Mae Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru yn gorff polisi, ymchwil a
datblygu annibynnol sy'n ymroddedig i hyrwyddo dysgu gydol oes,
cyflogaeth lawn a chynhwysiant.
O gofio am y cyfyngiadau cyfredol ar gyllid cyhoeddus a'r lefel uchel o newid economaidd ac ansicrwydd sy'n wynebu ein gwlad, mae'n bwysicach nag erioed fod gan Gymru seilwaith sgiliau effeithlon. Cafodd rhannau o'r seilwaith sgiliau oedd yn gyffredin ar draws y Deyrnas Unedig eu chwalu mewn blynyddoedd diweddar gyda mwy o amrywiaeth mewn dulliau gweithredu rhwng Cymru a Lloegr.
Er y bydd creu corff newydd ôl-orfodol i reoleiddio a chydlynu cyllid a gweithgaredd yn rhan sylweddol o fynd i'r afael â heriau yn y system, gellid dadlau y bydd llwyddiant y diwygio yn dibynnu ar gyfryngwyr effeithlon i ymgysylltu gyda chyflogwyr, datblygu dealltwriaeth o'r marchnadoedd llafur lleol a sicrhau fod darpariaeth sgiliau briodol yn ei lle i ateb y galw.
Gall a dylai Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ('y Partneriaethau') fod yn ddolen gyswllt hanfodol rhwng 'galw' a 'chyflenwad' o fewn y system. Mae'n iawn y dylent weithredu'n rhanbarthol fel y gellir mynd i'r afael yn ddigonol gydag anghenion economaidd neilltuol Cymru ond dylent hefyd fod â ffocws ar gefnogi darparwyr i ddiwallu anghenion neilltuol marchnadoedd llafur lleol ac wrth baratoi Cymru ar gyfer sbardunau byd-eang newid economaidd.
Fodd bynnag,
mae'n glir nad oes gan y Partneriaethau gyllid digonol, bod diffyg
eglurdeb am eu rôl o fewn y system yn y dyfodol a bod angen
gwella ymgysylltu gydag ystod ehangach o gyflogwyr a phartneriaid
cymdeithasol eraill. Oherwydd hyn mae'r adolygiad gan y Pwyllgor yn
gyfle amserol a phwysig i ystyried eu rôl a'u.
diben yn y dyfodol.
b) Er bod gwerth yn y cynlluniau blynyddol ar gyflogaeth a sgiliau a gynhyrchir gan y Partneriaethau, credwn y dylid symud eu ffocws i gylch dwy i dair blynedd. Bydd hyn yn rhoi cefnogaeth well i ddarparwyr gyda chynllunio ac ail-lunio darpariaeth mewn ymateb i alw a ddynodwyd a sicrhau bod buddsoddiad yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion sgiliau y dyfodol.
c) Mae diffyg eglurdeb am statws a rôl y Partneriaethau ar gyfer y dyfodol. Yn neilltuol, bydd yn bwysig i egluro rôl y Partneriaethau fel rhan o'r broses i sefydlu'r Comisiwn ôl-orfodol newydd.
d) Nid oes cyswllt digonol rhwng y Partneriaethau a chyflogwyr, yn neilltuol fusnesau bach a chanolig. Credwn fod hyn yn adlewyrchu'r diffyg adnoddau sydd ar gael iddynt yn ogystal â her ehangach ymgysylltu a diwallu anghenion cymuned fusnes amrywiol.
Credwn fod consensws eang ymysg llawer o'r sector nad yw Partneriaethau yn cael adnoddau digonol i gyflawni'r rôl a ddisgwylir ganddynt fel cyfryngwr rhwng cyflenwad a galw o fewn y system sgiliau. Yn ymarferol, ein profiad yw mai nifer gymharol fach o bobl sy'n ymgymryd â'r gwaith, gall eu gallu i ymgysylltu gael ei gyfyngu gan y diffyg capasiti hwn a bod yn awr hyd yn oed fwy o alwadau arnynt i helpu gwasanaethu a chefnogi gwaith y gwahanol Fargeinion Dinesig a Thwf.
Er ei bod yn
amlwg fod diffyg cyllid yn broblem i'r holl sector cyhoeddus, mae
effaith cyllid annigonol ar gyfer y Partneriaethau yn arwyddocaol
gan y gallai olygu nad yw buddsoddiad ehangach yn y sector
ôl-orfodol yn cael ei dargedu'n effeithlon i ddiwallu
anghenion sgiliau'r economi yn y dyfodol. Os na chânt eu
trin, bydd y cyfyngiadau ar adnoddau a wynebant yn parhau i
effeithio ar led y gwaith y gallant ymgymryd ag ef, yn cynnwys eu
gallu i ymgysylltu gyda chyflogwyr a datblygu gwybodaeth fanwl ac
amserol ar y farchnad lafur.
