Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 94(6) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

Y DRETH DIRLENWI, CYMRU

Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adrannau 8 a 32 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3) (“y Ddeddf TGT”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r diffiniad o “gwaith adfer” yn adran 8(4) o’r Ddeddf TGT er mwyn egluro y gall gwaith a gyflawnir i adfer man gwarediadau tirlenwi nad yw wedi ei gapio fod yn waith adfer.

O ganlyniad i’r diwygiad hwn, gall gwarediadau trethadwy a wneir er mwyn adfer man gwarediadau tirlenwi nad yw wedi ei gapio fod yn gymwys i gael rhyddhad o dan adran 29 o’r Ddeddf TGT, ar yr amod eu bod yn bodloni’r elfennau eraill o’r diffiniad o waith adfer yn adran 8(4) ac yn cydymffurfio â’r gofynion yn adran 29(1).

Mae rheoliad 3(a) yn diwygio adran 32 o’r Ddeddf TGT i ymestyn cwmpas y rhyddhad rhag treth gwarediadau tirlenwi mewn cysylltiad â gwarediadau trethadwy penodol a wneir wrth lenwi chwareli a mwyngloddiau brig. O ganlyniad i’r diwygiad hwn, caiff gwarediad cymysgedd cymwys o ddeunyddiau (fel y’i diffinnir gan adran 16 o’r Ddeddf TGT) fod yn gymwys i gael rhyddhad (yn ddarostyngedig i’r amodau eraill a nodir yn adran 32). Ni fydd cymysgedd cymwys o ddeunyddiau sy’n cynnwys dim ond gronynnau mân yn gymwys i gael rhyddhad.

Mae rheoliad 3(b) yn gwneud diwygiad cysylltiedig i’r amod a osodir gan adran 32(1)(d) o’r Ddeddf TGT. Mae’r diwygiad hwn yn sicrhau, pan fo gwarediad trethadwy cymysgedd cymwys o ddeunyddiau (ac eithrio gronynnau mân) wedi ei wneud ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018, ond cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, a bod y gwarediad yn un a fyddai wedi ei ryddhau rhag treth pe bai wedi ei wneud ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, nad yw gwneud y gwarediad hwnnw yn atal gwarediadau a wneir yn y dyfodol rhag bod yn gymwys i gael rhyddhad o dan adran 32.

Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediadau trethadwy a wneir ar y dyddiad y daw’r rheoliadau i rym neu ar ôl hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


 

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 94(6) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

y dreth dirlenwi, cymru

Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 8(5)(b), 33(1)(b) a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017([1]).

Yn unol ag adran 94(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf TGT” yw Deddf Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

Diwygio adran 8 o’r Ddeddf TGT

2.Yn adran 8(4) o’r Ddeddf TGT (gweithgarwch safle tirlenwi i’w drin fel gwarediad trethadwy), yn y diffiniad o “gwaith adfer”, yn lle “nid yw gwaith i adfer man gwarediadau tirlenwi” rhodder “pan fo man gwarediadau tirlenwi yn cael ei gapio, nid yw gwaith a wneir i adfer y man hwnnw”. 

Diwygio adran 32 o’r Ddeddf TGT

3.Yn adran 32 o’r Ddeddf TGT (ail-lenwi mwyngloddiau brig a chwareli), yn is-adran (1)—

(a)     ym mharagraff (a), yn lle “sy’n ddeunydd cymwys i gyd;” rhodder—

                      (i) sy’n ddeunydd cymwys i gyd, neu

                      (ii)  sy’n gymysgedd cymwys o ddeunyddiau nad yw’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân;;

(b)     ym mharagraff (d), ar y diwedd mewnosoder “neu warediadau y byddent wedi eu rhyddhau rhag treth o dan yr adran hon pe baent yn cael eu gwneud yn awr”.

 

Enw

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

 

 

 



([1])           2017 dccc 3.