GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

122 - Rheoliadau Dileu a Rheoli Afiechydon Milheintiol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 14 Chwefror 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

W/C 25/02/2019

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 64

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol 

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 iddi.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir sy'n amddiffyn iechyd pobl rhag afiechydon milheintiol (yn enwedig salmonella) fel y bydd yn parhau i fod yn weithredol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Clefydau milheintiol yw'r rheini a all drosglwyddo o anifeiliaid i bobl.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 19 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

1.        Mae'r datganiad ysgrifenedig hwn wedi cael ei ailgyhoeddi oherwydd y cafodd y Rheoliadau eu gosod gan Lywodraeth y DU gerbron y pwyllgor sifftio ar 20 Tachwedd 2018, eu clirio gan y pwyllgor sifftio ar 7 Rhagfyr 2018, eu tynnu yn ôl, a'u hailosod ar 11 Chwefror 2019. Roedd hyn yn sgil darpariaethau ychwanegol a ychwanegwyd ar ôl gosod oherwydd y mynegodd y gweinyddiaethau datganoledig eu bod yn ffafrio gweld y darpariaethau'n cael eu drafftio i drosglwyddo swyddogaethau deddfwriaethol o'r Comisiwn Ewropeaidd i'r DU fel bod y swyddogaethau hyn yn gorwedd gyda phob gweinyddiaeth, yn hytrach na chyda'r Ysgrifennydd Gwladol.

 

2.      Mae'r datganiad fel a ganlyn:

"O safbwynt cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, gallai swyddogaethau sydd wedi'u trosglwyddo i'r Ysgrifennydd Gwladol i'w harfer ar yr un pryd drwy gydsyniad gan Weinidogion Cymru gael eu trin fel swyddogaethau Gweinidog y Goron at ddibenion Atodlen 7B [sic] i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'n bosibl, felly, fod hynny'n ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol. [ychwanegwyd pwyslais]

 

Byddai swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol sydd ond yn arferadwy â chydsyniad Gweinidogion Cymru yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth [sic] Cymru 2006.  Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.”  [ychwanegwyd pwyslais]

 

3.      Mae Rheol Sefydlog 30C.3(ii) yn ei gwneud yn ofynnol i'r datganiad ysgrifenedig “nodi unrhyw effaith y caiff yr offeryn statudol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru”. Mae'r datganiad hwn (ac yn arbennig y brawddegau sy'n cael eu hamlygu uchod) yn awgrymu yn hytrach na'n pennu.

4.       

5.      Gofynnwyd am eglurhad gan y Pwyllgor ar bwynt tebyg mewn perthynas â Rheoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019. Yn ei hymateb dyddiedig 7 Chwefror 2019 i lythyr y Pwyllgor dyddiedig 31 Ionawr 2019, cyfeiriodd y Gweinidog at ei hymateb i ymholiadau a godwyd mewn perthynas â Rheoliadau Hawliau Bridwyr Planhigion (Diwygio etc.) (Ymadael â UE) 2018. Yma, dywedodd y Gweinidog:

 

"Mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Swyddfa Cymru am y cyfyngiadau anfwriadol ar gymhwysedd y Cynulliad sydd wedi'u creu gan bwerau a roddwyd mewn OSau sy'n gysylltiedig ag ymadael â'r UE ac mewn deddfwriaeth arall sy'n rhoi effaith i baragraffau 8, 10 ac 11 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion yn edrych ar y mater yn fanwl ac yn ystyried sut orau i'w ddatrys.  Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n rheolaidd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, am hynt y trafodaethau hynny."

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.