GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

132 - Rheoliadau'r Amgylchedd a Materion Gwledig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gosodwyd yn Senedd y DU: 23 Mai 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

18 Mehefin 2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

12 Gorffennaf 2019

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 7

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Gweithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o fân newidiadau technegol i sicrhau cysondeb rhwng yr offerynnau a restrir isod ac OSau eraill sy'n gysylltiedig ag ymadael â'r UE, er mwyn sicrhau effeithiolrwydd a pharhad deddfwriaeth y DU, ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.

 

·         Rheoliadau’r Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (OS 2019/25).

·         Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (OS 2019/39).

·         Rheoliadau Gwastraff (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019 (OS 2019/188).

·         Rheoliadau Gwastraff (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019 (OS 2019/620).

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 3 Mehefin 2019, ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.