GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
120 - Rheoliadau Bwyd a Ffermio (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 14 Chwefror 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
W/C 25/02/2019 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
5 Mawrth 2019 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 60 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Anhysbys |
Gweithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth yr UE sy'n ymwneud ag organeddau a addaswyd yn enetig, gwin, gwirodydd a thaliadau uniongyrchol. Mae'r diwygiadau'n cynnwys newidiadau technegol yn bennaf, sy'n golygu y bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn parhau i fod yn weithredadwy yng nghyd-destun y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac felly'n dod yn 'drydedd wlad' mewn perthynas â'r UE. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir ynghylch cynlluniau Dynodiadau Daearyddol. Mae Dynodiadau Daerdyddol yn ffurf ar ddiogelu eiddo deallusol ar gyfer enwau cynhyrchion amaethyddol, bwyd a diod, y gellir priodoli eu rhinweddau neu eu nodweddion i'r rhanbarth neu'r ardal lle y cânt eu cynhyrchu a/neu'r dulliau traddodiadol a ddefnyddir i'w cynhyrchu. Mae'r enghreifftiau'n cynnwys cig oen Cymru, chwisgi'r Alban, hufen Iwerddon a chwrw Swydd Gaint. Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 19 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:
"Mae'r offeryn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.”
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn tynnu sylw at baragraffau 3 a 4 yn y sylwadau uchod ynghylch datganiad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pharagraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.
|