GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

110 - Rheoliadau Amgylchedd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019

Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 12 Chwefror 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Na

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Dd/B

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw’n hysbys

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Dd/B

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 42

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dd/B

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Dd/B

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw'n hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau a dirymiadau i nifer o gyfreithiau amgylcheddol i sicrhau eu bod yn weithredol ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio 4 o Reoliadau Comisiwn yr UE a 5 o  Reoliadau’r DU sy'n ymwneud â gadael yr UE. Maent hefyd yn dirymu darpariaethau penodedig mewn 18 o reoliadau eraill Comisiwn yr UE a Phenderfyniadau'r UE, a restrir yn gywir yn natganiad Llywodraeth Cymru.

 

 Nid oes unrhyw effaith ar gymhwysedd y Cynulliad, ond mae datganiad y Llywodraeth yn dweud, “nid yw'r Rheoliadau hyn yn rhoi swyddogaethau deddfwriaethol, ond maent yn rhoi swyddogaethau gweithredol i Weinidogion Cymru yn ddilyffethair.” Nid yw'r datganiad yn nodi beth yw'r “swyddogaethau gweinyddol” hyn. Mae'r Gwasanaethau Cyfreithiol wedi argymell bod y Pwyllgor yn gofyn am ragor o fanylion yn hyn o beth.

 

Ar wahân i'r pwynt hwn, mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 15    Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.