Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig | Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Gwaith dilynol ar reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru | Follow up work on Marine Protected Area management in Wales

MPA07

Ymateb gan : Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Evidence from : Pembrokeshire Coast National Park Authority and Snowdonia National Park Authority

           

1.         Diolch i chi am y cyfle i gyfrannu at waith dilynol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru. Mae hwn yn ymateb ar y cyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri[1].

 

2.         Roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn croesawu’r adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor fis Awst 2017 dan yr enw Y Llanw’n Troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig.

 

3.         Roedd yr adroddiad yn nodi'n glir beth oedd angen ei wneud i wella’r gwaith o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig (AMG) yng Nghymru. Credwn bod yr adroddiad wedi bod yn ddylanwadol ac yn gatalydd ar gyfer cynnydd.

 

4.         Rydym yn falch o weld y dilyniant hwn i'r Ymchwiliad ar yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig, a’n gobaith yw y bydd yn gymorth i gynnal ac adeiladu ar y cynnydd a wnaed

 

5.         Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynrychioli'r ddau barc cenedlaethol arfordirol yng Nghymru ar Grŵp Llywio Rheoli AMG. Barwn bod yr ymchwiliad dilynol hwn yn gyfle i eraill gyflwyno sylwadau ar Fframwaith Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru ac ar y Cynllun Gweithredu, felly nid ydym wedi ymateb i'r cwestiynau sy'n ymwneud â'r materion hyn.

 

Pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn sgîl yr argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor? 

 

Sylwadau ar Argymhelliad 1

6.         Fis Medi 2018 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Rheoli Rhwydwaith AMG ar gyfer 2018-23 a chynllun gweithredu cysylltiedig ar gyfer 2018-19. Croesewir gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i glustnodi ac i flaenoriaethu'r camau gweithredu sydd fwyaf tebygol o gael effaith strategol.

 

7.         Cafodd llythyr dyddiedig 8fed Mai 2017 gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ei anfon at awdurdodau lleol arfordirol a chyfranwyr allweddol eraill i’r gwaith o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru yn statudol. Roedd y llythyr hwn yn egluro ymhlith materion eraill y pwerau a’r dyletswyddau oedd gan yr awdurdodau rheoli.

 

8.         Mae'r pwerau a’r dyletswyddau hyn yn sail i awdurdodau rheoli gymryd rhan weithredol mewn rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Serch hynny, ein barn ni yw bod angen arweiniad cryfach os yw’r awdurdodau rheoli i gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau yn ddigonol.

 

Sylwadau ar Argymhelliad 2

9.         Yn 2015 roedd Grŵp Llywio Rheoli AMG wedi ymgynghori â’r rhanddeiliaid ar bedwar opsiwn o reoli safleoedd AMG. Roedd yr ymatebion yn dangos ffafriaeth glir o blaid dull gweithredu lleol gyda saith ardal reoli.

 

10.       Cymerodd aelodau Grŵp Llywio Rheoli AMG ddau opsiwn ymlaen i'w hasesu ymhellach:

·         Opsiwn 2 - dull gweithredu lleol gyda saith ardal reoli

·         Opsiwn 5 - pedair ardal reoli gyda mwy nag un swyddog, yn dibynnu ar anghenion yr ardal.

 

11.       Mae cofnodion cyfarfod Grŵp Llywio Rheoli AMG ar y 27aino Ionawr 2016 yn nodi mai "swydd llawn amser ym mhob un o'r saith ardal bresennol oedd yr opsiwn a ffafrwyd; fodd bynnag, byddai swydd rhan-amser yn fwy ymarferol a fforddiadwy. Roedd aelodau'r grŵp wedi mynegi eu pryder ynghylch ehangu’r ardaloedd. Awgrymwyd pan oedd ardaloedd yn cael eu colli, bod yr awdurdodau lleol yn llai tebygol o gefnogi'r ardaloedd hynny.”  

 

12.       Barn APCAP ac APCE yw y dylai Llywodraeth Cymru (yn uniongyrchol neu drwy CNC) ddarparu'r prif gyllid craidd ar gyfer rheoli safleoedd AMG, gan gynnwys swyddi swyddogion System Reoli Amgylcheddol, gydag awdurdodau perthnasol yn parhau i wneud cyfraniadau ychwanegol. Mae awdurdodau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Eryri wedi ymrwymo fel awdurdodau perthnasol i leihau’r pwysau ar yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig a gwella eu cyflwr drwy'r model Grŵp yr Awdurdodau Perthnasol.

