GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
||
Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 13 Chwefror 2019 |
||
Sifftio |
||
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
|
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
|
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
26 Chwefror 2019 |
|
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
W/C 25 Chwefror 2019 |
|
Y Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
4 Mawrth 2019 |
|
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 22 |
|
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw'n ofynnol |
|
Gweithdrefn graffu |
||
Canlyniad y broses sifftio |
Ddim yn hysbys |
|
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
|
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
|
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
|
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
|
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau technegol i ddeddfwriaeth sylfaenol uniongyrchol yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir, er mwyn cywiro diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy'n codi wrth i'r DU ymadael â'r UE.
Effaith y Rheoliadau yw sicrhau y bydd y fframwaith cyfreithiol ym maes labelu bwyd yn parhau i weithredu ar ôl y diwrnod ymadael. Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 19 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|