GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

 

136 - Rheoliadau Plaladdwyr (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gosodwyd yn Senedd y DU: 19 Mehefin 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin

2 Gorffennaf 2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi

2 Gorffennaf 2019

Y dyddiad y daw’r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

8 Gorffennaf 2019

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 12

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Gweithdrefn

Negyddol neu gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adran 8(1), a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae’r Rheoliadau yn gwneud mân ddiwygiadau technegol i ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE sy’n cynnwys y cynhyrchion diogelu planhigion a'r cyfundrefnau lefelau gweddillion uchaf, er mwyn i’r ddeddfwriaeth barhau i weithredu’n effeithiol yn ar ôl ymadael â’r UE. Mae’r Rheoliadau hefyd yn dirymu cyfres o Reoliadau diangen yr UE.

 

Gwneir rhai o’r newidiadau o ganlyniad i’r newid yn “diwrnod ymadael” o 29 Mawrth 2019, gan gynnwys newidiadau i ddeddfwriaeth yr UE sydd wedi dod i rym yn ystod cyfnod yr estyniad. Mae’r Rheoliadau hefyd yn cywiro’r camgymeriadau mewn offerynnau cynharach a wnaethpwyd o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Mae'r Rheoliadau yn gymwys i’r DU gyfan ac nid yw’n gweithredu polisi newydd.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 24 Mehefin 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.