 

13.       I gloi o ran Argymhelliad 2, mae ymgynghori a gwerthuso opsiynau rheoli wedi’u cynnal, ond mae’r cynigion i ariannu dull ar sail ardal, gyda phob ardal reoli yn cael swyddog wedi’i neilltuo i’r ardal honno, heb eto eu cyflawni.

 

14.       Nodwn bod ymgynghoriad wedi’i gynnal yn 2016 ar y ddwy Ardal Cadwraeth Arbennig ar gyfer llamidyddion yn nyfroedd Cymru (a ddynodwyd fis Chwefror 2019) ac y cyflwynwyd y ddwy ardal i'r Comisiwn Ewropeaidd i'w cymeradwyo ar 30 Ionawr 2017. Byddai'r broses hon, i raddau helaeth, wedi ôl-ddyddio’r trafodaethau uchod yn y Grŵp Llywio Rheoli AMG. Byddai angen i'r dull gweithredu lleol a ffefrir gan y rhanddeiliaid ystyried ac amlygu’r ddwy ardal newydd ychwanegol (Chwefror 2019) i’r rhwydwaith AMG.

 

            Sylwadau ar Argymhelliad 3

15.       Roedd Blwyddyn y Môr 2018 Croeso Cymru yn rhoi llwyfan da i godi ymwybyddiaeth. Mae swyddogion Safleoedd Morol Ewropeaidd hefyd wedi manteisio ar bryder y cyhoedd ynglŷn â phlastig yn y môr ac wedi gweithio gyda busnesau i glustnodi cyfleoedd i leihau plastig untro ac i ddathlu llwyddiannau.

 

16.       Ystyriwn bod ennyn ymwybyddiaeth y cyhoedd o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn dasg barhaus. Mae gan swyddogion Safleoedd Morol Ewropeaidd rôl allweddol o ran codi ymwybyddiaeth yn lleol (trigolion ac ymwelwyr[2]) ac o ran cyfleu pwysigrwydd ardaloedd AMG o fewn y rhwydwaith ehangach.

 

Sylwadau ar Argymhelliad 4

17.       Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau partner wedi clustnodi a blaenoriaethu'r gweithgareddau heb eu rheoleiddio sydd â'r effaith fwyaf andwyol, mewn gwirionedd neu o bosibl, ar gyflwr nodweddion o fewn safleoedd Natura 2000 Cymru, gyda’r bwriad o weithredu dulliau effeithiol o reoli er mwyn lliniaru eu heffeithiau (Mai 2018). Rydym yn croesawu'r gwaith hwn fel sail i reoli bygythiadau sy'n gyffredin i lawer o’r Ardaloedd Morol Gwarchodedig.

 

18.       Rydym yn croesawu'r pump cwch newydd i amddiffyn pysgodfeydd fydd, gobeithio, yn diogelu dyfroedd Cymru a diwydiant pysgota Cymru yn effeithiol rhag gweithgarwch pysgota anghyfreithlon. Ein gobaith yw y bydd y cychod hefyd yn gymorth i sicrhau bod gweithgareddau pysgota o fewn yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn gydnaws â nodweddion y safle.

 

A yw’r gwaith o reoli moroedd Cymru wedi cael digon o adnoddau a chyfeiriad strategol?

 

19.       Deallwn bod Adran Forol a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru wedi cael adnoddau ychwanegol sydd wedi cyfrannu at waith strategol AMG ac at ariannu’r camau gweithredu a glustnodwyd yng Nghynllun Gweithredu 2018-2019. Rydym yn croesawu hyn yn gynnes, ac yn croesawu rhaglen cychod newydd Llywodraeth Cymru. Hefyd rydym yn croesawu Prosiect Llywodraeth Cymru / Cyfoeth Naturiol Cymru ar Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru. Gwelwn gyfatebolrwydd clir rhwng ymdrech o'r fath ar lefel rhwydwaith a chydweithio sy'n benodol i safleoedd a nodweddion - sydd hefyd yn cynyddu uniondeb y rhwydwaith.

