GWEINIDOGION Y DU SY’N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
128 - Rheoliadau Cystadleurwydd Mentrau a Mentrau Bach a Chanolig (Dirymu) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 4 Ebrill 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin |
24 Ebrill 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi |
8 Ebrill 2019 |
Y dyddiad y daw’r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
2 Mai 2019 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 12 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Anhysbys |
Gweithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ’r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae’r Rheoliadau yn dirymu deddfwriaeth uniongyrchol bresennol yr UE sy’n ffurfio cyfraith y DU sy’n ymwneud â’r Rhaglen ar gyfer Cystadleurwydd Mentrau a mentrau bach a chanolig (2014-2020).
Mewn senario ‘dim cytundeb’, byddai Rheoliad yr UE yn peidio â chael effaith yng nghyfraith y DU, ac mae Llywodraeth y DU yn bwriadu peidio â chyflwyno deddfwriaeth newydd i ddarparu cyllid ar gyfer rhaglen Cystadleurwydd Mentrau a mentrau bach a chanolig ar ôl ymadael.
Os na fydd cytundeb, mae Llywodraeth y DU wedi datgan y bydd yn gwarantu cyllid yr UE ar gyfer sefydliadau yn y DU sydd wedi cyflwyno cais yn llwyddiannus yn uniongyrchol i’r Comisiwn Ewropeaidd, pan fyddai modd iddynt gymryd rhan fel trydydd gwledydd, fel y gallant barhau i gystadlu am, a sicrhau , cyllid tan ddiwedd 2020. Mae hyn yn cynnwys prosiectau Cystadleurwydd Mentrau a mentrau bach a chanolig y DU, pan fo’r prosiectau hynny yn parhau’n hyfyw ar ôl ymadael heb gytundeb.
Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 8 Ebrill 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol o’r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.
Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. |