GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

109 - Rheoliadau Cymorth Gwladol (Amaethyddiaeth a Physgodfeydd) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 12 Chwefror 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Wythnos yn dechrau 25/02/2019

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 39

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol 

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau  

 

Bwriedir i'r Rheoliadau cadarnhaol hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 iddi.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn ategu Rheoliadau Cymorth Gwladol (Ymadael â'r UE) 2019 (OS y Fframwaith Cymorth Gwladol) a osodwyd gan Lywodraeth y DU gerbron Senedd y DU.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn sicrhau bod modd gweithredu'r eithriadau amaethyddol, pysgodfeydd a PAC presennol o gyfundrefn Cymorth Gwladol yr UE. Maent yn cywiro cyfeiriadau diffygiol, er enghraifft, at y Comisiwn Ewropeaidd, yr Aelod-wladwriaethau a'r farchnad fewnol. Er enghraifft, yn Erthygl 5 o'r Rheoliad Esemptiad Bloc Amaethyddol, mae cyfeiriadau at ddatganiadau polisi'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn disodli cyfeiriadau at Hysbysiadau'r Comisiwn Ewropeaidd.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn trosglwyddo nifer o swyddogaethau mân y Comisiwn Ewropeaidd i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Er enghraifft, pan fydd y DU wedi mynd dros ei chyllideb Cymorth Gwladol flynyddol, dim ond am 6 mis y mae rhai categorïau wedi eu hesemptio rhag rheolau Cymorth Gwladol. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi'r pŵer i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ymestyn y cyfnod 6 mis hwn.

 

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud newidiadau mân i ddeddfwriaeth PAC arall ym maes Cymorth Gwladol.

 

Fel yn achos OS y Fframwaith Cymorth Gwladol, mae anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch a yw Cymorth Gwladol wedi ei ddatganoli.

 

Ymhellach, fel y nodwyd uchod, mae'r Rheoliadau hyn yn trosglwyddo swyddogaethau i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, sy'n awdurdod a gedwir. O dan y model cadw pwerau, ni fyddai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael dileu nac addasu swyddogaethau hynny'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd heb gydsyniad Llywodraeth y DU.

 

O wybod effaith arwyddocaol y Rheoliadau hyn, efallai y bydd yr Aelodau am ystyried ysgrifennu at y Pwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi er mwyn:

 

(a)   cefnogi dadl Llywodraeth Cymru bod Cymorth Gwladol wedi'i ddatganoli yng Nghymru,

(b)  nodi bod y Rheoliadau hyn yn enghraifft arall o is-ddeddfwriaeth sy'n cyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (er ei fod mewn maes cymharol gul). 

 

Efallai y bydd y Pwyllgor hefyd am ddwyn y mater i sylw Pwyllgor Cyfansoddiad y Tŷ hwnnw.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 15 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn dwyn y materion a ganlyn i sylw'r Pwyllgor mewn perthynas â pharagraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.

 

Fel y nodwyd yn natganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru:

 

“Er mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw bod Cymorth gwladol yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ac nid yn fater a gedwir yn ôl o dan unrhyw un o benawdau'r Atodlen Materion a Gedwir yn Ôl i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, nid yw Llywodraeth y DU o'r un farn. Felly, nid yw Llywodraeth y DU wedi gofyn am gydsyniad Gweinidogion Cymru o dan delerau'r Cytundeb Rhynglywodraethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU am eglurhad o'i safbwynt cyfreithiol ond ni chafwyd unrhyw ymateb.

 

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn fodlon bod effaith Rheoliadau Cymorth Gwladol (Ymadael â'r UE) 2019 a Rheoliadau Cymorth Gwladol (Amaethyddiaeth a Physgodfeydd) (Ymadael â’r UE) 2019 gyda'i gilydd yn cyflawni amcanion polisi cyffredinol Gweinidogion Cymru o ennyn hyder partneriaid yr UE, a chadw'r hyder hwnnw, drwy helpu i sicrhau, a hynny mewn modd deinamig, bod cysondeb â rheolau Cymorth gwladol yr UE a bod modd cysoni'n effeithiol ar draws y DU. Yn ei dro, bydd hyn yn hollbwysig ar gyfer ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i sicrhau bod Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a fydd yn sylfaen i'r rheoliadau yn darparu fel bod gan Weinidogion Cymru rôl ystyrlon yn y broses o weinyddu cyfundrefn Cymorth gwladol y DU gyfan.”