GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

104 - Rheoliadau Mesurau'r Farchnad (Safonau Marchnata) (Diwygio

Deddfwriaeth Uniongyrchol yr UE) (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 13 Chwefror 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Wythnos yn dechrau 25/02/2019

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 30

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol 

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Y Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd yw'r fframwaith ar gyfer mesurau'r farchnad y darperir ar eu cyfer o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin (“PAC”), gan ddarparu'r fframwaith ar gyfer cynlluniau cymorth y farchnad sydd wedi'u sefydlu yn y gwahanol sectorau amaethyddol. Sefydlwyd y Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd fel modd o gyflawni amcanion y PAC ac yn arbennig i sefydlogi marchnadoedd, sicrhau safon deg o fyw ar gyfer cynhyrchwyr amaethyddol a chynyddu cynhyrchiant amaethyddol. Dros amser, mae wedi ymestyn i ddarparu pecyn cymorth sy'n galluogi'r UE i reoli anwadalrwydd y farchnad, cymell cydweithrediad rhwng cynhyrchwyr amaethyddol a'u cystadleurwydd, a hwyluso masnach. 

 

Mae Rheoliadau 2019 yn gwneud diwygiadau i amrywiol ddeddfwriaeth bresennol yr UE sy'n ffurfio rhan o gyfraith y DU yn ymwneud â'r Trefniant Cyffredin ar gyfer Marchnadoedd.

Mae Rheoliadau 2019 yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir ac sy'n uniongyrchol gymwys mewn perthynas â safonau marchnata bwyd. Bydd Rheoliadau 2019 yn sicrhau y bydd safonau marchnata yn y sector bwyd yn weithredadwy ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.  Ar ôl ymadael â'r UE a heb ei diwygio, byddai deddfwriaeth yr UE a ddargedwir yn cynnwys darpariaethau anweithredadwy a fyddai'n atal cynlluniau cymorth y farchnad i'r sector amaethyddol.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 15 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Mae'r datganiad yn nodi bod yr offeryn hwn yn cynnwys darpariaethau sydd:

  • yn galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau o ran Cymru yn ddilyffethair;
  • yn rhoi swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyda chy[d]syniad Gweinidogion Cymru, ac ar un achlysur drwy ymgynghori. Mae un swyddogaeth gwneud rheoliadau yn cael ei rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol yn ddilyffethair.

 

Gallai swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig neu â chydsyniad Gweinidogion Cymru fod yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.