GWEINIDOGION Y DU SY’N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

131 – Rheoliadau Gorfodi’r Gyfraith a Diogelwch (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 15 Ionawr 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na

Gweithdrefn:

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin

Amherthnasol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi

18/02/2019

Y dyddiad y daw’r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 11

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Papur 7

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

30/01/2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ’r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi

18/02/2019

Sylwadau

 

Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adrannau 1(1), 69(1), 71(4), 73(5), 84(7), 86(7) a 223(3) ac (8) o Ddeddf Estraddodi 2003, ac adrannau 8(1) a 23(1) a (2) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i’r Ddeddf hon.

 

Ar hyn o bryd, mae’r DU yn cymryd rhan mewn tua 40 o fesurau’r UE sydd wedi’u cynllunio i gefnogi a gwella diogelwch, gorfodi’r gyfraith a chydweithredu barnwrol mewn materion troseddol. Mae’r DU hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o systemau rheoleiddio’r UE sy’n gysylltiedig â diogelwch.

 

Pe bai’r DU yn ymadael â’r UE heb gytundeb, byddai mynediad y DU at adnoddau a mesurau’r UE o ran diogelwch, gorfodi’r gyfraith a chyfiawnder troseddol yn dod i ben, ac ni fyddai’r DU bellach yn ddarostyngedig i gyfundrefnau rheoleiddio’r UE.

 

Pwrpas trosfwaol yr offeryn hwn yw gwneud newidiadau i lyfr statud domestig y DU, gan gynnwys deddfwriaeth yr UE a ddargedwir, i fynd i’r afael â diffygion sy’n codi o’r ffaith na fydd y DU yn un o Aelod-wladwriaethau’r UE mwyach. Bydd yr offeryn yn gwneud tri phrif beth:

 

·         Dirymu neu ddiwygio deddfwriaeth yr UE a ddargedwir sy’n berthnasol yn uniongyrchol a deddfwriaeth ddomestig ym maes diogelwch, gorfodi’r gyfraith, cyfiawnder troseddol a rhai systemau rheoleiddio sy’n gysylltiedig â diogelwch i sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i weithredu’n effeithiol mewn senario heb gytundeb;

 

·         Gwneud darpariaethau trosiannol neu ddarpariaethau arbed i ymdrin ag achosion ‘byw’; hynny yw, sut y dylid ymdrin ag achosion ‘byw’ ar y diwrnod ymadael; neu sut y dylid trin data a ddaeth i law cyn y diwrnod ymadael;

 

·         Yn achos estraddodi, sicrhau fod gan y DU y sail gyfreithiol gywir i weithredu’r trefniant ‘dim cytundeb’ wrth gefn (Confensiwn Cyngor Ewrop ar Estraddodi 1957) a fyddai’n cael ei ddefnyddio yn lle’r Warant Arestio Ewropeaidd.

 

Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 3 Mai 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

 

Mae Llywodraeth Cymru, yn ei datganiad ysgrifenedig, yn nodi bod Llywodraeth y DU o’r farn bod yr Offeryn Statudol cyfan yn fater a gedwir yn ôl, felly ni ofynnodd am gydsyniad Gweinidogion Cymru i gyflwyno’r offeryn hwn. Fodd bynnag, mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod diwygiadau i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 yn dod o fewn cymhwysedd datganoledig, felly dylid bod wedi gofyn i Weinidogion Cymru gydsynio i’r offeryn hwn. Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar y pwynt hwn ac wedi ysgrifennu llythyr at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn nodi barn Llywodraeth Cymru. Er na ofynnwyd am gydsyniad ar y pryd, mae Gweinidogion Cymru yn fodlon â’r Offeryn Statudol ac ni fyddent yn gwrthod cydsynio iddo.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn tynnu sylw at y sylwadau uchod ynghylch datganiad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pharagraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.

 

Fodd bynnag, mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn nodi sylwadau’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei llythyr at y Pwyllgor ar 2 Mai 2019, lle mae’n pwysleisio’r pwysau digynsail y gwnaed yr Offerynnau Statudol sy’n gysylltiedig ag ymadael â’r UE oddi tano, a oedd yn golygu nad oedd cymaint o amser ag sy’n arferol i ystyried elfennau mwy goddrychol o’r setliad datganoli. Ar y sail honno, mae’r Gweinidog wedi nodi ei bod yn fodlon bod Llywodraeth y DU wedi gweithredu’n ddidwyll o dan y Cytundeb Rhynglywodraethol ac wedi cadw at ei dehongliad ei hun o’r setliad datganoli yn yr achos hwn. Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi cydsyniad heb ragfarnu safbwynt Llywodraeth Cymru ar gymhwysedd deddfwriaethol ac nid ydynt yn bwriadu cymryd camau pellach ar hyn o bryd.

 

Mae’r Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn nodi bod y diwygiadau a wneir gan yr offeryn hwn i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 yn rhai bach iawn, ac nad oes gwahaniaeth rhwng polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran y cywiriad.

 

Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.