![]() |
Annwyl Gadeiryddion y Pwyllgorau
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21
Yn ein cyfarfod ar 1 Mai 2019, cytunodd y Pwyllgor Cyllid ar y modd y byddai’n craffu ar y gyllideb. Rwy'n ysgrifennu at holl Gadeiryddion y pwyllgorau pwnc i rannu ein syniadau ac i annog eich pwyllgorau i drafod sut y gallwch wneud eich rhan i sicrhau bod y gwaith o graffu ar gynlluniau gwariant y Llywodraeth yn cael ei gwblhau yn y modd mwyaf cydlynol ac effeithiol bosibl.
Y prif feysydd craffu
Rydym wedi cytuno i barhau â'r un dull a ddilynwyd yn ystod y blynyddoedd blaenorol, sef bod y gwaith o graffu ar y gyllideb yn canolbwyntio ar y pedair egwyddor sy’n sail i waith craffu ariannol: fforddiadwyedd, blaenoriaethu, gwerth am arian a phroses. Dyma’r egwyddorion:
· Fforddiadwyedd - edrych ar y darlun ehangach o ran cyfanswm y refeniw a’r gwariant, ac a oes cydbwysedd priodol;
· Blaenoriaethu - a ellir cyfiawnhau'r modd y caiff y dyraniadau eu rhannu rhwng y sectorau/rhaglenni gwahanol ac a ydynt yn gydlynol;
· Gwerth am arian - yn y bôn, a yw cyrff cyhoeddus yn gwario eu dyraniadau'n ddoeth – yn ddarabodus, yn effeithlon ac yn effeithiol (h.y.) canlyniadau;
· Prosesau'r gyllideb - a ydynt yn effeithiol ac yn hygyrch ac a yw’r cynlluniau corfforaethol a chynlluniau’r gwasanaethau, a’r gwaith o reoli perfformiad a rheoli cyllid wedi’u hintegreiddio?
Yn dilyn cyfarfod i randdeiliaid yn Aberystwyth ar 27 Mehefin, rydym wedi penderfynu canolbwyntio ar nifer o feysydd penodol yn ystod y gwaith craffu, sef:
- Sut y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau trethu a benthyca, yn enwedig o ran Cyfradd Treth Incwm Cymru
- Cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus, arloesi a thrawsnewid gwasanaethau
- Polisïau Llywodraeth Cymru i hybu twf economaidd, lleihau tlodi ac anghydraddoldeb rhywiol, a lliniaru effeithiau’r diwygiadau lles
- Cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit a pharodrwydd ar gyfer Brexit
- Sut y mae tystiolaeth yn llywio gwaith Llywodraeth Cymru o ran pennu blaenoriaethau a dyrannu'r gyllideb
- Sut y mae Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn dylanwadu ar y broses o ddatblygu polisïau
- Wrth gyhoeddi ‘argyfwng hinsawdd’, a yw’n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i’r her honno a darparu’r adnoddau angenrheidiol
Rydym yn eich annog i ganolbwyntio ar rai o'r meysydd hyn wrth graffu ar y gyllideb.
Ymgynghori ynghylch y gyllideb ddrafft
Yn ôl yr arfer, byddwn yn cynnal ymgynghoriad ar ran yr holl Bwyllgorau yn ystod toriad yr haf a bydd yr ymatebion yn cael eu rhannu â chi yn yr hydref er mwyn eich helpu i graffu ar y gyllideb ddrafft.
Amgaeaf grynodeb o’r sylwadau a glywsom yn y cyfarfod i randdeiliaid a gynhaliodd y Pwyllgor Cyllid yn Aberystwyth cyn gosod y gyllideb. Mae’n bosibl y bydd y rhain o gymorth ichi pan fyddwch yn craffu ar y gyllideb.
Amserlen
Fel y gwyddoch, newidiodd y darpariaethau’n ymwneud ag adroddiadau pwyllgorau polisi yn 2017, a gall pob pwyllgor baratoi ei adroddiad ei hun yn awr (os dymunwch), a gellir defnyddio'ch adroddiad fel dogfen ategol yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft.
Os oes gennych gwestiynau am unrhyw agwedd ar broses y gyllideb ddrafft, mae croeso i chi gysylltu â mi neu Bethan Davies, Clerc y Pwyllgor Cyllid, ar 0300 200 6372, neu Bethan.Davies@Cynulliad.Cymru.
Yn gywir
Llyr Gruffydd AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid