GWEINIDOGION Y DU SY’N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
139 - Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid, Rhywogaethau Goresgynnol Estron, Hawliau Bridwyr Planhigion a Hadau (Diwygio ac ati) Rheoliadau (Ymadael â’r UE) 2019 Gosodwyd yn Senedd y DU: 1 Gorffennaf 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol Arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin |
16 Gorffennaf 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi |
16 Gorffennaf 2019 |
Y dyddiad y daw’r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
17 Gorffennaf 2019 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 8 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Papur 4 |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Gweithdrefn |
Cadarnhaol neu Negyddol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Cynigir bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU (yn rhannol) yn unol ag adran 8(1) o, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o newidiadau technegol i offerynnau presennol gan ystyried newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth yr UE na ellid eu cynnwys mewn offerynnau Ymadael â’r UE blaenorol. Mae’r Rheoliadau'n cwmpasu nifer o feysydd polisi gan gynnwys: rhywogaethau estron goresgynnol, amrywiaethau planhigion, marchnata hadau a deunydd planhigion, rheoli clefydau anifeiliaid mewn Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid
Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 4 Gorffennaf 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn: · Er bod y datganiad yn cyfeirio at newidiadau a wnaed (yn rheoliadau 2 a 3) i Orchymyn y Rhywogaethau Gorsegynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 a Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995, gwnaed newidiadau i’r offerynnau hyn gan ddefnyddio pwerau o dan adran 2 (2) Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 yn hytrach na phwerau o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
· Mae’r Rheoliadau yn gwneud newidiadau i Reoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019. Er bod yr offeryn hwn yn cael ei grybwyll yn y rhestr fwled ar dudalen 1, ni roddir eglurhad pellach yn y datganiad. Ceir eglurhad ar dudalen 3 o’r datganiad sy’n cyfeirio at newidiadau a wnaed i Reoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019, fodd bynnag, nid yw’r Rheoliadau hyn wedi'u cynnwys yn y rhestr bwled ar dudalen 1.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith. |