SL(5)427 - Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 8 ac adran 32 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (y Ddeddf).

Mae Rheoliad 2 yn diwygio’r diffiniad o “waith adfer” yn adran 8(4) o’r Ddeddf er mwyn egluro y gall gwaith a gyflawnir i adfer man gwarediadau tirlenwi nad yw wedi ei gapio fod yn waith adfer.

O ganlyniad i’r diwygiad hwn, gall gwarediadau trethadwy a wnaed i adfer ardal gwaredu tirlenwi nad yw wedi’i gapio fod yn gymwys i gael rhyddhad (o dan adran 29 o’r Ddeddf), ar yr amod eu bod yn bodloni elfennau eraill o’r diffiniad o waith adfer yn adran 8(4), ac yn cydymffurfio â’r gofynion yn adran 29(1). 

Mae Rheoliad 3(a) yn diwygio adran 32 o’r Ddeddf i ymestyn cwmpas y rhyddhad rhag treth gwarediadau tirlenwi mewn perthynas â gwarediadau trethadwy penodol a wnaed wrth lenwi chwareli a mwyngloddiau brig agored. O ganlyniad i’r diwygiad hwn, caiff gwarediad cymysgedd cymwys o ddeunyddiau (fel y’i diffinnir gan adran 16 o’r Ddeddf) fod yn gymwys i gael rhyddhad (yn ddarostyngedig i’r amodau eraill a nodir yn adran 32). Ni fydd cymysgedd cymwys o ddeunyddiau sy’n cynnwys dim ond gronynnau mân yn gymwys i gael rhyddhad.

Mae rheoliad 3(b) yn gwneud diwygiad cysylltiedig i’r amod a osodir gan adran 32(1)(d) o’r Ddeddf. Mae’r diwygiad hwn yn sicrhau, pan fo gwarediad trethadwy cymysgedd cymwys o ddeunyddiau (ac eithrio gronynnau mân) wedi ei wneud ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018, ond cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, a bod y gwarediad yn un a fyddai wedi ei ryddhau rhag treth pe bai wedi ei wneud ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, nad yw gwneud y gwarediad hwnnw yn atal gwarediadau a wneir yn y dyfodol rhag bod yn gymwys i gael rhyddhad o dan adran 32.

Gweithdrefn

Cadarnhaol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rheol Sefydlog 21.3(i) - ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath

Telir trethi datganoledig i Gronfa Gyfunol Cymru, yn unol ag adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Deddf 2016). Mae’r Ddeddf yn nodi fel a ganlyn:

25(1) Rhaid i ACC[1] dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau i Gronfa Gyfunol Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhyddhadau sydd ar gael mewn perthynas â’r dreth gwarediadau tirlenwi, ac felly gallant effeithio o reidrwydd ar y derbyniadau treth a gesglir ac a delir i Gronfa Gyfunol Cymru.

Mae’r Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau yn nodi, ym mharagraff 4.4, y bydd y newid i adran 8(4) yn sicrhau bod y rhyddhad ar gyfer gwaith adfer safleoedd ... ar gael o hyd mewn achosion priodol lle mae angen cap, ond bydd hefyd ar gael i’r safleoedd tirlenwi anweithredol hynny nad oes angen cap arnynt.

Mewn perthynas â’r diwygiadau a wnaed i adran 32, mae’r Memorandwm Esboniadol, ym mharagraff 4.6, yn nodi bod y diwygiadau a wnaed i adran 32 o’r Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi wedi’u cynllunio i sicrhau y caiff y bwriad polisi cychwynnol i ddarparu rhyddhad rhag trethi ar gyfer gwarediadau deunyddiau sy’n achosi risg isel i’r amgylchedd ac sy’n cael eu defnyddio, yn ôl y gofyn, i ail-lenwi chwareli a mwyngloddiau brig agored ei ddarparu’n effeithiol.

Nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn rhoi amcangyfrif o’r gostyngiad o ran derbyniadau trethi a ddisgwylir o ganlyniad i’r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi, o gofio bod y Rheoliadau hyn wedi’u cynllunio i sicrhau bod y bwriad polisi gwreiddiol yn cael ei wireddu’n ymarferol, ni chynigir unrhyw Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Y goblygiadau yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Gorffennaf 2019

 



[1] Yn Neddf 2016, cyfeirir at Awdurdod Cyllid Cymru fel ACC, gweler adran 2(2).