GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

111 - Rheoliadau Bwyd, Diod, Meddyginiaethau a Gweddillion Milfeddygol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 13 Chwefror 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

W/C 25/02/2019

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 44

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol 

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 1 o Atodlen 4 a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Mae'r rhan fwyaf o'r offeryn hwn yn cywiro cyfraith yr UE a ddargedwir ynghylch cynlluniau Dynodiad Daearyddol. Mae'r gweddill yn gwneud nifer fechan o ddarpariaethau nad ydynt yn ymwneud â Dynodiad Daearyddol ynghylch safonau'r sector ar gyfer gwinoedd a gwirodydd ac ynghylch meddyginiaethau milfeddygol.

 

Mae Dynodiadau Daerdyddol yn ffurf ar ddiogelu eiddo deallusol ar gyfer enwau cynhyrchion amaethyddol, bwyd a diod, y gellir priodoli eu rhinweddau neu eu nodweddion i'r rhanbarth neu'r ardal lle y cânt eu cynhyrchu a/neu'r dulliau traddodiadol a ddefnyddir i'w cynhyrchu. Mae'r enghreifftiau'n cynnwys cig oen Cymru, chwisgi'r Alban, cwrw Swydd Gaint a llysywod Lough Neagh.

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 18 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

  1. Mae Rheol Sefydlog 30C.3(ii) yn datgan bod yn rhaid i'r datganiad ysgrifenedig “nodi unrhyw effaith y caiff yr offeryn statudol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru”.
  2. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y canlynol yn ei datganiad ysgrifenedig:

"Mae'r offeryn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i [Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006]. Gallai Bil Cynulliad yn y dyfodol sy’n ceisio gwaredu neu addasu'r swyddogaethau hyn sbarduno gofyniad i ymgynghori â Llywodraeth y DU. [ychwanegwyd pwyslais]

  1. Mae Llywodraeth Cymru, yn ei datganiad ysgrifenedig, wedi nodi y bu anghytundo â Llywodraeth y DU ynghylch a yw cynlluniau Enwau Bwyd Gwarchodedig a Dynodiadau Daearyddol yn faterion datganoledig neu'n faterion a gedwir yn ôl.
  2. Gan fod Llywodraeth y DU o'r farn mai materion a gedwir yn ôl yw'r rhain, nid yw'n credu eu bod yn ddarostyngedig i delerau'r Cytundeb Rhynglywodraethol. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai materion datganoledig yw'r rhain.
  3. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio swyddogaethau ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y cyd o fewn yr offeryn hwn mewn perthynas ag enwau bwyd a dynodiadau daearyddol, ond mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod o'r farn mai materion a gedwir yn ôl yw'r rhain.
  4. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi na fu'n bosibl datrys y materion hyn yn yr amser sydd ei angen i sicrhau llyfr statud sy'n gweithio.
  5. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi sicrwydd ysgrifenedig i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y bydd yr holl Weinyddiaethau Datganoledig yn ymwneud â gweithredu cynllun newydd y DU gyfan. Bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ategu'r offeryn hwn, ac mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod yn ceisio sicrhau y bydd Gweinidogion Cymru yn cynnig rôl ystyrlon o ran gweinyddu'r cynllun.
  6. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cydsyniad ar y sail yr eir i'r afael â hyn maes o law, ac esboniwyd nad yw'r cydsyniad hwn yn rhagfarnu ei sefyllfa o ran cymhwysedd deddfwriaethol.
  7. Mae Rheol Sefydlog 30C.3 (iii) yn nodi bod yn rhaid i'r datganiad ysgrifenedig "pan fo Gweinidogion Cymru wedi cydsynio i Weinidogion y DU wneud yr offerynnau statudol perthnasol, esbonio'r rhesymau pam y rhoddwyd cydsyniad."
  8. Mae datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru wedi esbonio'n glir y rhoddwyd cydsyniad er mwyn i Lywodraeth y DU wneud cywiriadau ynghylch materion sy'n ymwneud â gwin, gwirodydd a meddyginiaethau milfeddygol, a hynny mewn perthynas â Chymru, ac ar ei rhan, am resymau effeithlonrwydd a hwylustod ac oherwydd natur dechnegol y diwygiadau.
  9. Fodd bynnag, nid yw'r datganiad ysgrifenedig yn esbonio'n glir pam y rhoddwyd cydsyniad mewn perthynas â chynlluniau Enwau Bwyd Gwarchodedig a Dynodiadau Daearyddol er gwaethaf diffyg eglurhad ynghylch ai materion datganoledig neu faterion a gedwir yn ôl yw'r rhain.
  10. Ar wahân i hyn, mewn perthynas â drafftio datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru, mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn nodi bod y datganiad yn cyfeirio at deitl Saesneg yr offeryn fel "the Food, Drink, Veterinary Medicines and Residues (Amendments etc.) (EU Exit) Regulations 2019". Mewn gwirionedd, teitl yr offeryn hwn yw "the Food and Drink, Veterinary Medicines and Residues (Amendment etc.) (EU Exit) Regulations 2019” [pwyslais ychwanegol; mae "Amendment" yn unigol].

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn tynnu sylw at baragraffau 3 a 4 yn y sylwadau uchod ynghylch datganiad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pharagraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.