynyddu nifer y diwrnodau HMS ar gyfer Dysgu Proffesiynol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm newydd.

 

Ystyrir bod y diwrnod HMS ychwanegol yn angenrheidiol gan ymarferwyr, undebau a sefydliadau haen ganol megis awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Mae hyn yn adlewyrchu diwygiadau cymhleth sydd ar raddfa fawr, a meithrin y gallu sydd ei angen er mwyn i ymarferwyr allu cyflwyno’r cwricwlwm.

 

Galwodd llawer o ymatebwyr am fwy nag un diwrnod HMS ychwanegol, ac am gyfnod hwy na’r tair blynedd a gynigiwyd. Nid ydym yn bwriadu diwygio’r rheoliadau i fwy na thair blynedd oherwydd, yn y cyfnod hwnnw, bydd cyd-destun ehangach yr NAPL yn datblygu, byddwn yn parhau i gasglu tystiolaeth a chynnal ymchwil i’r defnydd o HMS ac i fonitro newidiadau o fewn y system a allai gael effaith ar ein dull o weithredu. Mae gan bob un o’r ffactorau'r potensial i arwain at ddatblygiadau neu newidiadau pellach yn y dyfodol.

 

2.         Diwygio’r rheoliadau i bennu y dylai’r diwrnodau HMS Dysgu Proffesiynol ychwanegol gael eu cynnal yn flynyddol, yn ystod tymor yr haf

 

Dangosodd yr ymatebion i’r ymgynghoriad fod dwy ran o dair o’r ymatebwyr yn cytuno y byddai cael naill ai ddyddiad neu gyfnod penodol yn fuddiol, ond roedd llawer o ymatebion yn pwysleisio bod yna broblemau ymarferol o ran cael dyddiad penodol. Roedd y rhain yn cynnwys yr her o gael gafael ar brofiadau cydweithwyr o ysgolion arloesi ac eraill o fewn eu clystyrau. Teimlai traean o’r ymatebwyr y dylai’r ysgol benderfynu pryd y byddai’r HMS yn digwydd er mwyn caniatáu ar gyfer hyfforddiant a gynllunnir ymlaen llaw ac ymreolaeth i’r ysgol.

 

Rydym felly’n cynnig bod y diwrnod HMS yn cael ei gynnal o fewn cyfnod penodol yn hytrach na chael ei gynnal ar ddiwrnod arbennig. Bydd cynnal y dyddiau HMS ar adeg debyg, er gyda rhywfaint o hyblygrwydd, yn helpu i greu sgwrs genedlaethol a sicrhau bod pob athro/athrawes yn derbyn yr un negeseuon, ac na chaiff neb eu gadael ar ôl.

 

Rydym yn cynnig y byddai tymor yr haf yn adeg briodol i gynnal y diwrnodau HMS. Yn y flwyddyn gyntaf, byddai tymor yr haf yn rhoi amser i ni sicrhau adnoddau, ac yn yr ail flwyddyn bydd hyn yn rhoi amser i ni werthuso’r effaith, gan wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol. Byddwn yn argymell, er mwyn lleihau’r effaith ar deuluoedd, yn gyffredinol y dylai ysgolion ystyried amseriad y diwrnod yn ofalus ac y dylai pob diwrnod HMS gael cyhoeddusrwydd da ymhell o flaen llaw.

 

3.         Argymhelliad i ysgolion, o’r pum niwrnod HMS gwreiddiol a ddyrannwyd eisoes i ysgolion, y dylai o leiaf un diwrnod ychwanegol gael ei ddefnyddio i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd hefyd, ac y dylid gwneud hyn ar adeg sy’n gyfleus i’r ysgol.

 

Mae’r dull hwn yn adlewyrchu’r adborth yn yr ymatebion, lle’r oedd 78% o’r ymatebwyr yn teimlo na fyddai un diwrnod ychwanegol yn ddigonol. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y bydd angen mwy o amser ond y gallai hyn ddeillio o un o’r diwrnodau HMS a oedd yn bodoli cyn hynny, gan adlewyrchu’r ffaith bod y rhai a deimlai fod eu hysgolion wedi defnyddio’r diwrnodau HMS yn dda yn eu defnyddio’n barod i weithio ar weithredu’r cwricwlwm newydd.

