GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

117 - Rheoliadau Amaethyddiaeth (Swyddogaethau Deddfwriaethol) (Ymadael â'r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 13 Chwefror 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

W/C 25/02/2019

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 56

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol 

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r offeryn hwn yn diwygio darpariaethau deddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd (yr "UE") sy'n ymwneud â Pholisi Amaethyddol Cyffredin yr UE a Chronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop, sy'n rhoi swyddogaethau deddfwriaethol i'r Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd. O dan y diwygiadau, bydd y swyddogaethau hyn yn arferadwy gan awdurdodau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig (y "DU").

 

Wrth wneud hynny, mae'r offeryn hwn yn newid yr awdurdod cyhoeddus a fydd yn cyflawni'r swyddogaethau penodol o dan Reoliadau'r UE a nodir yn natganiad Llywodraeth Cymru.  Mae hefyd yn trosi gweithdrefnau'r UE yn weithdrefnau'r DU, fel sy'n briodol.  Rhoddir y swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru a DAERA yng Ngogledd Iwerddon eu harfer yn eu meysydd priodol fel y manylir arnynt yn adran 6 o'r Memorandwm Esboniadol.  Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd arfer y swyddogaethau ar ran gweinyddiaeth ddatganoledig, ond gyda chaniatâd y weinyddiaeth honno yn unig.

 

Mae'r rheoliadau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn San Steffan.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 18 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

 

(1) Mae'r datganiad yn nodi:

 

"Mae darpariaeth yn yr OS hwn sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau o ran Cymru yn ddilyffethair ac i Weinidogion Cymru roi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer swyddogaethau o ran Cymru.  Byddai swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol i'w harfer yn gydredol â chydsyniad Gweinidogion Cymru yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron sy'n ymwneud â swyddogaeth ddatganoledig gymwys at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Mae'n bosibl, felly, bod hynny'n ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol. [Ein pwyslais ni]

 

Mae swyddogaethau a drosglwyddir fel eu bod yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig, neu a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol ond sy’n arferadwy gyda chydsyniad yr Awdurdodau Datganoledig yn unig mewn perthynas â thiriogaethau datganoledig, yn swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.” [Ein pwyslais ni]

 

Mae Rheol Sefydlog 30C.3(ii) yn ei gwneud yn ofynnol i'r datganiad ysgrifenedig "nodi unrhyw effaith y caiff yr offeryn statudol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a / neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru". Mae'r datganiad hwn (ac yn benodol y brawddegau a amlygir uchod) yn awgrymu yn hytrach na nodi'n fanwl.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar bwynt tebyg mewn perthynas â Rheoliadau Maeth (Diwygio ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019.  Yn ei hymateb dyddiedig 7 Chwefror 2019 i lythyr y Pwyllgor dyddiedig 31 Ionawr 2019, cyfeiriodd y Gweinidog at ei hymateb i gwestiynau a godwyd mewn perthynas â Rheoliadau Hawliau Bridwyr Planhigion (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2018. Yma, dywed y Gweinidog:

 

"[M]ae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Swyddfa Cymru am y cyfyngiadau anfwriadol ar gymhwysedd y Cynulliad sydd wedi'u creu gan bwerau a roddwyd mewn OSau sy'n gysylltiedig ag ymadael â'r UE ac mewn deddfwriaeth arall sy'n rhoi effaith i baragraffau 8, 10 ac 11 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion yn edrych ar y mater yn fanwl ac yn ystyried sut orau i'w ddatrys.  Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n rheolaidd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, am hynt y trafodaethau hynny."

 

(2) Mae paragraff 6.2 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi fel a ganlyn:

 

“The corrections made by this instrument relating to CAP financing and management, CAP Direct Payments schemes and CAP Rural Development will create legislative regimes for the UK that will respect the UK devolution settlements. The way in which legislative functions will be exercised will depend on the content and scope of the power in question. In most instances, where provisions are devolved, the legislative powers will be transferred to the relevant Ministers or Department of the constituent nations, but with provision for the Secretary of State to act on behalf of Scottish Ministers, Welsh Ministers or the Department of Agriculture, Environment and Rural Affairs (“DAERA”), where those Ministers or Department consent. The ability of the Secretary of State to be able to act for one or more of the devolved administrations will allow for powers to be exercised uniformly across the UK or across certain constituent nations, where it is convenient to do so. In certain cases, the ability of the Secretary of State to act with consent of Ministers does not apply to Wales.” [Ein pwyslais ni]

 

Nid yw'r Memorandwm Esboniadol yn egluro beth yw'r achosion hynny.  Nid yw datganiad Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y pwynt hwn, nac egluro ychwaith pryd y bydd yn gymwys na pham y mae'r dull a ddefnyddir yn yr achosion hynny yn wahanol.  Efallai y bydd y Pwyllgor yn am gael eglurhad gan y Gweinidog.

 

Nid yw datganiad Llywodraeth Cymru yn nodi pa bwerau deddfwriaethol y Cynulliad na pha bwerau gweithredol Gweinidogion Cymru y mae'r offeryn hwn yn effeithio arnynt. Mae cynghorwyr cyfreithiol yn argymell y dylid ceisio eglurhad ynghylch pa bwerau datganoledig yr effeithir arnynt.

 

Yn amodol ar yr uchod, mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.