O'n cysylltiadau gyda gwahanol randdeiliaid, mae hefyd yn glir nad cynhyrchu cynllun blynyddol ar sgiliau a chyflogaeth yw'r ffordd fwyaf addas i ddatblygu darlun o angen ar draws rhanbarthau.
Ein barn ni, ac un y credwn a gaiff ei rhannu gan bartneriaid ar draws y sector, yw y dylai Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol roi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn gwybodaeth ar y farchnad lafur i gynnig safbwynt tymor canol i hirdymor ac ar weithio gyda darparwyr i wneud y system yn fwy ymatebol i angen a ddynodwyd.
Ni chredwn fod y cylch blynyddol presennol yn rhoi'r safbwynt tymor hirach mae darparwyr ei angen i lunio a chynllunio darpariaeth i ateb y galw. Bydd gwahanol safbwyntiau am gwmpas amser priodol unrhyw gynllun, ond credwn mai cylch dwy i dair blynedd fyddai fwyaf addas. Byddai hyn yn cydbwyso'r angen am gasglu data a dadansoddiad cadarn ac amserol a rhoi amser i ddarparwyr newid ac addasu i flaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg. Yn bwysicaf oll, dylai'r cynllun fod yn ddogfen fyw sy'n ddigon hyblyg i ymateb i'r galw sy'n dod i'r amlwg a'r newid mewn amgylchiadau.
Mae'n rhaid i'r prosesau dadansoddi a chynllunio hefyd roi ystyriaeth i flaenoriaethau strategol ehangach. Dylai sefyllfa menywod yn y farchnad lafur a sicrhau y rhoddir ffocws digonol ar anghenion pobl anabl (un ai yn ymuno neu'n aros yn y farchnad lafur) fod yn ddau faes penodol i gael eu hystyried. Dylai'r Partneriaethau gael adnoddau a chefnogaeth i weithredu safbwynt rhywedd a chynhwysiant ehangach i'r gwaith hwn.
Hefyd, o gofio am y cyfyngiadau adnoddau ar y Partneriaethau, mae'n debygol y bydd gan lawer o ddarparwyr ddealltwriaeth fwy soffistigedig a manwl o'u marchnadoedd llafur lleol. Os mai'r bwriad yw i Lywodraeth Cymru gyfeirio mwy o gyllid i ddiwallu'r anghenion strategol a ddynodwyd gan y Partneriaethau, yna mae'n rhaid iddynt gael adnoddau digonol i ymgysylltu'n fanwl gyda chyflogwyr, er mwyn datblygu gwybodaeth soffistigedig am y farchnad lafur a chymryd safbwynt tymor hirach i helpu ail-lunio darpariaeth.
Yn olaf,
dylai fod ffocws cliriach gan y Partneriaethau a hefyd
Lywodraeth Cymru ar y potensial ar gyfer cynnydd ar gyfer oedolion
gyda lefelau isel o sgiliau ac ar gyfer y rhai sydd eisoes mewn
gwaith i helpu diwallu anghenion sgiliau'r dyfodol. Mae'n hanfodol
fod ffocws yn parhau ar draws pob un o'r tri rhanbarth i oedolion
fedru cael mynediad i sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol ac y
gwelir y rhain fel rhan o'r daith cynnydd ehangach ar gyfer
unigolion. Mae risg y gallai apêl ffocws ar sgiliau lefel
uwch ddod ar draul mynediad lefel mynediad a lefel is.
Mae gennym bryder neilltuol am allu'r Partneriaethau i ymgysylltu gyda rhanddeiliaid yn eu rhanbarthau, ac yn neilltuol gyda busnesau bach a chanolig. Nid yw hyn i feirniadu gweithgareddau ymgysylltu presennol y Partneriaethau ond yn hytrach y dylent gael yr adnoddau i gynnal mwy o waith ymgysylltu ac i sicrhau na chaiff ei safbwynt ei lywio'n unig gan farn y cyflogwyr hynny sydd â'r gallu i gymryd rhan mewn pwyllgorau a phrosesau.