 

Ni allwn gyfiawnhau’n llawn fwy nag un diwrnod HMS ychwanegol y flwyddyn o ystyried y baich ariannol ychwanegol y byddai hyn yn ei roi ar rai rhieni, yn aml y rhai sy’n gallu ei fforddio leiaf. Ceir tensiwn hefyd rhwng ein hagwedd at flaenoriaethu presenoldeb plant a darparu llai o ddyddiau ysgol yn gyffredinol.

 

Yn hytrach, rydym yn argymell i bob ysgol eu bod yn defnyddio un arall o’u diwrnodau HMS presennol fel dull o gefnogi eu parodrwydd ar gyfer y cwricwlwm newydd. I gefnogi hyn, byddai banc o adnoddau ar gael i ysgolion eu defnyddio i’w cynorthwyo ar y diwrnodau hyn (gweler isod).

 

4.         Datblygu cronfa o adnoddau y gellir ei defnyddio i arwain sesiynau HMS.

 

Gofynnodd yr ymgynghoriad am sylwadau ynghylch a ddylai Llywodraeth Cymru fandadu cynnwys y deunydd ar gyfer y diwrnodau HMS. Rhannwyd yr ymatebion i’r cwestiwn hwn gyda 37% yn teimlo na ddylem, a 38% y dylem, gyda’r gweddill heb benderfynu.

 

Roedd llawer o’r farn mai ysgolion ddylai ddewis, ac y dylai ein hagwedd at y diwrnodau HMS ychwanegol hyn adlewyrchu ethos y cwricwlwm newydd drwy roi mwy o awdurdod i ymarferwyr. Cytunwn y bydd hyblygrwydd yn hanfodol, ond mae’n amlwg bod rhai ysgolion y byddai cyfarwyddyd yn ddefnyddiol iddynt.

 

Mae’n bosibl bod y defnydd o’r gair ‘gorfodol’ yn nhestun yr ymgynghoriad wedi awgrymu ein bod yn bwriadu bod yn rhagnodol iawn o ran y cynnwys i’w gynnig i ysgolion. Fodd bynnag, rydym yn cynnig y dylid creu banc neu fframwaith o adnoddau y bydd ysgolion yn gallu dewis o’u plith, yn dibynnu ble y maent ar eu taith cwricwlwm nhw. Dylai banc o adnoddau dwyieithog ar-lein alluogi digon o wahaniaethu ar gyfer ysgolion a’u galluogi i ddewis a dethol y manylion penodol yn ymwneud â’r cwricwlwm newydd y mae angen iddynt ymdrin â nhw ar y diwrnodau HMS.

 

Rydym yn cynnig sicrhau’r adnoddau hyn dros y naw mis nesaf fel eu bod yn barod i ysgolion eu defnyddio erbyn haf 2020.

 

Bydd y defnydd o ddiwrnodau HMS, a’u heffeithiolrwydd, yn destun darn o waith ymchwil gan Brifysgol De Cymru. Bydd y dysgu hwn yn bwydo i mewn i’r adnoddau sydd i’w datblygu yn ogystal â’r meddwl ehangach ar ddefnydd a phwrpas HMS.

 

 

9. Asesu’r gystadleuaeth

 

Amherthnasol.

 

 

10. Adolygu ar ôl gweithredu

 

Mae hwn yn newid deddfwriaethol tymor byr, ar gyfer 2019-2022 ac felly bydd adolygiad yn cael ei gynnal ar ddiwedd y tair blynedd. Fodd bynnag, bydd effeithiolrwydd y diwrnodau HMS eu hunain yn cael ei werthuso yn dilyn y flwyddyn gyntaf, er mwyn sicrhau eu bod yn ychwanegu gwerth.

 

 

 

 

 

 

 



[1] S.I. 2003/3231 (W. 311)

[2] https://llyw.cymru/cenhadaeth-ein-cenedl