![]() |
![]() |
TEITL |
Rheoliadau’r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019 |
DYDDIAD |
11 Ebrill 2019 |
GAN |
Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd |
Rheoliadau’r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019
Mae Rheoliadau 2019 yn diwygio'r canlynol:
Diwygiadau i Ddeddfwriaeth yr UE sy'n uniongyrchol gymwys
· Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) 2018/2067
· Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 601/2012
Dirymu
· Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/331
Diwygio Deddfwriaeth Ddomestig
· Rheoliadau'r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2012
· Rheoliadau’r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru
Mae'r OS yn rhan o becyn o fesurau i fynd i'r afael â diffygion yn system Cynllun Masnachu Allyriadau'r UE. Mae'r OS hwn yn diwygio deddfwriaeth ddomestig a deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sydd, yn bennaf, yn dod o dan gymhwysedd datganoledig Cynulliad Cenedlaethol Cenedlaethol Cymru a phwerau gweithredol Gweinidogion Cymru o ran masnachu carbon.
Diben y diwygiadau
Gwneir y Rheoliadau hyn wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol a gwendidau eraill sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.
Roedd Rheoliadau’r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (Rheoliadau Ymadael Cynllun Masnachu Allyriadau cyntaf yr UE) yn ymwneud â sicrhau bod rhwymedigaethau monitro, adrodd, achredu a gwirio'r Cynllun Masnachu Allyriadau'r UE yn parhau os na fydd cytundeb ac roeddent yn dirymu deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys mewn perthynas â'r cap ac elfennau masnach y cynllun. Mae'r Rheoliadau hyn yn mynd i'r afael â diffygion pellach o ran gweithredu'r rhwymedigaethau hynny o ganlyniad i ddatblygiadau yn yr UE ddiwedd 2018.
Mae'r rheoliadau hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod rheoliad monitro newydd yr UE (Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) 2018/2066) a rheoliad gwirio (Rheoliad Gweithredu gan y Comisiwn (EU) 2018/2067) ar lefel yr UE wedi'u cyflwyno, ac yn cywiro diffygion newydd yn rheoliad monitro presennol yr UE (Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 601/2012). Maent yn benodol yn:
· Diweddaru diffiniad "y Rheoliad Dilysu" yn rheoliad 3 o Reoliadau'r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2012.
· Gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Ymadael y Cynllun Masnachu Allyriadau cyntaf o ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed i'r dulliau monitro presennol drwy'r rheoliad monitro newydd.
· Diwygio'r rheoliad gwirio newydd i sicrhau bod y gofynion gwirio yn dal i weithio ar ôl ymadael â'r UE.
· Diwygio'r rheoliad gwirio newydd i beidio â chynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â dyraniadau am ddim oherwydd ar ôl ymadael â'r UE, os na fydd cytundeb, ni fydd y DU yn parhau i gymryd rhan yn y broses dyraniadau am ddim sy'n gysylltiedig â Chynllun Masnachu Allyriadau'r UE.
· Diwygio rheoliad monitro presennol yr UE, i fynd i'r afael â diffygion a gyflwynwyd i'r rheoliad hwnnw gan reoliad monitro newydd yr UE.
· Dirymu Rheoliad yr UE sy'n ymwneud â'r broses dyraniadau am ddim honno ar ôl ymadael â'r UE (Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/331 oherwydd ar ôl y diwrnod ymadael, os na fydd cytundeb, ni fydd y DU yn parhau i fod yn rhan o Gynllun Masnachu Allyriadau'r UE ac felly ni fydd y broses honno sy'n ymwneud â'r cynllun hwnnw yn gymwys bellach.
Mae'r OS a'r Memoranda Esboniadol cysylltiedig sy'n nodi effaith pob un o'r diwygiadau i'w gweld yma: https://beta.parliament.uk/work-packages/X2gK9S1i
Pam y rhoddwyd cydsyniad
Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y cywiriadau hyn o ran, ac ar ran Cymru, am resymau’n ymwneud ag effeithlonrwydd a hwylustod. Diben y diwygiadau hyn yw sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i weithio ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, drwy ddiwygio neu ddirymu darpariaethau a fyddai, fel arall, yn rhai na fyddai modd eu gweithredu.