GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

121 - Rheoliadau Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Rheoliadau'r Cyngor) (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 13 Chwefror 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 62

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol 

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Y Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd yw'r fframwaith ar gyfer mesurau'r farchnad y darperir ar eu cyfer o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin (“PAC”), gan ddarparu'r fframwaith ar gyfer cynlluniau cymorth y farchnad sydd wedi'u sefydlu yn y gwahanol sectorau amaethyddol. Sefydlwyd y Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd fel modd o gyflawni amcanion y PAC ac yn arbennig i sefydlogi marchnadoedd, sicrhau safon deg o fyw ar gyfer cynhyrchwyr amaethyddol a chynyddu cynhyrchiant amaethyddol. Dros amser, mae wedi ymestyn i ddarparu pecyn cymorth sy'n galluogi'r UE i reoli anwadalrwydd y farchnad, cymell cydweithrediad rhwng cynhyrchwyr amaethyddol a'u cystadleurwydd, a hwyluso masnach. 

Mae Rheoliadau 2019 yn gwneud diwygiadau i amrywiol ddeddfwriaeth bresennol yr UE sy'n ffurfio rhan o gyfraith y DU yn ymwneud â'r Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd.

 

Mae Rheoliadau 2019 yn darparu atebion gweithredadwyedd i'r meysydd polisi a ganlyn: ymyrraeth gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat, cynlluniau cymorth, safonau marchnata, sefydliadau cynhyrchwyr, rheolau mewnforio ac allforio a mesurau argyfwng.

 

Mae Rheoliadau 2019 hefyd yn darparu'r atebion gweithredadwyedd angenrheidiol ar fesurau darparu gwybodaeth a hyrwyddo ynghylch cynhyrchion amaethyddol a weithredir yn y farchnad fewnol ac mewn trydydd gwledydd.   Ar ôl ymadael â'r UE a heb ei diwygio, byddai deddfwriaeth yr UE a ddargedwir yn cynnwys darpariaethau anweithredadwy a fyddai'n atal cynlluniau cymorth y farchnad i'r sector amaethyddol.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 19 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Mae'r datganiad yn nodi bod darpariaeth yn yr offeryn sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau o ran Cymru yn ddilyffethair ac i Weinidogion Cymru roi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer swyddogaethau o ran Cymru.

 

Ymhellach, gallai swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol sydd i'w harfer ar y cyd â Gweinidogion Cymru fod yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'n bosibl y gallai hynny fod yn ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol.

 

Ymhellach, mae'r datganiad yn nodi bod swyddogaethau a drosglwyddir fel eu bod yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig neu a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol ond nad ydynt ond yn arferadwy gyda chy[d]syniad Gweinidog Cymru yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.