GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

113 - Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid, Iechyd Planhigion, Hadau a Thatws Hadyd (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

 

Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 12 Chwefror 2019

 

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Ydynt

Y weithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

26 Chwefror 2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

W/D 25/02/2019

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

28 Chwefror 2019

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 48

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw'n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Nid yw'n hysbys 

Gweithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw'n hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag:

 

·         adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi, ac

·         adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

 

Defnyddir yr olaf o'r pwerau hynny i ymgorffori newidiadau diweddar i gyfraith yr UE a gedwir.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn ceisio sicrhau, ym meysydd masnach anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid, cynhyrchu bwyd anifeiliaid, iechyd planhigion, a marchnata tatws hadyd, hadau llysiau amrywiol nad ydynt wedi'u rhestru a deunydd lluosogi ffrwythau, y bydd deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a deddfwriaeth ddomestig sy'n gweithredu rhai o Gyfarwyddebau'r UE yn parhau i fod yn weithredol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.

 

Mewn perthynas ag iechyd planhigion a thatws hadyd, mae'r offeryn hwn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth weithredu ddomestig a deddfwriaeth ar gyfer ymadael â'r UE er mwyn hwyluso masnach gyda Dibyniaethau'r Goron. Ac eithrio'r broses o ddiwygio deddfwriaeth ar gyfer ymadael â'r UE i adlewyrchu newidiadau diweddar i gyfraith yr UE, mae'r rhan fwyaf o'r newidiadau eraill y mae'n eu gwneud i ddeddfwriaeth gysylltiedig dim ond yn berthnasol i Loegr.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 18 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith, ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'r cam o Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.