GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

135 - Rheoliadau REACH etc. (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 19 Mehefin 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

2 Gorffennaf 2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

2 Gorffennaf 2019

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

8 Gorffennaf 2019

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 10

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw'n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Ddim yn hysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau REACH etc. (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 (yr "OS REACH") Mae'n mewnosod darpariaeth drosiannol newydd sy'n ymwneud â cheisiadau am awdurdodiadau i ddefnyddio sylweddau cemegol sy'n peri pryder mawr - sy'n rhoi i gwmnïau'r DU gyfle i wneud cais am awdurdodiadau ar ôl y diwrnod ymadael er mwyn sicrhau nad oes unrhyw darfu ar y diwydiant cemegion na'r gadwyn cyflenwi.

 

Mae'r OS REACH yn cymhwyso rhai darpariaethau drwy ddyddiadau penodol neu mewn achosion eraill drwy ddyddiadau "symudol" sydd ynghlwm wrth y diwrnod ymadael.  Mae goblygiadau gan yr estyniadau i Erthygl 50 ar gyfer y dyddiadau hyn hefyd, a fydd yn effeithio mewn rhai achosion ar ddyletswyddau'r rheoleiddiwr neu'n atal rhai busnesau rhag elwa ar ddarpariaeth. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud rhai mân ddiwygiadau sy'n ymwneud â dyddiadau, croesgyfeiriadau a diwygiadau diweddar i reoliad REACH yr UE.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 24 Mehefin 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.