![]() |
![]() |
TEITL |
Rheoliadau Plaladdwyr (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 |
DYDDIAD |
24 Mehefin 2019 |
GAN |
Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd |
Rheoliadau Plaladdwyr (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019
Y Gyfraith sy'n cael ei diwygio
· Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Defnydd Cynaliadwy) 2012
· Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019
· Rheoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Gweddillion Uchaf) (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019
· Rheoliad (UE) Rhif 1107/2009 ynglŷn â rhoi cynhyrchion diogelu planhigion ar y farchnad
· Rheoliad (EU) Rhif 844/2009 ynglŷn â gweithredu y weithdrefn adnewyddu ar gyfer sylweddau actif.
· Cytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd
Y Gyfraith sy'n cael ei diwygio
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 380/2013
· Rheoliad y Cyngor (UE) Rhif 518/2013
· Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 1136/2014
· Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 2015/1475
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2018/155
· Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 2018/1515
· Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 2018/1516
· Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 2019/38
· Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 2019/58
· Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 2019/89
· Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 2019/90
· Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 2019/91
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/149
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/150
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/151
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/158
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/168
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/291
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/324
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/337
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/344
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/481
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/530
· Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 2019/552
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/676
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/677
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/706
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/707
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/716
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) Rhif 2019/717
Diben y Rheoliadau
Mae'r Rheoliadau yn gwneud nifer o ddiwygiadau i ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE sy'n cael eu cadw sy'n llunio'r cynnyrch diogelu planhigion a gweithdrefnau rheoleiddiol lefel gweddillion uchaf, fel y gallant barhau i weithredu'n effeithiol wedi i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae rhai o'r diwygiadau gofynnol o ganlyniad i'r newid i'r "diwrnod ymadael" o 29 Mawrth sy'n cael effaith ar yr amrywiol ddyddiadau sy'n cael eu nodi yn y ddeddfwriaeth sy'n cael eu cadw. Mae rhagor o ddeddfwriaeth newydd gan yr UE wedi dod i rym yn ystod yr estyniad, sydd angen ei ddiwygio er mwyn cywiro'r diffygion sy'n codi o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r Rheoliadau hefyd yn cywiro'r camgymeriadau mewn offerynnau cynharach a wnaethpwyd o dan adran 8(1) Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi effaith y diwygiadau, i'w gweld yma: https://www.gov.uk/eu-withdrawal-act-2018-statutory-instruments
Unrhyw effaith y gall yr OS ei gael ar gymhwysedd deddfwriaethol Gweinidogion Cymru
Ni chaiff y Rheoliadau unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol Gweinidogion Cymru.
Unrhyw effaith a gaiff yr OS ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ni chaiff y Rheoliadau unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Pam y rhoddwyd cydsyniad
Mae'r Rheoliadauyn gwneud nifer o newidiadau technegol a darpariaethau atodol i bolisïau a gafodd eu cynnwys mewn OSau ymadael â’r UE cynharach, gan sicrhau fod pob un o'r diffygion yn cael eu cywiro.