 

20.       Rydym yn croesawu cyllid Llywodraeth Cymru yn gynnes ar gyfer Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru, ac yn awgrymu y dylai’r cymorth hwn neu gynlluniau olynol gynnwys cynigion ar gyfer prosiect morol yn y dyfodol.

 

21.       Ar y cyfan, barnwn nad yw'r adnoddau yn ddigonol i gyflawni’r tasgau sydd eu hangen i wneud gwelliannau o ystyried cyflwr nodweddion AMG. Felly, dymunwn ailadrodd yr awgrym y dylai Llywodraeth Cymru (yn uniongyrchol neu drwy CNC) ddarparu cyllid craidd ar gyfer rheoli safleoedd AMG, gan gynnwys swyddi swyddogion Safleoedd Morol Ewropeaidd, gydag awdurdodau perthnasol yn gwneud cyfraniadau ychwanegol. Hefyd mae cyfleoedd i ailgynllunio polisïau mewn ffyrdd fyddai'n lleihau rhywfaint o’r pwysau ar Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Cyfeiriwn yn fras at y cyfleoedd hyn isod.

 

Sut mae cyflwr Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru wedi newid?

 

22.       Rydym yn croesawu cyhoeddiad CNC ar yr asesiadau dangosol o gyflwr safleoedd yn 2018; mae monitro yn gonglfaen i reolwyr a rhaid i CNC gael adnoddau digonol i ddarparu data monitro amserol a chyngor ar gadwraeth.

 

23.       Mae canlyniadau'r asesiadau dangosol yn destun cryn bryder. Er enghraifft, mae 9 o'r 15 nodwedd a werthuswyd yn Ardal Gadwraeth Forol Arbennig Sir Benfro mewn cyflwr anffafriol, yn yr un modd a’r 7 o'r 12 nodwedd a werthuswyd yn ACA Pen Llŷn a'r Sarnau. Dim ond hyder isel i ganolig sydd yn yr asesiad o'r 4 nodwedd y clustnodwyd eu bod mewn cyflwr ffafriol yn ACA Pen Llŷn a'r Sarnau. Yn ein barn ni, ni wnaed digon o gynnydd ar yr ymrwymiad yn Natganiad Polisi Morol y DU a'r amcan morol lefel uchel i fyw o fewn terfynau amgylcheddol[3].

 

24.       Rydym yn cloi'r ymateb hwn gyda'r sylw bod y DU yn ymadael â’r UE yn cynnig cyfle gwych i ail-ddylunio rheoli pysgodfeydd, yng nghyd-destun y cytundebau rhyngwladol fydd yn parhau mewn grym ar ôl Brexit. Yn benodol, mae'n gyfle i'r gweinyddiaethau datganoledig ddylunio fframwaith cyffredin ar gyfer rheoli pysgodfeydd sy'n seiliedig ar ecosystemau ac sy’n deg, gyda lefel briodol o adnoddau a mesurau gorfodi.

 

Diolch i chi am y cyfle i gyfrannu at yr ymchwiliad hwn.



[1] Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro hefyd yn cyfrannu at ymateb ar y cyd gan Grŵp Awdurdodau Perthnasol Ardal Cadwraeth Forol Arbennig Sir Benfro.

[2] Roedd astudiaeth yn 2013 wedi amcangyfrif bod Gwerth Ychwanegol Crynswth hamdden morol mewn ardal 92km2o amgylch penrhyn Tyddewi yn £17.8m (ceidwadol).

http://www.walesactivitymapping.org.uk/wp-content/uploads/2013/07/Wales-Activity-Mapping-Economic-Valuation-of-Marine-Recreation-Activity_Non-Tech-Summary-Nov-2013.pdf

[3] Mae bioamrywiaeth yn cael ei diogelu, ei gwarchod a, lle bo'n briodol, ei hadfer ac yn rhoi stop ar golledion; mae cynefinoedd morol ac arfordirol iach yn digwydd ar draws eu tiriogaeth naturiol ac yn gallu cynnal cymunedau biolegol cryf, bioamrywiol, ac yn hybu ecosystemau morol iach, cydnerth ac addasadwy; mae ein cefnforoedd yn cynnal poblogaethau hyfyw o rywogaethau cynrychioliadol, prin, bregus a gwerthfawr.”