GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
127 - Rheoliadau Georwystro (Dirymu) (Ymadael â’r UE) 2019 Gosodwyd yn Senedd y DU: 14 Mawrth 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amh. |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amh. |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 27 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Ddim yn ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amh. |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Defnyddir y term “georwystro” i ddisgrifio'r sefyllfa ble mae masnachwyr yn gwahaniaethu yn erbyn cwsmeriaid ar sail cenedligrwydd neu leoliad y cwsmer, er enghraifft drwy ail-gyfeirio cwsmeriaid yn awtomatig i fersiynau gwlad-benodol o'u gwefan, gyda thelerau ac amodau gwahanol. Bydd y Rheoliadau hyn yn dirymu fersiwn “cyfraith yr UE a ddargedwir” o Reoliad (UE) 2018/302 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 28 Chwefror 2018 ar fynd i'r afael ag achosion na ellir eu cyfiawnhau o georwystro ac â mathau eraill o wahaniaethu ar sail cenedligrwydd neu fan preswylio cwsmeriaid neu ar sail lleoliad eu sefydliad o fewn y farchnad fewnol ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 2006/2004 ac (UE) 2017/2394 a Chyfarwyddeb 2009/22/EC (y “Rheoliad Georwystro”). Mae'r Rheoliad Georwystro yn gwahardd mathau penodol o georwystro. Mae hyn yn cynnwys mandadu mynediad i bob fersiwn o wefan yn yr UE, sicrhau nad oes gwahaniaethu rhwng cwsmeriaid yr UE wrth siopa o bell, a sicrhau nad oes gwahaniaethu o ran y telerau talu a dderbynnir.
Os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb, byddai'r Rheoliad Georwystro yn colli elfennau pwysig o ddwyochredd sy’n angenrheidiol er mwyn iddo weithredu'n effeithiol yn y DU. Os na chaiff y Rheoliad Georwystro ei ddirymu, byddai masnachwyr y DU yn parhau i fod â rhwymedigaethau i gwsmeriaid yr UE o dan y Rheoliad, tra byddai cwsmeriaid y DU yn annhebygol o dderbyn unrhyw un o'i fuddion. Er mwyn osgoi'r anghydraddoldeb mewn rhwymedigaethau gorfodi o blaid yr UE, mae'r Rheoliad Georwystro i gael ei ddirymu yn y DU.
Bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Georwystro (Gorfodi) 2018, sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i gwsmeriaid ddilyn hawliadau sy'n deillio o'r Rheoliad Georwystro yn uniongyrchol yn erbyn masnachwyr. Gan fod y Rheoliad Georwystro yn cael ei ddirymu, ni fydd y ddarpariaeth hon bellach yn briodol ac felly caiff ei dirymu hefyd.
Mae'r dirymiadau hyn yn cael eu gwneud er mwyn mynd i'r afael â diffygion sy'n codi o ganlyniad i’r DU yn ymadael â'r UE.
Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 29 Mawrth 2019 (a osodwyd ar 20 Mawrth 2019) ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|