GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

119 - Rheoliadau’r Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 14 Chwefror 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

W/C 25/02/2019

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 58

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol 

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau domestig, rheoliadau yr UE a ddargedwir a rheoliadau yr UE sy'n uniongyrchol gymwys a phenderfyniadau yr UE sy'n uniongyrchol gymwys, sy'n gweithredu gwahanol reoliadau a chyfarwyddebau Ewropeaidd sy'n ymwneud â:

·         gwirodydd;

·         labelu bwyd;

·         gwinoedd a gwinoedd wedi'u persawru;

·         organeddau a addaswyd yn enetig; ac

·         iechyd anifeiliaid.

(Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio deddfwriaeth ar gyfer Lloegr yn unig mewn perthynas â dŵr mwynol naturiol). Diben y diwygiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu gwneud yw sicrhau y gall y cyfundrefnau polisi presennol barhau i weithredu'n effeithiol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru (y datganiad) dyddiedig 19 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

Mae Rheol Sefydlog 30C.3(ii) yn datgan bod yn rhaid i ddatganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru “nodi unrhyw effaith y caiff yr offeryn statudol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru”.

 

Dywed y datganiad:

Mae'r offeryn hwn yn cynnwys darpariaethau sy'n trosglwyddo swyddogaethau mewn cysylltiad â Chymru i'r Ysgrifennydd Gwladol.

Gallai swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol i'w harfer yn gydamserol gyda Gweinidogion Cymru fod yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'n bosibl, felly, fod hynny'n ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol.

 

Mae'r swyddogaethau sydd wedi eu trosglwyddo fel mai dim ond yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru all eu hymarfer yn swyddogaethau Gweinidog y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.

 

Rydym yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau dynodiadau daearyddol, gan fod anghytundeb rhwng y ddwy lywodraeth ynghylch a yw hwn yn fater datganoledig yntau'n fater a gedwir yn ôl. Gan fod Llywodraeth y DU o'r farn mai mater a gedwir yn ôl yw hwn, nid yw'n credu ei fod yn ddarostyngedig i delerau'r Cytundeb Rhynglywodraethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio swyddogaethau ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y cyd o fewn yr offeryn hwn mewn perthynas â chynlluniau dynodiadau daearyddol, ond mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod o'r farn mai mater a gedwir yn ôl yw hwn.

 

Mae'r datganiad yn cyfeirio at bwysau o ran amser:

Rydym yn derbyn bod Llywodraeth y DU wedi gweithredu'n ddidwyll o dan y Cytundeb Rhynglywodraethol ac ni fu'n bosib datrys y mater yn yr amser sydd ei angen i sicrhau bod gennym lyfr statud sy'n gweithio.

 

Mae'r datganiad hefyd yn cyfeirio at ohebiaeth rhwng y partïon:

Fodd bynnag, yn y llythyrau a gyfnewidiwyd rhwng Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a'r Ysgrifennydd Gwladol, cafwyd addewidion ysgrifenedig y bydd gan yr holl Weinyddiaethau Datganoledig ran wrth weithredu'r cynllun newydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i sicrhau bod Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a fydd yn sylfaen i'r offeryn yn darparu bod gan Weinidogion Cymru rôl ystyrlon yn y broses o weinyddu'r cynllun. Mae cydsyniad felly wedi'i roi ar yr amod yr eir i'r afael â hyn maes o law a gwnaed yn glir bod y cydsyniad wedi'i roi heb ragfarnu'n sefyllfa o ran cymhwysedd deddfwriaethol. 

 

Mae Rheol Sefydlog 30C.3(iii) yn nodi bod yn rhaid i ddatganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru "pan fo Gweinidogion Cymru wedi cydsynio i Weinidogion y DU wneud yr offerynnau statudol perthnasol, esbonio'r rhesymau pam y rhoddwyd cydsyniad". Mae'r datganiad yn nodi'n glir y rhesymeg dros roi cydsyniad i'r darpariaethau yn ymwneud â bwyd, diod, organeddau a addaswyd yn enetig a mewnforio a masnachu cynhyrchion anifeiliaid. Fodd bynnag, mewn perthynas â chynlluniau Dynodiadau Daearyddol, mae'r rhesymeg o ran pam mae Gweinidogion Cymru wedi cydsynio i wneud y darpariaethau hyn yn llawer llai clir, yn enwedig o gofio bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn anghytuno ynghylch ai mater datganoledig yw hwn.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn tynnu sylw at y sylwadau uchod ynghylch datganiad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pharagraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.