GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
108 - Rheoliadau Glanedyddion (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 14 Chwefror 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
W/C 25/02/2019 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amherthnasol |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 37 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Gweithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 648/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 31 Mawrth 2004 ynghylch glanedyddion ("y Rheoliad Glanedyddion") i'w alluogi i barhau i fod yn weithredadwy ar ôl ymadael â'r UE.
Mae'r Rheoliad Glanedyddion yn sefydlu rheolau cyffredin i ganiatáu gwerthu a defnyddio glanedyddion a syrffactyddion ar draws yr UE, ac mae'n cynnwys cymal diogelu er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd ac iechyd pobl yn cael eu diogelu rhag risgiau annisgwyl glanedyddion. Mae'r cymal diogelu yn caniatáu i Aelod-wladwriaethau weithredu cyfyngiadau cenedlaethol dros dro ar symudiad rhydd glanedyddion yn y Farchnad Sengl os oes pryderon am ddiogelwch. Mae hefyd yn darparu i'r Comisiwn Ewropeaidd wneud dadansoddiad o'r cyfiawnhad am unrhyw fesurau diogelu cenedlaethol ac i hysbysu'r holl awdurdodau cymwys cenedlaethol am lanedyddion peryglus, er mwyn ymestyn yr holl gyfyngiadau angenrheidiol i'r holl Aelod-wladwriaethau.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu cyfeiriadau at Aelod-wladwriaethau a'r Comisiwn Ewropeaidd yn y cymal diogelu ac yn darparu bod awdurdod priodol yn cychwyn camau gweithredu dros dro a chyfyngol mewn perthynas â chynnyrch lle mae gan yr awdurdod hwnnw resymau y mae modd eu cyfiawnhau dros gredu bod glanedydd penodol, er ei fod yn cydymffurfio â'r Rheoliad Glanedyddion, yn peri risg i ddiogelwch neu iechyd pobl ac anifeiliaid neu risg i'r amgylchedd. O ran Cymru, yr awdurdod priodol yw Gweinidogion Cymru lle byddai'r mater o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, a'r Ysgrifennydd Gwladol lle mae'n fater a gedwir yn ôl. Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 15 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|