GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

129 - Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin a Mesurau'r Farchnad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gosodwyd yn Senedd y DU: 5 Ebrill 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 13

SICM o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol 

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Gwneir y Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae taliadau a wneir o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn perthyn i ddwy elfen: Colofn 1 (taliadau uniongyrchol i ffermwyr) a Cholofn 2 (cyllid datblygu gwledig).  Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am bolisi yng Nghymru.  Roedd cyfraith yr UE yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud trosglwyddiadau rhwng y ddwy golofn o hyd at 15 y cant o'r cronfeydd.  O dan y gyfraith bresennol (Rheoliad Rhif 1307/2013 yr UE), daeth y gallu i wneud hynny i ben ddiwedd mis Awst 2018.  Gwnaed diwygiadau i'r Rheoliad UE hwn gan Reoliad 2019/288 yr UE.  Mae'r cyfnod bellach wedi'i ymestyn i 31 Rhagfyr 2019.

 

Mae'r Rheoliadau a restrir yn natganiad Llywodraeth Cymru eisoes wedi eu gwneud i roi effaith barhaus i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (fel cyfraith yr UE a gedwir) ar ôl ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.  Fodd bynnag, ers y gwnaed y Rheoliadau hynny, mae'r newidiadau i Reoliad 1307/2013 yr UE a nodwyd uchod hefyd wedi dod i rym. 

 

Erbyn hyn, mae angen adlewyrchu'r newidiadau hynny hefyd yn y DU.  Mae'r offeryn hwn yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i'r ddeddfwriaeth berthnasol.  Mae hefyd yn dileu rhai gwallau mân yn y gyfraith bresennol.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 10 Ebrill 2019, ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.  Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.