GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
116 - Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Darpariaethau Atodol Cyllido, Rheoli a Monitro) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 13 Chwefror 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Na |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Dd/B |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw’n hysbys |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Dd/B |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 54 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dd/B |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Dd/B |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw'n hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio a diddymu nifer o ddarnau o Ddeddfwriaeth yr UE. Bwriad y Rheoliadau hyn yw sicrhau y bydd rheoliadau "Llorweddol" Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE a ddargedwir yn gweithio’n effeithiol ledled y DU ar ôl i’r DU adael yr UE, gan gynnal sefyllfa fel y mae hi ar hyn o bryd a galluogi taliadau i barhau i ffermwyr neu reolwyr tir.
Mae’r Rheoliadau yn diwygio’r ddeddfwriaeth ganlynol:
· Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) Rhif 640/2014 ar 11 Mawrth 2014 sy’n ategu Rheoliad (UE) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig a’r amodau ar gyfer gwrthod taliadau a’u galw’n ôl a chosbau gweinyddu sy’n gymwys i daliadau uniongyrchol, cymorth datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio; · Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) Rhif 809/2014 ar 17 Gorffennaf 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (UE) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig, cymorth datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio; · Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) Rhif 906/2014 ar 11 Mawrth 2014 sy’n ategu Rheoliad (UE) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor mewn perthynas â gwariant ar ymyrraeth gyhoeddus; · Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) Rhif 907/2014 ar 11 Mawrth 2014 sy’n ategu Rheoliad (UE) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor mewn perthynas â thalu asiantaethau a chyrff eraill, rheolaeth ariannol, clirio cyfrifon, gwarantau a defnyddio’r ewro; · Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) Rhif 908/2014 ar 6 Awst 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (UE) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor mewn perthynas â thalu asiantaethau a chyrff eraill, rheolaeth ariannol, clirio cyfrifon, rheolau ar wiriadau, gwarantau a thryloywder;
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu’r Rheoliadau canlynol:
· Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) Rhif 834/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso fframwaith monitro a gwerthuso cyffredin y polisi amaethyddol cyffredin; · Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) Rhif 2015/1971 sy’n ategu Rheoliad (UE) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor â darpariaethau penodol ar adrodd am afreoleidd-dra ynghylch Cronfa Gwarant Amaethyddol Ewrop a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig ac yn diddymu Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 1848/2006; · Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) Rhif 2015/1975 sy’n nodi amlder a fformat adrodd am afreoleidd-dra ynghylch Cronfa Gwarantau Amaethyddol Ewrop a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, o dan Reoliad (UE) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor; · Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) Rhif 367/2014 sy’n pennu’r balans net sydd ar gael o ran gwariant Cronfa Gwarant Amaethyddol Ewrop. · Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) 2017/1758 sy’n gosod ffurf a chynnwys y wybodaeth gyfrifeg i’w chyflwyno i’r Comisiwn at ddibenion clirio cyfrifon Cronfa Gwarant Amaethyddol Ewrop a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig yn ogystal ag at ddibenion monitro a rhagfynegi.
Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 15 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae’r datganiad yn nodi, yn ychwanegol at swyddogaethau sy’n cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn ddilyffethair, bod dwy swyddogaeth yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol ac Awdurdodau Datganoledig eraill y gellir eu harfer ar y cyd ganddynt hwy yn unig.
Mae’r datganiad yn nodi ymhellach, bod swyddogaethau a drosglwyddir i’r Ysgrifennydd Gwladol sy’n arferadwy ar y cyd â Gweinidogion Cymru yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gallai hyn fod yn ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o’r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.
|