GWEINIDOGION Y DU SY’N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

134 - Rheoliadau Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 18 Mehefin 2019 

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin

2 Gorffennaf 2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi

2 Gorffennaf 2019

Y dyddiad y daw’r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

4 Gorffennaf 2019

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Paper 8

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw’n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Ddim yn hysbys

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ’r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Mae’r Datganiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn nodi: “Diben y diwygiad yw cywiro diffygion mewn deddfwriaeth sy’n deillio o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â chymryd rhan mewn Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd. 

 

“Mae Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd yn endidau cyfreithiol, wedi’u cynllunio i hwyluso a hybu cydweithrediad trawsffiniol, trawswladol a rhyngranbarthol, ac maent yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus gymryd rhan mewn gweithgareddau cydweithredu fel aelodau o Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd.

 

“Os bydd y DU yn ymadael â’r UE, ni fydd y DU yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau cydweithredu fel aelod-wladwriaeth mwyach. Bydd y diwygiadau yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus y DU ddod yn aelodau o Grwpiau Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd fel aelodau trydydd gwledydd. 

 

“Os bydd awdurdod datganoledig Cymreig yn ymgeisio i ymuno â Grŵp Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, mae’r OS yn cynnwys darpariaeth sy’n atal yr Ysgrifennydd Gwladol rhag cymeradwyo neu wrthod cais heb geisio cytundeb Gweinidogion Cymru.”

 

Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 20 Mehefin 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae datganiad Llywodraeth Cymru yn egluro effaith y ddeddfwriaeth yn gywir. O dan y Rheoliadau hyn, rhaid i awdurdod cyhoeddus sy’n dymuno dod yn aelod o Grŵp Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd wneud cais ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd Gwladol am gymeradwyaeth i wneud hynny.  Mae’r datganiad yn nodi’n gywir, mewn perthynas ag awdurdod datganoledig Cymreig, bod yn rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol geisio cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru cyn rhoi cymeradwyaeth i’r cais. Os nad yw Gweinidogion Cymru yn cytuno, rhaid gwrthod y cais.  Ar y llaw arall, os yw’r Ysgrifennydd Gwladol o blaid gwrthod y cais, hyd yn oed os yw Gweinidogion Cymru o’r farn y dylid ei gymeradwyo, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol wrthod y cais.

 

Nid yw’r datganiad a wnaed gan Weinidogion Cymru, na’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Rheoliadau, yn esbonio pam y dylid gwneud cais gan awdurdodau datganoledig Cymreig i’r Ysgrifennydd Gwladol ac nid i Weinidogion Cymru. Mae’r cynghorwyr cyfreithiol yn argymell y dylid gofyn am eglurhad ynghylch pam nad yw’r pwerau wedi’u rhoi i Weinidogion Cymru.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai’r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol o’r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.