Bydd deall safbwyntiau ac anghenion y rhai nad ydynt yn ymgysylltu ar hyn o bryd gyda gwaith y Partneriaethau yn rhan bwysig o ddarparu ein cymunedau ar gyfer y dyfodol, yn cynnwys yn yr economi sylfaenol. Mae Arolwg Cyfranogiad y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dangos fod pobl yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn rhyw fath o ddysgu neu gaffael sgiliau sydd wedi''u cysylltu mewn rhyw ffordd gyda'u cyflogwyr (naill ai yn y gweithle neu wedi ei drefnu yn neu gan y gwaith)[1] tra dengys tystiolaeth gan y Ffederasiwn Busnesau Bach fod llawer o fusnesau bach a chanolig yn gwneud penderfyniadau am anghenion sgiliau eu staff heb ymgysylltu gyda'r sector cyhoeddus. Heb fwy o ymgysylltu uniongyrchol gyda chyflogwyr, dim ond darlun cyfyngedig fydd gan y Partneriaethau i seilio eu penderfyniadau am flaenoriaethau ac anghenion y dyfodol arno. Credwn y dylai ystyried p'un ai yw'r Partneriaethau yn ymgysylltu'n effeithlon gyda busnesau bach a chanolig ac yn fwy eang gyda'r sector preifat yn ei gyfanrwydd fod yn ffocws i'r pwyllgor.
Yn yr un
modd, dylid rhoi mwy o ystyriaeth i rôl ffurfiol undebau
llafur wrth ymgysylltu gyda'r Partneriaethau. Drwy TUC Cymru mae
arbenigedd sylweddol ar gael am anghenion hyfforddiant a sgiliau y
gweithlu ar draws ystod o sectorau a dylai fod dulliau clir ar
gyfer bwydo hyn i waith Partneriaethau unigol.
Mae diffyg eglurdeb mewn rhannau o'r sector am ròl a statws y Partneriaethau yn y dyfodol. Yn neilltuol, bydd angen eglurdeb gan Lywodraeth Cymru am rôl a statws ffurfiol y Partneriaethau dan y Comisiwn ôl-orfodol newydd. Yn benodol, dylid rhoi ystyriaeth i p'un a ddylid rhoi sail statudol i'r Partneriaethau.
Credwn ni,
os yw cyllid ar gyfer darparwyr i gael ei alinio'n agosach gyda'r
anghenion a ddynodwyd gan y Partneriaethau, yna dylai fod dull i
graffu'n briodol ar eu gwaith. Gall felly fod yn addas i roi sail
statudol iddynt neu eu gwneud yn rhan o'r Comisiwn newydd.
a) Dylid egluro ròl a diben y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer y dyfodol a dylent gael adnoddau addas i ddarparu'r gwaith. Dylid ystyried hyn yng nghyd-destun seilwaith sgiliau llai cydlynol yn y Deyrnas Unedig a chynlluniau i greu Comisiwn sector ôl-orfodol newydd yng Nghymru.
b) Dylid disodli'r cynllun blynyddol ar sgiliau a chyflogaeth gyda chylch cynllunio hyblyg dwy neu dair blynedd. Byddai hyn yn galluogi darparwyr i siapio a chynllunio ddarpariaeth yn well i ateb i angen economaidd a helpu i sicrhau fod y system yn fwy hyblyg ac yn fwy ymatebol.
c) Dylai Partneriaethau ymgysylltu mewn ffordd fwy manwl a systematig gyda chyflogwyr (yn neilltuol fusnesau bach a chanolig) a defnyddio arbenigedd y mudiad undebau llafur i lywio eu gwaith.
d) Dylai fod yn ofynnol i'r Partneriaethau ddadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur o safbwynt rhywedd i helpu menywod yn y gwaith ac i gefnogi pobl anabl i ymuno, aros a sicrhau cynnydd mewn cyflogaeth, a dylai'r Partneriaethau gael eu cefnogi i wneud hynny.
e) Wrth ystyried anghenion sgiliau y gweithlu yn y dyfodol, dylid rhoi mwy o bwyslais ar gefnogi cynnydd ar gyfer pobl sydd eisoes yn y gwaith, gwell cysylltiadau gyda'r sector addysg oedolion, a sicrhau fod buddsoddiad digonol mewn cymwysterau lefel mynediad ac ar sgiliau sylfaenol llythrennedd, rhifedd a digidol. Bydd y rhain yn parhau i fod yn sylfeini ar gyfer cynnydd ac ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a dylent fod yn flaenoriaeth ar gyfer y dyfodol.