GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

114 - Rheoliadau Cynhyrchu a Rheoli Organig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 13 Chwefror 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Na

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Dd/B

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw’n hysbys

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Dd/B

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 50

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dd/B

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Dd/B

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw'n hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio dau Reoliad yr UE ac Atodiad 2 i’r Cytundeb AEE. Diben y Rheoliadau hyn yw sicrhau bod safonau organig yn aros yr un peth ar gyfer gweithredwyr organig, ar ôl i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, fel y maent yn awr.

 

Mae’r Rheoliadau yn diwygio’r ddeddfwriaeth ganlynol:

 

·                     Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynnyrch organig;

·                     Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 889/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynnyrch organig o ran cynhyrchu, labelu a rheolaeth organig;

·                     Dirymir paragraff 54b o Bennod 12 o atodiad 2 i’r Cytundeb AEE.

 

Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 18 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o’r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.